Case Study
Mwy nag ailgylchu – ein llwybr tuag at economi gylchol
Strategaeth gwastraff Mwy Nag Ailgylchu Llywodraeth Cymru
Trwy Gaffis Trwsio, llyfrgelloedd o bethau a chymunedau yn rhannu adnoddau, mae Cymru yn gweithredu ar wastraff.
Yr heriau:
Efallai bod Cymru ar y blaen o ran ailgylchu, ond nod Llywodraeth Cymru yw mynd hyd yn oed ymhellach. Gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel fframwaith, mae ei strategaeth wastraff ddiweddaraf yn canolbwyntio ar adeiladu economi gylchol—un sy’n lleihau gwastraff, yn cryfhau cymunedau, ac yn ein gyrru tuag at sero net erbyn 2050.
Wedi’i llywio gan fwy na 2,000 o bobl a gymerodd ran drwy 40 o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, ymgynghoriadau a gweminarau, mae gweledigaeth y strategaeth ar gyfer y dyfodol yn cynnwys Cymru lle mae pawb yn cydweithio dros economi gylchol gyda llai o wastraff ac olion traed carbon is a gwell cysylltiadau cymunedol.
Mae Mwy Nag Ailgylchu yn dibynnu ar weithredu cydweithredol ac integredig gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, busnesau a chymunedau a gallwn eisoes weld gweithredu arloesol ac ysbrydoledig yn digwydd ar lawr gwlad.