Astudiaeth achos
Torri rhwystrau i chwaraeon cynhwysol
Buddsoddi mewn chwaraeon cynhwysol a hygyrch
Ochr yn ochr â’n nod llesiant cenedlaethol o Gymru â Diwylliant Bywiog a’r Iaith Gymraeg Ffyniannus, Cymru yw’r unig wlad yn y byd i gydnabod llesiant diwylliannol fel rhan o ddiffiniad statudol ar gyfer datblygu cynaliadwy.
Yn gadarnhaol, yn 2023 roedd cynnydd o 39% yn nifer yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos, y gyfradd uchaf a gofnodwyd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Ond, mae cyllid ar gyfer llesiant diwylliannol yn aml yn un o’r meysydd cyntaf i gael eu torri yn ystod adolygiadau cyllideb, er gwaethaf ei gyfraniad at atal afiechyd a lleihau anghydraddoldeb, ac nid yw’n hygyrch i bawb.
Yr heriau:
- Mae pwysau cyllidebol ar gyrff cyhoeddus wedi gwneud gwasanaethau diwylliant a hamdden yn arbennig o agored i niwed.
- Ar hyn o bryd nid oes gennym fodel ariannu cynaliadwy hirdymor ar gyfer y sector diwylliannol sy’n hanfodol i’w amddiffyn a’i dyfu.
- Nid yw pawb yng Nghymru yn gallu mwynhau ddiwylliant a chwaraeon – ar hyn o bryd rydym yn drydydd o waelod gwledydd Ewrop o ran gwariant fesul person ar wasanaethau hamdden a chwaraeon, gyda chartrefi gwledig ac incwm isel yn colli allan yn anghymesur.
Trwy gyllid sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae mwy o bobl a chymunedau ledled Cymru yn cael mynediad at ac yn mwynhau chwaraeon cynhwysol.
Canfu Chwaraeon Cymru, am £1 a dderbyniasant mewn cyllid, fod £4.44 wedi mynd yn ôl i’r economi (2023/24).
Gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a sefydliadau chwaraeon eraill, mae Foundation 4 Sports Coaching wedi cynnal digwyddiadau chwaraeon Ramadan Hanner Nos yng Nghaerdydd, gan gynnig pêl-fasged, pêl-droed, tenis bwrdd, sboncen, dosbarthiadau i fenywod yn unig a mwy o 11pm i 1am, ar ôl gweddïau taraweeh. Gan groesawu mwy na 250 o gyfranogwyr bob penwythnos, roedd y sesiynau hwyr y nos yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd, cymdeithasu a bod yn gorfforol egnïol ar adegau mwy hygyrch.
Y 30,000fed derbynnydd o gyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru, mae Clwb Rygbi Cadair Olwyn newydd y Scarlets ac Aberystwyth wedi cael ei gefnogi i gael gwared ar rwystrau i chwaraeon i bobl anabl yn yr ardal. Gyda chyllid ar gyfer 10 cadair olwyn rygbi, offer hyfforddi a chymorth datblygiadol i hyfforddwyr gwirfoddol, mae’r Clwb wedi caniatáu i bobl yng nghefn gwlad Cymru gael mynediad at chwaraeon cynhwysol.
“Mae hi wastad wedi bod yn anoddach i bobl yng nghefn gwlad Cymru gael mynediad at chwaraeon.
Rydym am roi’r un cyfleoedd i bobl â phawb arall fel y gall ein pobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol elwa nid yn unig o agweddau iechyd a lles chwaraeon, ond hefyd o’i ochr gymdeithasol.”
Yn Wrecsam, mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cefnogi sesiynau blasu pêl-gôl, camp dîm paralympaidd i bobl ddall a phobl â golwg rhannol, gyda chynlluniau i sefydlu’r clwb chwaraeon cyntaf i bobl â nam ar eu golwg yng Ngogledd Cymru.
Mae Mosg Abertawe, y mosg fwyaf yng Nghymru, yn cefnogi pobl ifanc Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon, gwella eu hiechyd a meithrin cysylltiadau. Gyda chefnogaeth Criced Cymru, mae ganddynt bellach neuadd aml-chwaraeon gwbl hygyrch gyda lifft newydd, gorchuddion ffenestri rhwyll, goleuadau effeithlon o ran ynni a rhwydi criced, a ddefnyddir hefyd i gynnal gweithgareddau llesiant ar gyfer y gymuned.
Farid Ali, Rheolwr Cyfleusterau’r Ganolfan