Adroddiad Llesiant Cymru yw asesiad Llywodraeth Cymru o’r cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol a osodwyd yn y gyfraith gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cyhoeddir adroddiad eleni ar adeg arbennig o anodd i’n cymunedau ledled Cymru – ac mae pwysigrwydd casglu a dadansoddi data yn allweddol. Mae argyfwng costau byw yn gwaethygu’r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas, a gyda’n gilydd mae’n rhaid i ni wneud mwy i harneisio’r data a gesglir a throsglwyddo ystadegau i atebion.
Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau mawr hyn mae angen i bob llywodraeth gydweithio. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu’r fframwaith a’r weledigaeth honno ar gyfer Cymru, ond mae ymdrechion ein llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn cael eu rhwystro mewn meysydd fel polisi economaidd ehangach, cymorth i’r argyfwng costau byw, a phenderfyniadau ariannu trwy raglenni fel lefelu i fyny a chronfeydd ffyniant a rennir.
Y tu ôl i’r ystadegau hyn mae pobl go iawn – ac rwy’n clywed eu lleisiau yn y data trwy gydol yr adroddiad. Maent yn adleisio pryderon a phrofiadau byw cymaint o bobl ar draws ein cymunedau. Rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y straeon hyn wrth ddadansoddi’r adroddiad hwn.
Rhaid i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus ledled Cymru adnewyddu eu hymdrechion i fynd i’r afael â meysydd sy’n peri pryder a adroddir dro ar ôl tro. Er fy mod yn croesawu’r cynnydd yn yr adroddiad, rwy’n bryderus iawn bod sawl maes yn parhau i gael eu hamlygu.
Mae eraill a minnau wedi tynnu sylw at feysydd lle mae angen gweithredu ar frys. Mae’r adroddiad yn amlygu, unwaith eto, yr angen i fynd i’r afael â;
Lefelau tlodi
Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn sefydlog yng Nghymru ers dros 15 mlynedd. Rydym yn wynebu ein cymunedau’n cael eu plymio i dlodi, gan olygu bod yr anghydraddoldebau presennol yn cael eu gorliwio. Mae hyn yn arbennig o bryderus gan ein bod yn gwybod mai tlodi yw’r penderfynydd iechyd mwyaf.
Mae’r Adroddiad yn dangos:
Efallai nad yw’r ffigurau hyn yn syndod; mae canlyniad y pandemig yn dal i gael effaith ar gymunedau ac mae costau ynni a bwyd cynyddol yn gwasgu teuluoedd ymhellach.
Rhaid i’r adroddiad hwn arwain at atebion radical, blaengar a hirdymor sy’n ystyried cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i:
Byddaf yn disgwyl gweld ymateb sylweddol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, sydd i’w chyhoeddi ar 12 Rhagfyr.
Rwy’n teimlo fy mod wedi fy nghalonogi gan gynifer o’r ymyriadau cadarnhaol rwyf eisoes wedi’u gweld hyd yma yn y meysydd y mae angen gweithredu mwy brys arnynt ac rwy’n cymeradwyo rhai Llywodraeth Cymru;
Mae’r rhain i gyd yn fentrau pwysig ond cymharol newydd na fydd effaith yn syth, ond mae’n amlwg ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir.
Ar ben hynny, rwy’n falch o weld bod effeithiau clir wedi bod ar ein llesiant cenedlaethol mewn sawl maes, er enghraifft;
Rwy’n croesawu cyflwyno dangosyddion diwygiedig a’r naratif ar gynnydd tuag at ein cerrig milltir newydd. Mae hwn yn adroddiad sy’n ceisio alinio’n well ag ethos Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fodd bynnag, hoffwn hefyd weld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau beiddgar i gefnogi pobl yng Nghymru i gynyddu camau gweithredu i helpu gyda materion byd-eang. Rydym yn falch o’n dyheadau i ddod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yng ngoleuni heriau rhyngwladol parhaus a chynnydd, gallwn wneud mwy i godi ein hymwybyddiaeth genedlaethol a’n symbyliad ar y materion hyn.
Rwy’n annog pob rhan o’r Llywodraeth, Cyrff Cyhoeddus, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac eraill i ddefnyddio’r wybodaeth hon wrth bennu blaenoriaethau, cyllidebau a gwneud penderfyniadau polisi.