Search Icon

| ENG

Adroddiad Addysg addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru

Mae’r adroddiad Addysg Addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru, gan yr Athro Calvin Jones (Ysgol Fusnes Caerdydd) mewn cyd-weithrediad a Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn Papur Gwyn i’w drafod sy’n galw i ni cydweddu sgiliau sydd angen ar gyfer y dyfodol gyda ein system addysg a cymwysterau yng Nghymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi dyletswyd ar corff cyhoeddus yng Nghymru i edrych i’r dyfodol a meddwl am yr effaith hirdymor o benderfyniadau. Canfu adolygiad diweddar gan Lywodraeth Cymru Cymru y bydd technolegau digidol yn arwain at ddisodli a chreu swyddi dros y ddegawd nesaf, gyda mwy o effaith ar sut rydym ni’n cael profiad o waith ac yn mynd i’r afael â gwaith. Ymhlith y canfyddiadau, mae’r adolygiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud y ffocws oddi ar arholiadau profion ac achredu, er mwyn pwysleisio gwybodaeth, addysg a sgiliau.

Mae’r byd yn newid. Canfu Adroddiad Swyddi’r Dyfodol 2018 fod disgwyl i 75 miliwn o swyddi gael eu disodli erbyn 2022 mewn 20 o’r prif economïau, dan ddylanwad cynnyrch newydd a thwf. Gyda heriau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol yn wynebu Cymru fel ymateb i’r argyfwng hinsawdd, cynyddu ein diwylliant a iaith, taclo tlodi, automeiddio a newid i ein poblogaeth – mae addysg a cymwysterau yn hanfodol ar gyfer swyddi’r dyfodol, ond maen nhw hefyd yn bwysig o ran hybu llesiant.

Mae’r Papur Gwyn i’w drafod yn cydwybod bod y Cwricwlwm i Gymru 2022 yn cyfle i feddwl hirdymor am sut rydym yn gwerthfawrogi, asesu a darparu sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Mae’n galw am:

  • Cynnydd sylweddol yn nifer y staff addysgu a’r adnoddau er mwyn darparu’r cwricwlwm newydd, i gyrraedd ei potentsial.
  • Darparu dysgu mewn partneriaeth â busnesau, elusennau a sefydliadau eraill ledled Cymru.
  • I ail-feddwl yn radical cymwysterau am oedran 16.
  • Mae’r papur yn ddadl nid yw TGAU bellach yn addas i’w pwrpas a dylent gael eu hailystyried er mwyn adlewyrchu uchelgais Cwricwlwm i Gymru 2022 a’r economi sy’n newid.
  • Asesiadau ganolbwyntio ar amrywiaeth, bod yn troi o gwmpas disgyblion, nid profion, gan ddarparu mwy o werth a budd academaidd.
https://youtube.com/watch?v=DRctUEkimvk%3Ffeature%3Doembed%22+frameborder%3D%220%22+allow%3D%22accelerometer%3B+autoplay%3B+clipboard-write%3B+encrypted-media%3B+gyroscope%3B+picture-in-picture%3B+web-share%22+referrerpolicy%3D%22strict-origin-when-cross-origin%22+allowfullscreen%3E%3C