Search Icon

Array ( )

|

Diwylliant a'r Iaith Gymraeg

Diwylliant yw curiad calon cymuned ac mae gan lesiant diwylliannol yr un pwysau â llesiant amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan gydnabod y rôl enfawr y mae’n ei chwarae.

Ein cenhadaeth ddiwylliant yw atgyfnerthu effaith gadarnhaol llesiant diwylliannol, fel bod cyrff cyhoeddus yn gwneud y newidiadau brys sydd eu hangen i hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd, gwella gwead cymunedau a hyrwyddo aml-ddiwylliannedd a’r Gymraeg.

Mae cymdeithas â llesiant diwylliannol da yn un lle mae pobl yn elwa o ddiwylliant, treftadaeth a’r iaith Gymraeg ac yn gallu cymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.

Bydd harneisio pŵer creadigrwydd, a dod â phobl ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol gwell, yn allweddol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu, megis newid yn yr hinsawdd, ynysu cymdeithasol, ac anghydraddoldeb economaidd. Mae diwylliant yn dod â gobaith, positifrwydd ac optimistiaeth i feddwl am y tymor hir.

Canwr, Asha Jane

Ein Cenhadaeth

Theori Newid Diwylliant a’r Iaith Gymraeg

Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i atgyfnerthu effaith gadarnhaol llesiant diwylliannol. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yn gwneud y newidiadau brys sydd eu hangen i hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd, gwarchod gwead cymunedau yn ogystal â hyrwyddo aml-ddiwylliannedd a’r Gymraeg.

Yr Angen

Nid yw cyrff cyhoeddus yn rhoi digon o sylw i ddiwylliant a’r Gymraeg yn eu hamcanion a’u cynlluniau llesiant.

Nid ydym yn dod o hyd i’r ffyrdd gorau o gyfathrebu’r camau gweithredu angenrheidiol o’n blaenau.

Mae diffyg cyllid a phenderfyniadau byr eu golwg yn bygwth seilwaith a chydlyniant cymunedol.

Gweithgaredd

  1. Eiriol dros lesiant diwylliannol a’r iaith Gymraeg i gael mwy o flaenoriaeth mewn ymagweddau at lesiant.
  2. Tynnu sylw at enghreifftiau sy’n datrys heriau trwy ddiwylliant a’r iaith Gymraeg.
  3. Cynnull a chydweithio â’r diwydiannau diwylliannol a chreadigol i gyfleu’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.
  4. Sicrhau bod sefydliadau’n edrych yn fras ar sut y gallant wella llesiant diwylliannol, er enghraifft mewn meysydd fel tai, cynllunio defnydd tir, iechyd, addysg, ac adfywio cymunedol.
  5. Cynghori cyrff cyhoeddus i gymryd camau i wella gwead ein cymunedau ac i werthfawrogi aml-ddiwylliannedd.

Canlyniadau ac effaith

Canlyniadau

Mae dealltwriaeth dda o’r hyn y mae llesiant diwylliannol yn ei gwmpasu ac effaith gadarnhaol diwylliant a’r Gymraeg ar weithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys llesiant diwylliannol yn eu hamcanion llesiant.

Mae cynnydd yn cael ei wneud gan gyrff cyhoeddus i gyrraedd cerrig milltir cenedlaethol y Gymraeg (i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050).

Mae ymgyrchoedd a chamau gweithredu ar gyfer newid cadarnhaol yn fwy effeithiol o ganlyniad i gyfraniad y sectorau diwylliannol.

Mae cynhwysiant a mynediad at weithgareddau diwylliannol wedi gwella, yn enwedig i bobl â nodweddion gwarchodedig a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig.

Effaith

Mae Cymru’n gwneud cynnydd da o ran bodloni’r dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n ymwneud â diwylliant, y Gymraeg a chydlyniant cymunedol.

Ledled Cymru, mae canran y bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth yn cynyddu ac mae mwy o bobl yn gallu siarad Cymraeg.

Mae cymunedau yn cymryd mwy o ran mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

Diwylliant a'r Laith Gymraeg

Adroddiad Cenedlaethaur Dyfodol 2025: Argymhellion

  1. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Diwylliant i Seithfed Tymor y Senedd (2026 – 2030), i wneud diwylliant yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus. Bydd hyn yn cryfhau rôl diwylliant mewn llesiant cenedlaethol ac yn sicrhau bod diwylliant yn cael y gydnabyddiaeth a’r buddsoddiad y mae’n ei haeddu.
  2. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i Ddeddf Hawl Cymunedol i Brynu i rymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth o adeiladau lleol gwerthfawr, tir, ac asedau cymunedol, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod wrth galon cymunedau ffyniannus.
  3. Dylai Llywodraeth nesaf Cymru benodi Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, y Celfyddydau a Chwaraeon.
  4. Dylai pob corff cyhoeddus yng Nghymru ddatblygu cynllun clir i gynyddu’r defnydd mewnol o’r Gymraeg o fewn cyrff cyhoeddus. Bydd hyn yn galluogi staff i fyw eu bywydau gwaith yn gynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan feithrin diwylliant dwyieithog cryfach yn y gweithle.
  5. Dylai pob corff cyhoeddus a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru ac integreiddio ei hegwyddorion yn eu gwaith.
  6. Dylai pob corff cyhoeddus gynhyrchu strategaeth wirfoddoli sefydliadol mewn partneriaeth â gweithwyr a’r sector gwirfoddol i hybu gwirfoddoli ledled y wlad.