Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 721 [source_item_id] => 265 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 8212 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 6e535201-00d9-402e-b574-bd5403b5cc90 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Adroddiad Cenhedlaeth y Dyfodol 2025

Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yma i helpu gwleidyddion ac arweinwyr y sector cyhoeddus i wneud penderfyniadau gwell ar gyfer pobl a’r blaned – heddiw ac ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn, ymchwil, ac ymgysylltu â channoedd o sefydliadau a chymunedau ledled Cymru, mae’r adroddiad yn rhannu canfyddiadau allweddol ac yn darparu cyngor statudol i Gyrff Cyhoeddus. Bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gweithio ochr yn ochr â Chyrff Cyhoeddus i helpu i droi’r argymhellion hyn yn gamau gweithredu go iawn.

Heb gamau brys i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, anghydraddoldeb cynyddol, a heriau hirdymor eraill, rydym mewn perygl o wynebu dyfodol sy’n teimlo y tu hwnt i’n rheolaeth.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi map ffordd inni i wella bywydau nawr ac ar gyfer y dyfodol – fel pan ofynnir inni beth wnaethom i adeiladu Cymru well a byd gwell, gallwn ddweud ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu.

Galwadau i Weithredu

Rhai o'r camau gweithredu brys o Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025 y mae'r Comisiynydd yn galw ar wleidyddion a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i'w cyflawni.

01

Dim mwy o atebion tymor byr.

Rhaid i wleidyddion a chyrff cyhoeddus ymrwymo i ddyfodol hirdymor Cymru, gan osod cynlluniau nid yn unig ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ond y 50 mlynedd nesaf.

02

Cyflymu camau gweithredu sy'n darparu manteision lluosog.

Mae dadgarboneiddio yn lleihau costau, mae adfer natur yn hybu iechyd y cyhoedd, ac mae prynu swyddi lleol yn cefnogi. Mewn cyfnod ariannol heriol, rhaid inni ganolbwyntio ar gamau gweithredu sy'n cyflawni sawl buddugoliaeth.

03

Datgloi cyllid y sector preifat.

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu tîm arbenigol i helpu cyrff cyhoeddus i baratoi cynigion parod ar gyfer buddsoddiad a all ddenu cyllid preifat ar gyfer adfer natur a phrosiectau sero net.

04

Ymrwymiad Cyflog Byw Go Iawn.

Rhaid i bob corff cyhoeddus ymrwymo i gynllun, o fewn dwy flynedd, sy'n amlinellu amserlen i gyflawni achrediad Cyflog Byw Go Iawn. Hyd yn hyn, dim ond 13 o 56 o gyrff cyhoeddus sydd wedi gwneud hynny. Mae hwn yn gam hollbwysig wrth fynd i'r afael â thlodi.

05

Diogelu a blaenoriaethu cyllid ar gyfer atal.

Rhaid i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus amddiffyn a chynyddu cyllidebau atal bob blwyddyn a symud tuag at drefniadau ariannu hirdymor.

06

Cynllun cydnerthedd bwyd cenedlaethol.

Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun hirdymor i wella diogelwch bwyd Cymru a sicrhau mynediad cyfartal at ddeietau lleol, fforddiadwy, iach a chynaliadwy.

07

Rhaid amddiffyn diwylliant.

Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Diwylliant yn y Seithfed Senedd (2026–2030), gan wneud diwylliant yn ofyniad statudol ar gyfer cyrff cyhoeddus a diogelu ein hawliau diwylliannol.

08

Adfer ymddiriedaeth mewn gwneud penderfyniadau.

Rhaid i gyrff cyhoeddus adnewyddu eu hymdrechion i gynnwys pobl wrth lunio polisïau, gan leihau'r bwlch rhwng llunwyr polisi a dinasyddion.

09

Buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Rhaid i Lywodraethau’r DU a Chymru gynyddu cyllid gwasanaethau cyhoeddus o flwyddyn i flwyddyn. Mae cyni ariannol wedi arwain at doriadau difrifol, gan adael gwasanaethau mewn trafferthion.

10

Symleiddio partneriaethau a chyllid.

Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu a symleiddio strwythurau partneriaeth ledled Cymru i wella effeithlonrwydd a lleihau biwrocratiaeth.

11

Adolygu a chryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Dylai Llywodraeth Cymru gychwyn adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i wella ei heffaith ac i baratoi ar gyfer Nodau Datblygu Cynaliadwy wedi'u diweddaru gan y Cenhedloedd Unedig yn 2030. Rhaid i'r adolygiad hwn gynnwys deialog gyhoeddus ar y Gymru yr ydym ei heisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

https://futuregenerations.wales/cym/wp-content/uploads/sites/2/2025/05/Adroddiad-Cenedlaethaur-Dyfodol-2025.pdf

Read more
Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Crynodeb Gweithredol: Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

https://futuregenerations.wales/cym/wp-content/uploads/sites/2/2025/05/Adroddiad-Cenedlaethaur-Dyfodol-2025-Crynodeb-Gweithredol.pdf

Read more
Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 Hawdd ei ddeall

https://futuregenerations.wales/cym/wp-content/uploads/sites/2/2025/05/Adroddiad-Cenedlaethaur-Dyfodol-2025-Hawdd-ei-ddeall.pdf

Read more
Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

BSL Fideo – Adroddiad Cenedlaerthau’r Dyfodol 2025

https://youtu.be/sMVYotWZnvk

Read more
Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Pecyn Cyfathrebu: Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

https://www.canva.com/design/DAGk5ct0eQE/9YLNUxcpC4DLdYWc9AkiZQ/view?utm_content=DAGk5ct0eQE&utm_campaign=designshare&utm_medium=link2&utm_source=uniquelinks&utlId=he00966a153

Read more

Gwneud

Astudiaethau Achos

Archwiliwch y mudiad dros newid ledled Cymru lle mae pobl yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i wella bywydau nawr a'r dyfodol.

Darllen Mwy
Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025