Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1049 [source_item_id] => 8638 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 61995 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 2c9f557e-dba2-4527-820d-132bf70a70e0 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Datganiad: Mae adfer natur yn fater bywyd a marwolaeth llythrennol – ac mae gan bawb ran ynddo. Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn ymateb i’r Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol. 

“Mae natur yn un o’n cynghreiriaid mwyaf pwerus wrth greu bywydau gwell i bob un ohonom – atal llifogydd, lleihau llygredd a diogelu ein hiechyd. 

Heb gamau brys, cydlynol ar draws y sector cyhoeddus i atal a gwrthdroi’r dirywiad peryglus fel y’i nodir yn Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol Cymru 2025, rydym yn llythrennol yn peryglu bywydau’n ddiangen. 

Mae atebion natur o’n cwmpas ym mhobman – fel y gwelir ledled Cymru o doeau gwyrdd Abertawe i adfer glaswellt y môr ledled y wlad, ac mae angen i bawb ym mhob gwasanaeth cyhoeddus chwarae rhan i ddatgloi pŵer natur – wrth gynllunio cyllidebau i reoli tir a sut rydym yn gofalu am ein hadeiladau. 

Bydd canlyniadau Cymru heb ddigon o natur i’n cynnal yn disgyn galetaf ar y bobl fwyaf difreintiedig, a byddant yn faich annirnadwy i’w drosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi rhoi ffordd inni ddelio â’r problemau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn. Nid ydym yn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ond rydym yn eu defnyddio’n gyflymach nag y gallant adfer. 

Mae’r canlyniadau eisoes yn taro’n galed: llifogydd yn ein trefi, afiechydon sy’n gysylltiedig â gwres, afonydd llygredig, cân adar yn lleihau, a phrisiau bwyd yn codi. 

Ni allwn barhau i anwybyddu’r cysylltiadau profedig rhwng natur ac iechyd. Mae adfer natur yn fater bywyd a marwolaeth llythrennol – ac mae gan bawb ran ynddo.”   

Darllenwch yr adroddiad