Cymru Can
Economi Llesiant
Ein cenhadaeth economi llesiant yw helpu i drawsnewid Cymru i economi sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.
Gellir ail-lunio ein heconomi i amddiffyn cymunedau yn well rhag yr anghydraddoldeb economaidd cynyddol yng Nghymru, gan arwain at well iechyd a llesiant i bobl ar blaned iach.
Rydym yn argymell dulliau sy’n canolbwyntio ar bobl o ran datblygu economaidd, sy’n ailgyfeirio cyfoeth yn ôl i’r economi leol; yn rhoi mwy o reolaeth a buddion yn nwylo pobl leol; ac yn ymateb i dueddiadau’r dyfodol megis AI, sgiliau digidol a gwyrdd.
Byddwn yn gweithio gyda’r sefydliadau sydd eisoes yn arwain ar ddileu tlodi yng Nghymru i sicrhau bod ein gweithgareddau’n ategu ymdrechion i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i helpu i drosglwyddo Cymru i economi sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf. O ganlyniad, mae llywodraethau ar bob lefel, busnesau a chymunedau, yn gwneud i hyn ddigwydd.
Mae twf economaidd yn aml yn cael ei weld fel nod ynddo’i hun, yn hytrach nag arwain at welliannau yn llesiant pobl.
Mae’r argyfwng costau byw yn ehangu anghydraddoldeb economaidd, mae tlodi ar gynnydd, ac mae’r economi’n defnyddio adnoddau naturiol yn gyflymach nag y gellir ei ailgyflenwi.
Mae awdurdodau lleol, Bargeinion Dinesig / Twf a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol yn fframio eu cynlluniau economaidd o amgylch economi llesiant ac yn gweithredu set o amcanion economi llesiant.
Mae mwy o fusnesau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn ymgorffori’r nodau llesiant yn eu modelau busnes.
Ceir cyd-ddealltwriaeth ar draws cyrff cyhoeddus ynghylch sut yr ydym yn mesur llwyddiant mewn economi llesiant.
Mae Cymru’n gwneud cynnydd o ran ei dangosyddion llesiant sy’n ymwneud â nod Cymru Ffyniannus.
Mae ein hôl troed byd-eang yn lleihau, ac rydym ar y trywydd iawn i ddefnyddio ein cyfran deg o adnoddau byd-eang yn unig erbyn 2050.
Mae llwyddiant economaidd a busnes Cymru yn arwain at waith teg, lefelau sgiliau uwch, lefelau tlodi is a gwahaniaethau cyflog is yn seiliedig ar ryw, anabledd ac ethnigrwydd.
Sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol yw ein cenhadaeth flaenoriaethol, Cymru Can, ac mae hynny’n hollbwysig.