Search Icon

| ENG

Cyflwyniad

Gweithredu heddiw am well yfory

Ers i Gymru ymrwymo i lesiant cenedlaethau’r dyfodol, rydym wedi gweld newidiadau mawr a bach.

Mae llawer eto i’w wneud, ond erbyn hyn, mae ‘ffordd Gymreig’ o weithredu yn golygu mabwysiadu dull systemig, mynd at wraidd problemau, a sicrhau bod pobl yn rhan o’r broses benderfynu.

Mae cyrff cyhoeddus yn arwain y ffordd wrth gynyddu llesiant, ond mae busnesau nad ydynt o dan y ddeddf hefyd yn cymryd camau — o Gymdeithas Bêl-droed Cymru i Barc Cenedlaethol Bluestone.

Mae ein system addysg wedi datblygu, gyda chwricwlwm blaengar sy’n rhoi blaenoriaeth i iechyd meddwl, yn meithrin dinasyddion moesegol-gwybodus yng Nghymru a’r byd, ac yn dysgu llythrennedd ecolegol. Mae cymwysterau newydd yn galluogi pobl i ddod yn stiwardiaid y blaned, ochr yn ochr â sefydlu Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i Gymru.

Mae trafnidiaeth yn mynd yn wyrddach ac yn iachach, gan symud oddi wrth adeiladu ffyrdd yn ddiofyn at strategaeth sy’n anelu at sicrhau bod 45% o deithiau’n cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed, neu ar feic erbyn 2045. Mae cyfyngiadau cyflymder newydd fel y terfynau 20mya hefyd wedi’u cyflwyno i wella diogelwch cymunedol.

Mae diffiniad newydd o ffyniant o dan y Ddeddf yn golygu bod cynnydd yn cael ei fesur drwy lesiant yn hytrach na CMC (GDP). O ganlyniad, mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus hyrwyddo gwaith teg a chymdeithas carbon isel, gan arwain at fwy o fuddsoddiad mewn mentrau cymdeithasol.

Mae Cymru’n gweithio tuag at ddod yn Genedl Wrth-hiliol ac yn Genedl Noddfa.

Rydym hefyd yn helpu i lywio trafodaethau byd-eang am y dyfodol — gan chwarae rôl allweddol wrth ddylanwadu ar y Cenhedloedd Unedig a gwledydd eraill, cyflymu camau gweithredu ar yr hinsawdd fel y genedl gyntaf a’r senedd gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd, ac erbyn hyn, yn safle ail yn y byd am ailgylchu.

Mae cydnabyddiaeth gynyddol o rôl hanfodol y celfyddydau ym maes iechyd a llesiant, gyda phartneriaethau rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Chydffederasiwn y GIG, hyfforddiant celfyddydol i staff gofal iechyd, a mwy o ragnodi cymdeithasol.

Mae bwyd yn faes lle gall Cymru wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae plant ysgol gynradd bellach yn derbyn cinio ysgol am ddim, ond rhaid i ni fynd ymhellach i sicrhau bod pawb yn gallu cael bwyd yn y dyfodol.

Mae swyddfa’r comisiynydd yn parhau i weld bwyd fel blaenoriaeth, ac mae’n herio Llywodraeth Cymru i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i sbarduno newid sylfaenol yn y ffordd rydym yn meddwl am fwyd.

Yng nghanol argyfwng aml-haenog — yn cynnwys iechyd, tlodi, natur, a newid hinsawdd — mae un o bob pump o bobl yng Nghymru yn profi newyn, gyda chymunedau anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael eu heffeithio’n anghymesur. I fynd i’r afael â hyn, mae angen cynllun bwyd cenedlaethol newydd i Gymru.

'Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn hynod o bwysig oherwydd mae’n gwneud yn siŵr bod cyrff cyhoeddus yn cael eu dal yn atebol, nid yn unig i un, ond i bob un o’r nodau llesiant, ar gyfer ein cenedlaethau sy'n byw heddiw a'r rhai sydd eto i'w geni'

Ali Abdi, trefnydd cymunedol, Citizens Cymru Wales