Gwneud
Eich Cefnogi chi
Rydym yn darparu cyngor, cymorth, cefnogaeth a chyfleoedd dysgu a datblygu i bobl ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Rydym yn cyhoeddi argymhellion ac adroddiadau; sylwadau ar bolisi a materion cyfoes; cynhyrchu pecynnau cymorth ac adnoddau; darparu cyngor yn uniongyrchol i sefydliadau; ac ymateb i aelodau o’r cyhoedd sy’n cysylltu â ni.
Lle y gallwn, byddwn yn cwrdd â chi i roi cyngor, darparu cyflwyniadau, hyfforddiant, cyfeirio, adnoddau, pecynnau cymorth, astudiaethau achos, canllawiau a chymorth cyffredinol.
Mae ein tîm yn cael llawer o geisiadau am gymorth ac mae angen inni flaenoriaethu’r sefydliadau hynny sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf; ond anfonwch e-bost at contactus@futuregenerations.wales gyda’ch ymholiad ac fe gawn ni weld sut gallwn ni helpu.
01
Yr Wythnos Natur Cymru hon, ymunwch â Chenedlaethau’r Dyfodol Cymru a ChyswlltAmgylchedd Cymru wrth i ni drafod Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Darganfyddwch beth mae’r Bil yn ei gynniga beth allai hyn ei olygu i chi fel corff cyhoeddus. Rydym wrth ein bodd yn cael arbenigedd rhai o’nsefydliadau amgylcheddol blaenllaw yng Nghymru i’w drafod ac i ateb eich cwestiynau.
Mae’rdigwyddiad hwn ar-lein yn unig, 11am-12.30pm ddydd Mercher 9fed Gorffennaf 2025.
Cofrestwch02
Dyddiadau sesiynau i ddod, ar-lein:
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn newid y ffordd rydym yn gwneud pethau yma yng Nghymru, o sut rydym yn cynllunio gwasanaethau, i sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd, i sut rydym yn prynu pethau. Mae’r Ddeddf wedi ysgogi ein huchelgais i fod yn wlad sy’n cefnogi llesiant amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pobl heddiw a’r rhai sydd eto i’w geni. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Ddeddf yn hanfodol i bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a chydag ef wrth i ni gydweithio i wireddu ein nodau.
Nod y sesiwn hon fydd eich cyflwyno i’r Ddeddf neu roi adnewyddiad i chi o’i huchelgeisiau (nodau llesiant), sut mae’r rhain yn cael eu gwireddu (y ffyrdd o weithio) ac egwyddor datblygu cynaliadwy.
Trwy’r sesiwn hon byddwch yn:
Ar ddiwedd y sesiwn byddwch yn gallu:
Gallai’r sesiwn hon fod o ddiddordeb arbennig i bobl a hoffai gael cyflwyniad neu adfywiad i’r Ddeddf – efallai aelodau newydd o staff, y rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith, y rhai sy’n gweithio mewn adrannau o gyrff cyhoeddus sy’n llai agored i hyfforddiant corfforaethol ar y Ddeddf, Swyddogion Etholedig newydd ac ati.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru, gan gyfeirio eich e-bost at Heledd Morgan.
Cofrestrwch yma03
Ydych chi eisiau gwybod mwy am feddwl hirdymor, rhoi cynnig ar wahanol dechnegau rhagweld a’u cymhwyso yn eich gwaith? Yna cofrestrwch ar gyfer un o’n digwyddiadau hyfforddi ar feddwl hirdymor nawr!
Dewiswch rhwng 4 dyddiad a 4 leoliad:
Llandrindod Wells: 1 Hydref 2025, 10am – 1pm
Gogledd Cymru: 9 Rhagfyr 2025, 10am – 1pm
Cofrestrwch yma04
Rhoi’r Ddeddf ar waith Mae Llywodraeth Cymru ac Academi Wales hefyd yn cynnal sesiynau ychwanegol awr o hyd ar y Ddeddf sy’n rhannu rhai o’r wyddor ymddygiad diweddaraf y gallwch ei gymhwyso, mewn ffyrdd ymarferol ac effeithiol, i ddyfnhau eich dealltwriaeth a’ch defnydd o’r Ddeddf.
Cofrestrwch yma os gwelwch yn dda05
Dysgwch sut y gallwch chi chwarae rhan weithredol yn y broses o greu ein Cymru ddelfrydol. Yn y canllaw hwn byddwch yn dod o hyd i gamau ymarferol i’ch helpu i ddechrau arni, a bydd yn dangos sut mae’r Ddeddf eisoes yn cael ei defnyddio i wella ardaloedd lleol yng Nghymru. Hefyd ar gael mewn BSL.
Link: https://www.open.edu/openlearn/society-politics-law/politics/ti-fi-dyfodol-cymru
Dychmygwch beth allai ei olygu pe bai’r arian hwn yn cael ei wario ar brynu pethau A gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol pobl a chymunedau Cymru?
Dylai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fod yn fframwaith trosfwaol ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae caffael yn un o’r saith maes corfforaethol ar gyfer newid yng nghanllawiau statudol y Ddeddf (Shared Purpose: Shared Future, SPSF 1: Core Guidance) ac mae’n rhaid iddo fod yn faes ffocws allweddol i gyrff cyhoeddus wrth gyflawni eu rhwymedigaethau o dan y Ddeddf.
Dysgwch fwy am effaith caffael Llesiant yng Nghymru drwy ein hadolygiad o sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn llywio caffael yng Nghymru.
Mae symud i genedlaethau’r dyfodol yn gofyn am newid diwylliant. I wneud hynny, mae yna 7 nod i weithredu fel canllaw, pum dull i helpu pobl i gyrraedd yno, 50 ffordd o wirio ein bod ar y trywydd iawn.