Hwb Dyfodol
Meithrin gallu dyfodol ledled Cymru
Mae Hwb Dyfodol yn fenter gydweithredol wedi’i dylunio i feithrin arbenigedd a gallu mewn rhagwelediad a meddwl am y dyfodol ledled Cymru. Drwy ddod ag ymarferwyr o wahanol sefydliadau at ei gilydd, rydym yn creu sylfaen gref ar gyfer cynllunio hirdymor a gwneud penderfyniadau sydd o fantais i genedlaethau’r dyfodol.
01
Mae Hwb Dyfodol yn ganolbwynt arbenigedd ar syniadau, methodolegau ac arferion y dyfodol, sy’n cefnogi sefydliadau i feithrin sgiliau i ddeall yn well a pharatoi ar gyfer dyfodol a allai o bosib fod yn wahanol. Trwy brosiectau cydweithredol, hyfforddiant, a rhannu gwybodaeth, rydym yn gwneud meddylfryd y dyfodol yn rhan annatod o wasanaethau cyhoeddus Cymru a thu hwnt.
02
Hyfforddiant
Rydym yn cyflwyno sesiynau hyfforddi dyfodol wyneb yn wyneb yn rheolaidd ledled Cymru. Rydym hefyd wedi datblygu adnoddau Cymraeg yn seiliedig ar ddeunyddiau Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU. Rydym hefyd yn cynnig sesiynau wedi’u teilwra i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i wneud meddylfryd y dyfodol yn rhan wirioneddol annatod o’u prosesau a’u diwylliant, yn dibynnu ar ein gallu.
Gan fod ein haelodau craidd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, mae ein harbenigedd wedi cefnogi prosiectau statudol allweddol fel Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 ac Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol 2025. Mae gennym hefyd gynlluniau i gefnogi Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2026. Rydym yn archwilio sut y gall dulliau gweithredu ar gyfer y dyfodol gryfhau asesiadau a chynlluniau llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus; a gallwn gydweithio ar brosiectau strategol sy’n defnyddio methodolegau’r dyfodol i fynd i’r afael â heriau cymhleth. Rydym hefyd yn gobeithio adeiladu partneriaethau cryf gyda sefydliadau academaidd trwy fentrau ymchwil ar y cyd, gweithdai a cheisiadau am gyllid.
Rydym yn hwyluso cymuned gynyddol o ymarferwyr sy’n cyfarfod bob dau fis i rannu dysgu, arferion gorau, a chydweithio ar waith y dyfodol. Mae’r rhwydwaith hwn yn cryfhau gallu dyfodol cyfunol Cymru ac yn darparu cymorth ar y cyd i roi dulliau arloesol ar waith.
Mae Hwb Dyfodol yn croesawu cydweithrediad â sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb mewn adeiladu llythrennedd y dyfodol a chymhwyso methodolegau rhagwelediad. Gyda’n gilydd, gallwn wneud Cymru’r genedl fwyaf llythrennog yn y byd o ran y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth am Hwb Dyfodol a sut i ymgyfrannu, cysylltwch â ni ar cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru