“Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.”
Dadansoddiad cyfredol y Comisiynydd yw, er bod Cymru ar y blaen i wledydd eraill wrth gydnabod y gwerth a’r rôl y mae’n rhaid i ddiwylliant ei chwarae, mae gennym ffordd bell i fynd o hyd cyn i’n realiti gyd-fynd â’n huchelgeisiau. Ac er bod y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn bolisi uchelgeisiol, mae pryderon ei fod yn disgyn yn brin o ran gweithredu, ac mae angen gwneud mwy i ymuno â’r dotiau gyda nodau llesiant eraill.
Nid oes digon o gyrff cyhoeddus wedi gosod amcanion a chamau mewn perthynas â’r nod hwn, ac mae’r rhai sy’n methu ag integreiddio diwylliant ac iaith â’u hamcanion eraill.