archwilio
Cymru a’r Byd
Mae Cymru’n paratoi’r ffordd ar gyfer llesiant byd-eang a dyfodol cynaliadwy llewyrchus i bawb.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (y Ddeddf) yn ceisio trawsnewid y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’r gwaith a wnawn yng Nghymru yn parhau i ysbrydoli sefydliadau a llywodraethau yn fyd-eang; ac ar yr un pryd archwilio cyfleoedd i gasglu arfer da rhyngwladol a all gefnogi cyrff cyhoeddus i roi y Ddeddf ar waith yn well.
Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, nod Cymru yw bod yn Genedl sy’n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang. Nod rhaglen ryngwladol Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yw:
Darllenwch fwy am sut mae pobl gynhenid Wampis ym Mheriw yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd: https://sizeofwales.org.uk/project/securing-wampis-territory/
Mae ymrwymiad Cymru i lesiant cenedlaethau’r dyfodol yn cael ei ysbrydoli gan ddoethineb cynhenid ac Egwyddor y Seithfed Genhedlaeth. Darllenwch fwy am sut mae pobl gynhenid Wampis ym Mheriw yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd: https://sizeofwales.org.uk/project/securing-wampis-territory/Mae Cymru wastad wedi bod yn barod i gefnogi mudiadau byd-eang ac mae ganddi hanes balch o ddysgu a rhannu ein gwerthoedd gyda’r byd. O ddeiseb Heddwch Merched Cymru ym 1924 i Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol yr Urdd i ddylanwadu ar fabwysiadu Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol –mae Cymru’n gweithio ar draws y byd i gyfnewid syniadau a pholisïau ynghylch gweithredu llywodraethu cenedlaethau’r dyfodol. Mae ymdrechion Cymru wedi ysbrydoli llawer o wledydd a sefydliadau byd-eang gan gynnwys Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedigar y Dyfodol yn 2024 a’r bwriad i greu Llysgennad Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.
“Cael eich ysbrydoli gan y stori hynod ddiddorol hon am sut y gwnaeth Cymru yn gyfraith y rhwymedigaeth i wlad fynd ardrywydd datblygu cynaliadwy ar ran cenedlaethau’r dyfodol”. –Gro Harlem Brundtland, cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd
Dysgwch am waith Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i gryfhau perthnasoedd, hyrwyddo masnach a dyfnhau cysylltiadau diwylliannol i wella presenoldeb Cymru yn fyd-eang.
Darganfod mwy am bartneriaethau rhyngwladol Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, gyda mwy o offer a chanllawiau i ddeall ein gwaith.