Search Icon

| ENG

Paratowyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Mai 2020

Mae’r pandemig Covid-19 wedi amlygu anghydraddoldebau strwythurol dwfn yn ein heconomi a’n cymdeithas, yn cynnwys tlodi cyflog, anghydraddoldebau iechyd, gwahaniaethau hiliol, tlodi bwyd, ansicrwydd swyddi ac anghydbwysedd yn ansawdd tai. Ar yr un pryd mae dirywiad yn ein hinsawdd a’n hecoleg yn cynyddu, ac rydyn ni mewn perygl o ddwysáu’r heriau hyn i gyd os wnawn ni ddychwelyd i’r hen ffordd o fyw.

Mae adferiad Cymru o’r pandemig yn gyfle i weithredu newid acadeiladu nôl yn well yn y dyfodol, a bydd y modd y mae Llywodraeth Cymru’n dyrannu ei chyllideb yn anfon negeseuon pwysig ynghylch a ydym yn manteisio ar y cyfle hwn. Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi Cyllideb Atodol yr wythnos hon, a fydd yn amlinellu sut y caiff cyllid ei ddyrannu ar gyfer parhau i gynorthwyo ystod o wasanaethau yn ystod yr argyfwng, ond a fydd hefyd yn nodi llwybr tuag at adferiad yn yr hirdymor drwy adeiladu system economaidd sy’n mynd i’r afael ar y cyd â’r argyfwng iechyd presennol, yr argyfwng economaidd a sbardunwyd gan y pandemig, ac argyfyngau parhaus hinsawdd a natur 

Mae hwn yn gyfle sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth i wneud iawn am fethiannau’r gorffennol ac mae angen i ni feddwl yn eofn, yn gydweithrdol, ac yn gynhwysol gyda dewrder gwleidyddol a buddsoddiad a fydd yn mynd i’r afael â’r adferiad tymor byr a’r heriau tymor hwy megis y newid yn yr hinsawdd a cholli natur, yn ogystal â gosod Cymru mewn sefyllfa i ymateb i’r dulliau newydd o fyw a gweithio mewn ffordd sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. O fewn y paramedrau hyn ac wrth ymroi i gyflawni dyheadau eang Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol dylai Cyllideb Atodol arfaethedig y Llywodraeth ac unrhyw gyllidebau yn y dyfodol fuddosddi yn y meysydd canlynol 

  1. Datblygu pecyn ysgogi economaidd sy’n arwain at greu swyddi ac sy’n cynorthwyo datgarboneiddio cartrefi, drwy adeiladu tai newydd carbon isel fforddiadwy a buddsoddi mewn rhaglen genedlaethol i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol 
  2. Buddsoddi mewn gwell dulliau o gysylltu a symud pobl, drwy wella cysylltedd digidol, teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus 
  3. Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i gynorthwyo’r trawsnewid i well dyfodol, gan greu swyddi newydd gwyrddach.
  4. Buddsoddi mewn natur a rhoi blaenoriaeth i ariannu a chymorth gradda fawr i adferiad cynefinoedd a bywyd gwyllt, creu a chysylltedd ledled Gymruyn cynnwys ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd naturiol, gweithredu’r goedwig genedlaethol newydd a sicrhau bod rheoli defnydd tir ac amaeth yn cynorthwyo sicrhad cadwyni bwyd lleol a dosbarthu. 
  5. Buddsoddi yn niwydiannau a thechnolegau’r dyfodol, a chynorthwyo busnesau, a fydd yn helpu Cymru i arwain y chwyldro carbon isel a chloi cyfoeth a swyddi mewn ardaloedd lleol gyda buddsoddiad yn yr economi sylfaenol. 

Dylai Llywodraeth Cymru hefyd roi ystyriaeth frys i’r canlynol wrth iddi ddatblygu ei phecyn buddsoddi; 

  • sicrhau bod gan bob dinesydd fynediad at seilwaith band eang,
  • bod diwylliant a’r celfyddydau yn cael eu cefnogi fel elfennau allweddol wrth ailadeiladu canolfannau tref, dinas a chymuned.
  • rhoddir cymhellion wedi’u targedu i fusnesau fod yn rhan o gyflawni’r cwricwlwm newydd, i fwydo sgiliau entrepreneuraidd i’n sgiliau a chanolbwyntio ar adeiladu’r cysylltiadau rhwng busnes ac ysgolion sy’n cynrychioli diwydiannau’r dyfodol.