Strydoedd Ysgolion Caerdydd yn helpu dysgwyr i gerdded a beicio'n ddiogel i'r ysgol
Yr heriau:
• Lefelau uchel o dagfeydd a ffyrdd prysuryn gwneud teithio llesol yn anneniadol ac ynanhygyrch
• Llygredd aer yn effeithio ar ein hiechyd a’r amgylchedd
• Cyfraddau gordewdra uchel yn effeithio ar iechyd heddiw ac yn y dyfodol
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, aeth Cyngor Caerdydd ati i drawsnewid eu systemtrafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo dulliau llesol o deithio. Mae rhai o’r cynlluniau agyflwynwyd ganddynt i helpu Caerdydd i dyfu mewn ffordd wydn yn cynnwys:
I gefnogi cymunedau yng Nghaerdydd sydd â’r iechyd gwaethaf, cydweithiodd CyngorCaerdydd ag Arup, Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i greu strydoedd mwy gwyrdd.
Trwy greu systemau draenio cynaliadwy yn Grangetown, fe wnaethant hefyd lanhau a gwyrddu mannau concrit, gwneud lonydd beicio a llwybrau troed yn fwy hygyrch a deniadol, a thynnu 40,000m³ o ddŵr glaw y flwyddyn o’r garthffos, gan leihau’r perygl o lifogydd.
Yn ystod oriau brig, cafodd ffyrdd o amgylch 14 o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd eu pedestreiddio i leihau lefelau llygredd a chaniatáu i fyfyrwyr a’u teuluoedd gerdded a beicio’n ddiogel i’r ysgol. Trwy Gynghorau Ysgol ac Eco, cefnogodd swyddogion teithio llesol Cyngor Caerdydd staff a disgyblion i ddatblygu eu cynlluniau teithio eu hunain, gan helpu i ymgorffori newid ymddygiadol hirdymor i wella iechyd a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Yn ystod pandemig COVID-19, caeodd Cyngor Caerdydd Stryd y Castell i draffig, ardal âllawer o lygredd yng nghanol y ddinas, er mwyn gwneud teithio llesol yn fwy hygyrch a chefnogi busnesau lleol yn ystod cyfnodau cloi.
Trwy sefydlu ardal fwyta al-fresco ar y stryd gaeedig, gallai pobl archebu o fwytai lleol wrth gadw pellter cymdeithasol; gallai mwy o bobl ddefnyddio’r ffordd ar gyfer beicio a cherdded, gan arwain at well seilwaith beicio; a thrwy weithio gyda phobl greadigol leol, Patternistas, gosodwyd dyluniadau llachar ar y stryd i groesawu pobl yn ôl i’r ddinas ar ôl y cyfnod clo.