Search Icon

| ENG

Mae Grŵp Gwyrdd Ysbyty Gwynedd, a ffurfiwyd yn 2019, wedi ysbrydoli rhwydwaith gofal iechyd Cymru gyfan i weithredu ar newid hinsawdd a’n hiechyd.

Gyda newid hinsawdd yn fygythiad iechyd byd-eang mwyaf y ganrif hon, mae gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru yn tyngu llw i ‘wneud dim niwed’ i’r blaned.

Yr heriau:

  • Y sector gofal iechyd yn allyrrwr mawr o nwyon tŷ gwydr
  • Mae argyfwng hinsawdd hefyd yn argyfwng iechyd
  • Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn angerddol am newid heb ei gysylltu na’i gefnogi

Er mwyn gweithredu ar ein hiechyd ni a’r blaned, ffurfiodd meddygon yn Ysbyty Gwynedd Grŵp Gwyrdd, grŵp cymorth ar gyfer trafodaeth a gweithredu lle gallai pobl rannu gwybodaeth, datblygu sgiliau a rhagweld prosiectau cynaliadwyedd lleol yn yr ysbyty a thu hwnt.

Roedd mentrau gwyrdd yn cael eu cynnal ar wahân mewn adrannau gofal iechyd ledled Cymru, ond nid oedd dim yn bodoli a ddaeth â’r holl waith hwn ynghyd.

Nawr, gan adeiladu ar waith Grŵp Gwyrdd Ysbyty Gwynedd, mae meddygon, nyrsys a fferyllwyr wedi creu rhwydwaith Cymru gyfan, Iechyd Gwyrdd Cymru.

Mae’r rhwydwaith wedi ymrwymo i ddarparu gofal iechyd yng Nghymru sy’n sicrhau’r canlyniadau iechyd gorau posibl, yn osgoi gwastraff ariannol ac effeithiau amgylcheddol niweidiol ac yn ychwanegu gwerth cymdeithasol ar bob cyfle.

 

Mae gan Iechyd Gwyrdd Cymru dair egwyddor:

  • Cyswllt – dod â phobl ynghyd ar draws y sector iechyd i greu newid cynaliadwy
  • Dysgu – datblygu sgiliau a rhannu gwybodaeth fel bod pawb yn dysgu am effaith newid hinsawdd a sut gallwn ni weithredu arno
  • Trawsnewid – deall effaith gylchol bwysig newid (pobl yn amddiffyn y blaned, planed yn amddiffyn pobl)

Mae pobl yn amddiffyn y blaned, mae planed yn amddiffyn pobl

Mudiad gofal iechyd dros newid

Gydag ymagwedd gyfannol, mae Iechyd Gwyrdd Cymru yn canolbwyntio ar feithrin cysylltiadau a chynnull pobl sydd wedi ymrwymo i weithredu.

Gan gydnabod y gall ymrwymiad i ofal iechyd cynaliadwy ddibynnu ar bobl yn cymryd gwaith ychwanegol er eu bod eisoes yn cael trafferth gydag amserlenni anhyblyg ac wythnosau gwaith 70 awr, mae’r rhwydwaith yn llwyfan i bobl gefnogi eraill ar yr un daith.

Mae rhai o’r camau gweithredu sydd eisoes wedi’u cefnogi gan y rhwydwaith yn cynnwys:

  • Prosiect codi sbwriel a oedd yn cynnwys cleifion yn Ysbyty Cefn Coed, ysbyty iechyd meddwl yn Abertawe, yn cefnogi eu llesiant trwy fynediad i fannau gwyrdd ac yn addysgu cleifion am bwysigrwydd gofalu am yr amgylchedd.
  • Ysbyty Gwynedd oedd yr ysbyty cyntaf yng Nghymru i gymryd camau i gymryd rhan mewn peilot masgiau y gellir eu hailddefnyddio, cydweithio â Magnificent Meadows a NHS Forest i adfer dolydd a phlannu coed gyda chleifion iechyd meddwl, a chreu canllawiau teithio llesol gyda gwybodaeth am lwybrau diogel i’r ysbyty a’r cyfleusterau storio sydd ar gael.
  • Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi lleihau effaith amgylcheddol nwyon anesthetig 90% drwy newid i ddewis rhatach.
  • Mae Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Cae Felin, sy’n seiliedig ar dir Ysbyty Treforys, yn tyfu llysiau ar gyfer y gymuned ac yn cynnwys staff, cleifion, ysgolion a grwpiau cymunedol i arddio a dysgu mwy am effaith newid yn yr hinsawdd ar ein hiechyd a’n gofodau.