Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 910 [source_item_id] => 7955 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 56597 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 6bd8dd84-4dfc-4381-bd73-deacbcefb7ae [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Derek Walker, Jane Davidson

Gofynnir i Lywodraeth Cymru rannu sut mae camau'n cael eu cymryd ar sero net, flwyddyn ar ôl i gymunedau helpu i lunio cynllun ar gyfer Cymru.

Sero net yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio lleihau allyriadau i sero yn effeithiol, er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd niweidiol sy’n achosi aflonyddwch a dinistr yng Nghymru a ledled y byd. 

Y llynedd, cyhoeddodd grŵp Her Sero Net Cymru 2035 gyfres o adroddiadau gyda’r nod o adnewyddu a chyflymu dull Cymru o leihau allyriadau mewn ffordd a oedd o fudd i bobl a chymunedau. 

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae ei gadeirydd Jane Davidson wedi ymuno â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, i alw am ddiweddariad – gyda rhybudd y gallai oedi cyn gweithredu fod ar gost i fywydau, bywoliaeth, iechyd a llesiant economaidd a byd naturiol sydd eisoes wedi’i ddisbyddu. 

Treuliodd y grŵp, sy’n cynnwys 25 o aelodau annibynnol gan gynnwys cynrychiolwyr ieuenctid, bron i ddwy flynedd yn nodi’r ffyrdd cyflymaf a thecaf o dorri allyriadau ar draws bwyd, ynni, trafnidiaeth, gwres a sgiliau. 

Tynnodd eu canfyddiadau sylw at fanteision eang eu cwmpas — o well iechyd cyhoeddus a diogelwch ynni i greu swyddi carbon isel — ac fe’u cefnogwyd gan weinidogion a addawodd na fyddai’r gwaith yn “eistedd ar y silff.” 

Nawr, mae Jane Davidson, cyn Weinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru, a Mr Walker wedi ysgrifennu ar y cyd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd. 

Dywedodd Jane Davidson: “Mae angen i’n llwybrau cyflawni 10 mlynedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth fod yn llunio polisi nawr, mewn partneriaeth â phobl Cymru, i gadw hinsawdd Cymru’n ddiogel ac adeiladu dyfodol gwell i’n plant.” 

Mae gan Derek Walker rôl i amddiffyn buddiannau pobl sydd heb eu geni eto, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dywedodd: 

“Bydd cyflawni sero net yn arafach ac yn anoddach os na fydd pobl a chymunedau’n ymgysylltu’n llawn. 

“Mae angen arweinyddiaeth gref arnom ar sero net a rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau’r manteision — o iechyd cyhoeddus gwell a diogelwch ynni i greu swyddi carbon isel.” 

Mae’r adroddiadau, a gomisiynwyd o dan gytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn nodi llwybr gweithredu 10 mlynedd o 2025–2035. 

Fe wnaethon nhw bwysleisio mai dim ond trawsnewidiad wedi’i gynllunio all fod yn drawsnewidiad cyfiawn, gan hefyd rhybuddio bod dulliau tymor byr, adweithiol yn peryglu canlyniadau anfwriadol a chostau uwch. 

Galwodd yr adroddiadau hefyd am ymgysylltu brys â’r cyhoedd i brofi a gweithredu syniadau, gan bwysleisio bod cyfran fawr o’r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi gweithredu ar newid hinsawdd, a bod gwell cyfranogiad yn hanfodol i sicrhau bod targed 2035 yn cael ei gyrraedd. Tynnodd y grŵp sylw at rôl cymunedau wrth gyflawni sero net, gan gynnwys perchnogaeth gymunedol ar asedau fel mannau gwyrdd ac ynni adnewyddadwy. Bydd Grŵp Her Sero Net Cymru 2035 yn ailymgynnull yr hydref hwn i asesu pa gynnydd a wnaed ers cyhoeddi’r adroddiadau – a beth arall sydd angen ei wneud i gyflymu newid. 

Mae’r comisiynydd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gadarnhau: 

  • Sut mae llwybrau cyflawni arfaethedig grŵp Her Sero Net Cymru 2025 wedi llunio polisi neu gyflawni.
  • A ydynt yn llywio’r gyllideb carbon nesaf (2031–35).
  • Sut maent yn arwain cynnydd cynnar ar y cynllun sero net nesaf (2026–30).

Anogir y cyhoedd, rhanddeiliaid a gwneuthurwyr penderfyniadau i gefnogi’r alwad hon am eglurder a gweithredu. 

Pan gyhoeddwyd yr adroddiad ar 16 Medi, 2024, dywedodd Mr Walker y byddai unrhyw ymateb ac eithrio un brys yn siomi pobl Cymru, sy’n haeddu gweithredu ar yr hinsawdd nawr sy’n gwneud eu bywydau’n well. Anogodd Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i weithio’n gyflym i roi’r canfyddiadau ar waith, gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, datblygu’r modelau ariannol cywir a pharatoi cynllun hirdymor. 

Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y comisiynydd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn gwneud sawl argymhelliad ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd sy’n canolbwyntio ar bobl. 

Er enghraifft, mae’n annog Llywodraeth Cymru i godi ei huchelgais a dyblu ei thargedau ynni cymunedol, fel y gall pŵer lleol, sy’n eiddo i gymunedau ac yn cael ei redeg ganddynt, ddatrys anghenion ynni Cymru yn y dyfodol.