Mae Derek Walker newydd gyhoeddi 50 o argymhellion yn ei Adroddiad ar Genedlaethau’r Dyfodol, gan rybuddio bod Cymru oddi ar y trywydd iawn ar ei nodau hirdymor ar gyfer natur, hinsawdd ac iechyd, ac amlinellu cynllun ar gyfer newid.
Gyda Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU heddiw (Mai 14) yn cyhoeddi ei Bedwerydd Cyngor Cyllideb Carbon i Lywodraeth Cymru, mae Mr Walker yn ailadrodd bod yn rhaid i gymunedau chwarae rhan ganolog wrth lunio gweithredu ar yr hinsawdd.
Bydd swyddfa’r Comisiynydd yn cyflwyno ei chanfyddiadau ochr yn ochr â Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU ym Mwrdd Portffolio Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.
Yn ei Adroddiad ar Genedlaethau’r Dyfodol a gyhoeddwyd ar y 29ain o Ebrill, mae Mr Walker yn rhybuddio am Gymru yn y dyfodol a allai ddod yn anadnabyddadwy heb gamau brys i amddiffyn yr amgylchedd, mynd i’r afael â thlodi, a lleihau afiechyd.
Mae’r adroddiad yn galw ar gyrff cyhoeddus i gynyddu ymgysylltiad cyhoeddus ystyrlon i gau’r bwlch rhwng llunwyr polisi a dinasyddion – gan gynnwys cynnwys cymunedau mewn penderfyniadau ynghylch asedau fel tyrbinau gwynt a pherchnogaeth arnynt.
Cyfeiriodd y Comisiynydd at GwyrddNi yng Ngwynedd – menter dan arweiniad y gymuned a ysbrydolwyd gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – a helpodd 650 o ddisgyblion i greu cynlluniau gweithredu ar gyfer eu hysgolion, o blannu gerddi i hybu ynni adnewyddadwy.
“Mae atal mwy o newid hinsawdd yn rhatach nag ymateb iddo. Mae datgarboneiddio yn creu swyddi, ac mae sero net yn darparu manteision gwirioneddol i fywydau pobl – ond mae angen mwy o’r cyfleoedd hyn arnom,” meddai.
“Mae newid hinsawdd eisoes yn taro cymunedau, gan roi straen ar wasanaethau cyhoeddus gyda chost tywydd eithafol. Pobl agored i niwed sy’n dioddef fwyaf, ac mae oedi gweithredu ond yn cynyddu cost a chymhlethdod newid – gyda 273,000 o gartrefi ar hyn o bryd mewn perygl llifogydd yng Nghymru, a ragwelir y bydd yn dyblu o fewn 100 mlynedd.
“Rhaid i gynlluniau hinsawdd ddarparu manteision fel biliau gwresogi is a rhoi llais i gymunedau mewn gwneud penderfyniadau – yn enwedig y rhai sy’n teimlo nad ydynt yn cael eu clywed. Mae ffermio a defnydd tir yn rhannau hanfodol o’r ateb.
“Bydd yn anoddach cyrraedd sero net heb gamau brys i greu’r cyfleoedd hyn. Daw newid trwy argyfwng neu trwy ddewis – rhaid i ni ddewis gweithredu nawr.”