Archwilio
Effaith
Beth sydd wedi digwydd ers i Gymru wneud addewid i genedlaethau’r dyfodol?
Yng Nghymru, nid cysyniad ffasiynol yn unig yw llesiant – dyma’r gyfraith.
Ers mabwysiadu dull cenedlaethau’r dyfodol, mae’r ffordd y gwneir pethau yng Nghymru wedi trawsnewid er gwell.
Mae ein cwricwlwm ysgol blaengar yn arfogi pobl ifanc i ddod yn stiwardiaid y blaned. Mae symudiad tuag at atebion trafnidiaeth iachach a gwyrddach ar y gweill, ochr yn ochr â gweledigaeth wedi’i hailddiffinio o ffyniant sy’n blaenoriaethu pobl a’r blaned. Mae Cymru hefyd yn gweithio tuag at ddod yn genedl wrth-hiliol.
Mae Cymru wedi ysbrydoli’r Cenhedloedd Unedig i fabwysiadu meddylfryd y dyfodol ac wedi arwain gwledydd fel yr Alban, Iwerddon, Canada, Ffrainc, yr Almaen, Gibraltar, Seland Newydd, a Japan wrth lunio eu dulliau eu hunain ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ledled Cymru, mae cyrff cyhoeddus yn ysgogi newid – o ffermydd solar Ysbyty Treforys a phrosiectau tyfu cymunedol i fentrau cyflog byw go iawn Rhondda Cynon Taf. Mae busnesau, hefyd, yn herio’r tymor byr drwy gofleidio’r gyfraith, fel y gwelir gyda Câr-y-Môr, fferm gefnforol gymunedol yn Sir Benfro sy’n gweithio i sefydlu diwydiant gwymon i Gymru.
Mae ymrwymiad Cymru i genedlaethau’r dyfodol yn deillio o ymroddiad y sawl sy’n gwneud newidiadau.
O ddoethineb Iroquois y Cenhedloedd Cyntaf i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, mae Cymru wedi dylanwadu ar symudiadau byd-eang, gan gynnwys datganiad y Cenhedloedd Unedig yn 2024.
Ali Abdi, trefnydd cymunedol, Citizens Cymru
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn diogelu Cymru at y dyfodol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth nesaf drwy wella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.
Mae llawer i’w wneud o hyd, ond mae Cymru’n dangos i weddill y byd yr hyn y gellir ei gyflawni, a dim ond newydd ddechrau rydym ni. Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod Cymru’n gallu elwa ar y darn hwn o ddeddfwriaeth sy’n arwain y byd, a’n cenhadaeth yw gwneud i’r gyfraith hon weithio’n galetach.
Darllenwch fwy am ein strategaeth, Cymru Can.
Mae cyfraith llesiant Cymru gan y bobl, ar gyfer y bobl, ac rydym am i hyd yn oed mwy o unigolion a sefydliadau ei defnyddio i greu newid.
Mae llawer o Gymru eisoes yn rhan o dîm Cymru Can – o drefnwyr cymunedol i athrawon, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, canolfannau ailgylchu, safleoedd adeiladu i gyrchfannau twristiaid – oll yn helpu i greu Cymru sy’n iachach, yn fwy cyfartal, yn amgylcheddol wydn, gyfrifol yn fyd-eang, yn llewyrchus, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog a’r Gymraeg yn ffynnu.
Darllenwch ein hastudiaethau achos i helpu i’ch ysbrydoli chi a’ch sefydliad i greu mwy o newid yng Nghymru.
Daeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i rym yn 2015, darganfyddwch fwy am ble mae’r Ddeddf wedi cymryd Cymru yn ein llinell amser sy’n dangos sut y daethom yma.
Y Cenhedloedd Unedig