Cynnwys
Monitro ac Asesu
O dan y Ddeddf, mae dyletswydd gyffredinol Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys monitro ac asesu.
Yn syml, mae hyn yn golygu gwylio a barnu cynnydd cyrff cyhoeddus wrth gyflawni eu hamcanion.
Mae rôl y Comisiynydd hefyd yn cynnwys cefnogi cyrff cyhoeddus drwy amlygu arfer gorau ac annog cydweithio.
01
Rydym yn gweithio’n agos gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd â dyletswydd gyflenwol o dan y Ddeddf, ac ar hyn o bryd yn cwblhau Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd.
Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal o leiaf un archwiliad ym mhob corff cyhoeddus mewn cyfnod o bum mlynedd. Mae’r archwiliad yn ceisio darganfod i ba raddau y mae’r corff cyhoeddus wedi defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy a phum ffordd o weithio wrth osod ei amcanion llesiant a chymryd camau i’w cyflawni.
Mae natur gyflenwol ein swyddogaethau, yn ogystal ag ethos y ddeddfwriaeth (integreiddio, cydweithio a chynnwys yn arbennig) yn golygu ein bod yn cydweithio’n agos i geisio alinio ein swyddogaethau. Mae’n hollbwysig inni nad ydym yn anfon negeseuon anghyson at gyrff cyhoeddus a’n bod yn cyd-dynnu i’r un cyfeiriad i ysgogi’r newidiadau dwfn a chywir tuag at y Gymru a garem.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am eu gwaith, gan gynnwys archwiliadau ar gyrff cyhoeddus, ar eu gwefan yma.
Gallwch hefyd ddarllen adroddiad 2020 Archwilydd Cyffredinol Cymru yma sy’n ategu ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020.
02
Yn 2022, defnyddiodd y Comisiynydd ei phwerau Adran 20 o dan y Ddeddf i adolygu sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Yn unol â’r ffyrdd o weithio, buom yn gweithio ar y cyd â’r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru ar y gwaith hwn a’n galluogodd i nodi’r meysydd y mae angen eu gwella a’r arfer da y dylid ei ehangu.
Gallwch ddod o hyd i’n canfyddiadau a’n hadroddiad llawn ar ein gwefan yma.
03
Rhwng Ionawr ac Ebrill 2022, rhoddodd ein tîm adborth unigol i’r 14 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar eu hasesiadau llesiant drafft. Cyhoeddwyd ein canfyddiadau mewn adroddiad sydd ar gael yma.
04
Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, ym mis Mai 2020 defnyddiodd y Comisiynydd eu pwerau Adran 20 o dan y Ddeddf i adolygu i ba raddau y mae’r Ddeddf wedi llywio penderfyniadau caffael cyrff cyhoeddus.
Gallwch ddod o hyd i’n canfyddiadau a’n hadroddiad llawn yma.
05
Bob pum mlynedd, rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi asesiad cyffredinol ac argymhellion ar gyfer gwella mewn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.
Roedd ein gwaith monitro ac asesu cynnydd cyrff cyhoeddus yn sail i lawer o’r argymhellion yn ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020.
Bydd yr Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol nesaf yn cael ei gyhoeddi yn 2025.
06
Yn 2018/19, fe wnaethom ddatblygu methodoleg ar y cyd â chyrff cyhoeddus yn seiliedig ar hunanfyfyrio ac adolygiad gan gymheiriaid.
Cwblhawyd offeryn hunanfyfyrio gan bob corff cyhoeddus ac, yn dilyn cyfnod o ddysgu ar y cyd â chyrff cyhoeddus eraill, rhoesom gyngor unigol manwl i bob corff cyhoeddus ar sut i wella cynnwys yr amcanion a’u cyflawni’n gyflymach ac yn well.
Cyhoeddwyd canfyddiadau cyffredinol yr ymarfer hwn ym mis Rhagfyr 2019 mewn adroddiad ‘Cynnydd tuag at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ a gellir eu crynhoi fel:
07
Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, Netherwood Sustainable Futures a Mark Lang Consulting, fe wnaethom adolygu asesiadau llesiant drafft cyntaf Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.
Buom yn gweithio i nodi meysydd lle’r oedd cynnydd da yn cael ei wneud wrth gymhwyso’r pum ffordd o weithio a mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd allweddol wrth symud ymlaen.
Mae ein hadroddiad ‘Llesiant yng Nghymru: Cynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory’ yn tynnu sylw at yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol, wedi’i ysgogi gan yr angen i newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn cyhoeddi asesiadau llesiant a gyhoeddwyd gan y 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru.
Gallwch ddarllen adborth unigol y Comisiynydd i bob un o’r 19 o asesiadau llesiant drafft BGC yma.
08
Ym mis Ebrill 2017, roedd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy’n dod o dan y Ddeddf gyhoeddi eu hamcanion llesiant a’u camau am y tro cyntaf, gan ddangos sut y byddant yn gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol Cymru ac yn cyfrannu at saith nod llesiant cenedlaethol.
Dadansoddodd ein tîm y 345 o amcanion llesiant cyfunol a’r llawer mwy o gamau sy’n sail iddynt i ddeall y themâu cyffredin sy’n dod i’r amlwg a chynghori ar sut y dylai cyrff cyhoeddus gyflymu newid.
Gwnaethom gyhoeddi’r canfyddiadau hyn, gan gynghori cyrff cyhoeddus ar sut y dylent hefyd gyflawni eu dyletswydd i adrodd yn flynyddol ar gynnydd tuag at eu hamcanion llesiant yn ein hadroddiad Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd yn hyn.