Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015
Dysgwch fwy am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol
O ddoethineb cynhenid i gynllun ar gyfer Cymru newydd, pasiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fel cyfraith pobl yn 2015.
Mae ymrwymiad Cymru i lesiant cenhedlaeth y dyfodol yn cael ei ysbrydoli gan ddoethineb brodorol ac Egwyddor y Seithfed Cenhedlaeth. Darllenwch fwy am sut mae pobl frodorol Wampis ym Mheriw yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd.
Ers i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol gael ei phasio yn 2015, mae sawl gwlad arall ar draws y byd yn gweithredu er budd y rhai sydd heb eu geni eto.
Mae’r dull yn galw am feddylfryd newydd ac yn rhoi’r uchelgais, y caniatâd a’r rhwymedigaeth gyfreithiol i ni wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.
Mae symud i feddwl cenedlaethau’r dyfodol yn gofyn am newid diwylliant. Er mwyn ei wneud, mae yna 7 nod i fod yn ganllaw, pum ffordd i helpu pobl i gyrraedd yno, 50 ffordd i wirio ein bod ni ar y trywydd iawn.
Cadair Cenedlaethau’r Dyfodol
01
“Y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy gymryd camau, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda’r nod o gyflawni’r nodau llesiant.”
Mae’n nodi pum ffordd o weithio sydd eu hangen er mwyn i Gyrff Cyhoeddus gyflawni’r saith nod llesiant. Mae’r dull hwn yn rhoi cyfle i feddwl yn arloesol, gan adlewyrchu’r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau a’r hyn a ddisgwyliwn gan ein gwasanaethau cyhoeddus.
02
I wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at yr un diben, mae’r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i’r cyrff cyhoeddus rhestredig weithio i gyflawni’r holl nodau, nid dim ond un neu ddau.
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith teg.
Darllenwch MwyCenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid.
Darllenwch MwyCymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.
Darllenwch MwyCymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Darllenwch MwyCymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Darllenwch MwyCymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Darllenwch MwyCenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Darllenwch Mwy03
Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
HirdymorYstyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff chyoeddus eraill.
Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.
CynnwysGallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant.
Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
04
I fesur cynnydd yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gennym 50 o ddangosyddion cenedlaethol.
Er mwyn cynorthwyo i fesur cynnydd, rhaid i weinidogion Cymru osod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol.