Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 54 [source_item_id] => 581 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 325 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => 67c096ec4fc57 [type] => post_type [type_name] => page ) )

| ENG

Datganiad Hygyrchedd

Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://www.futuregenerations.wales 

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio(au) a restrir isod. 

Cynnwys nad yw’n hygyrch 

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rheswm (rhesymau) canlynol: 

Nid yw’r dewisydd iaith yn y ddewislen llywio yn cydymffurfio’n llawn ag ARIA a gall effeithio ar rai darllenwyr sgrin. 

Rydym yn gweithio ar weithredu ateb i hyn, a byddwn yn diweddaru’r datganiad Hygyrchedd ar yr adeg y caiff ei weithredu. 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ar 11/01/2024, a’i ddiweddaru 22/01/2024. 

Profwyd y wefan hon trwy gyfuniad o offer hygyrchedd yn ystod y cyfnod rhwng Hydref 2023 a Ionawr 2024, a thrwy gwaith adrodd a gynhaliwyd gan gov.uk. Cafodd y profion eu cynnal gan swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.  

Caiff y safle ei wirio’n rheolaidd at ddibenion hygyrchedd, ac fe’i cynhelir gan swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a thrwy gyfuniad o offer ar gyfer hygyrchedd. 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os hoffech roi adborth i swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Gallwch gysylltu â ni trwy cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru

Gweithdrefn orfodi 

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). 

Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).