Search Icon

| ENG

Offer

Cefnogi gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweithredu’n effeithiol a chydag uchelgais mewn ffordd sy’n gwella bywydau pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Yn unigryw yn ei huchelgais, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ysbrydoli Cymru ac eraill ar draws y byd. Ond nid yw’n cael ei weithredu ar y cyflymder a’r raddfa sydd ei angen o hyd.

Mae angen inni gau’r bwlch rhwng dyhead a chyflawni.

Dyna pam rydyn ni wedi datblygu offer ac adnoddau i helpu pobl a sefydliadau ar eu taith tuag at ddatblygu cynaliadwy a gweithredu heddiw er mwyn sicrhau gwell yfory.

Offer

Eich cynnydd hyd yn hyn

Gwiriwr Cynnydd Ffyrdd o Weithio

Mae ein hofferyn rhyngweithiol yn eich helpu chi a’ch sefydliad i hunanasesu ble rydych chi ar eich taith i wreiddio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn rhoi cyngor wedi’i deilwra ar y camau nesaf i’ch helpu chi i ddeall ble a sut gallwch chi barhau i wella.

 

Gweminar wedi’i recordio ar sut i ddefnyddio’r Gwiriwr

Canllawiau pellach ar gyfer cwblhau’r Gwiriwr

Fersiwn Llawn o’r Matrics Aeddfedrwydd

Cwblhewch y Gwiriwr Cynnydd

Mae meddwl yn y tymor hir wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Sut i Feddwl yn y Tymor Hir

Er mwyn cefnogi symudiad oddi wrth broblemau diffodd tanau ac atebion tymor byr, rydym wedi creu a chasglu adnoddau ar sut i edrych yn ymarferol i’r dyfodol a meddwl yn y tymor hir.

Dysgwch sut i feddwl yn y tymor hir