Case Study
Pobl yn siapio dyfodol eu cymunedau ym Mannau Brycheiniog
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plant yn chwarae Minecraft ar gyfrifiadur
Yr heriau:
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn mewn ffordd integredig, seiliodd Bannau Brycheiniog eu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig ar y cysyniad cymdogaeth 20 munud a chynnwys pobl yn y gwaith o gynllunio eu hardaloedd lleol drwy ymarferion a dulliau newydd.
Bu Bannau Brycheiniog yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol a busnesau ac yn ystyried safbwyntiau’r gymuned, yn enwedig ar ôl effaith COVID-19, i fframio eu CDLl diwygiedig o amgylch cymdogaethau lle mae gan bobl bopeth sydd ei angen arnynt o fewn 20 munud i’w cartref.
Sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau a mannau lleol:
- cefnogi’r economi leol gyda phobl yn treulio mwy o amser yn eu cymunedau,
- gweithredu ar dlodi trafnidiaeth ac allyriadau carbon drwy leihau dibyniaeth ar geir i gael mynediad i ysgolion, gofal iechyd, cyflogaeth a mwy,
- gwella iechyd a lles trwy gynyddu teithio llesol a chysylltiadau cymunedol.
Mewn cydweithrediad â Chomisiwn Dylunio Cymru a Llunio Fy Nhref, creodd Bannau Brycheiniog yr offeryn Llunio fy Mannau Brycheiniog gydag awgrymiadau ymarferol i helpu cymunedau i greu Cynlluniau Lle ar gyfer eu hardaloedd lleol.
Gan rymuso cymunedau i lunio dyluniad y lleoedd y maent yn byw ynddynt, roedd y Cynlluniau Lle hefyd yn bwydo i mewn i’r Cynllun Datblygu Lleol ehangach ar gyfer y parc.
—
Cynnwys plant yn natblygiad y Gelli Gandryll trwy fodel rhithwir o’r dref yn Minecraft, gan gefnogi’r plant i ddychmygu eu syniadau ar gyfer eu tref trwy’r gêm.
Ystyriwyd llawer o’u syniadau gan gynnwys parc newydd a ymgorfforwyd yn y cynllun terfynol.