Cymru Can
Iechyd A Llesiant
Rydym yn helpu cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, fel eu bod yn cydweithio i sicrhau bod ‘iechyd ym mhob polisi’ yn creu canlyniadau gwell i bobl ledled Cymru.
Mae mwy na hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gwario ar iechyd, ac eto mae lefelau salwch y gellir eu hatal ac anghydraddoldebau iechyd yn parhau’n uchel ac yn waeth os ydych yn byw mewn ardal adnoddau isel neu’n Ddu, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig.
Mae dirfawr angen gwell cymorth gan y system ehangach ar bobl, i fyw bywydau iach, gan gynnwys mwy o fynediad at fwyd lleol, cynaliadwy, fforddiadwy.
Rydym yn helpu cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, fel eu bod yn cydweithio i sicrhau bod ‘iechyd ym mhob polisi’ yn creu canlyniadau gwell i bobl ledled Cymru.
Cynllun strydoedd chwarae
Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i hwyluso trawsnewid yn y ffordd yr ydym yn cadw pobl yn iach, gyda mwy o ffocws ar atal a’r tymor hir. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yn cydweithio i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Mae cynnydd tuag at Gymru Iachach yn rhy araf.
Mae salwch y gellir ei atal ar gynnydd ac mae anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd yn uchel mewn llawer o gymunedau.
Mae’r baich ar iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol yn anghynaladwy heb symud i system fwy ataliol.
Deellir y model cymdeithasol o iechyd ac mae’n ffocws i amcanion llesiant.
Mae newid mewn cyllidebau a chynllunio tuag at atal yn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus.
Mae mwy o gydweithio ac integreiddio yn digwydd rhwng y GIG, gofal cymdeithasol, a sefydliadau perthnasol eraill, er enghraifft rhannu data, cyllidebau, cynlluniau ac ymgyrchoedd.
Mae ystod fwy amrywiol o bobl yn ymwneud â chydgynhyrchu gwasanaethau.
Mae Cymru’n lleihau nifer yr achosion o glefydau y gellir eu hatal, gan gymharu’n dda â gwledydd eraill y DU.
Mae anghydraddoldebau iechyd wedi gostwng, ac mae disgwyliad oes iach yn cynyddu.
Bydd profiad pobl o’n gwasanaethau iechyd yn well gyda chynlluniau iechyd a gofal cydgysylltiedig.
Ledled Cymru rydym wedi creu amgylcheddau er llesiant sy’n hybu llesiant – nid yn achosi salwch.
Rydym yn ei gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod holl gyrff cyhoeddus Cymru yn cyflawni eu nodau sero net a natur gadarnhaol erbyn 2030.