Cipolwg a Newyddion
Datganiad: “Trobwynt i’r diwydiant dŵr,” meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
February 3, 2026
“Mae hwn yn foment hollbwysig i’r diwydiant dŵr, ac yn gyfle hir-ddisgwyliedig i fynd i’r afael â methiannau’r gorffennol a dod yn genedl sy’n gyfoethog mewn dŵr glân.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’n bendant. Nawr rhaid inni sicrhau bod sicrhau dyfroedd iach i Gymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU a Llywodraeth nesaf Cymru. Rhaid gwneud popeth i sicrhau bod y newid i gorff newydd yn digwydd heb oedi, gan gyflawni adferiad amgylcheddol hirdymor a fforddiadwyedd, ochr yn ochr â chydymffurfiaeth a rheoleiddio cryfach.
“Mae’n galonogol bod y Papur Gwyrdd yn ymateb i’m galwadau am sancsiynau sifil a gorfodi cyflymach, yn ogystal â chynllunio traws-sector ar draws amaethyddiaeth, tai, trafnidiaeth a defnydd tir i atal llygredd a llifogydd.
“Rhaid i unrhyw fuddsoddiad yn y system ddŵr weithio ar frys i adfer natur, cefnogi cynhyrchu bwyd, cryfhau gwydnwch hinsawdd, a darparu tai a seilwaith newydd, gan amddiffyn iechyd hirdymor ein hafonydd, moroedd a’r dŵr sy’n hanfodol i fywyd.”