Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 812 [source_item_id] => 4277 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 24063 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => a11c6bd5-041a-45fe-9cf5-7a147039d6ee [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Ysgol Garnteg
Dysgwyr yn Ysgol Gynradd Garnteg yn rhoi cynnig ar y pecyn panel solar

Gall pŵer lleol, sy’n eiddo i gymunedau ac sy’n cael ei redeg ganddynt hwy, fod yn allweddol ar gyfer datrys anghenion ynni Cymru yn y dyfodol, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy uchelgeisiol, fel bod gan Gymru fwy o ffynonellau ynni solar, gwynt a dŵr sy’n eiddo i bobl leol ac sy’n ennill arian iddynt, meddai Derek Walker.  

Mae Mr Walker, sydd â’r rôl o herio’r llywodraeth ar sut maen nhw’n gwella bywydau pobl a gaiff eu geni yn y dyfodol, eisiau gweld mwy o ysgolion, canolfannau iechyd ac adeiladau cymunedol yng Nghymru yn cael eu pweru gan ynni adnewyddol, lle mae cymunedau eu hunain yn ennill ac yn arbed arian o’r ynni.  

Yn ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n galw am fwy o adnoddau a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ynni adnewyddol, sy’n eiddo i ac yn cael eu harwain gan sefydliadau cymunedol ac awdurdodau lleol, ac yn gofyn i gyrff cyhoeddus wneud mwy i gydweithio â’r gymuned, i ryddhau tir ar gyfer cynlluniau ynni lleol, a phrynu’r ynni.  

Cymru yw’r unig wlad yn y byd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gydweithio i wella bywyd yn awr ac i bobl nad ydynt eto wedi’u geni.  

Ers i Gymru ymrwymo i’r ymagwedd newydd hon 10 mlynedd yn ôl, rydym wedi gweld cwricwlwm ysgol mwy blaengar, symudiad tuag at drafnidiaeth wyrddach ac iachach, a ffordd newydd o werthuso cynnydd, yn seiliedig ar lesiant a gwaith teg.  

Mae Mr Walker yn cyfarfod â’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, Mehefin 5, i eiriol dros fwy o gefnogaeth i ynni lleol, lle bydd yn rhannu gwaith Star of the Sea, Borth, lleoliad celfyddydau a cherddoriaeth gyda phaneli solar ar y to, sy’n rhoi pŵer uniongyrchol i feddygfa meddygon teulu’r GIG cyfagos.   

Mae ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn tynnu sylw at lwyddiannau cydweithredol pellach, gan gynnwys Awel Aman Tawe a’i fferm wynt gymunedol dau-dyrbin 4.7 MWp 20 milltir i’r gogledd o Abertawe, a thyrbin micro-hydro sy’n eiddo i’r gymuned ym Methesda sy’n cynhyrchu trydan sy’n cael ei werthu i’r grid o’r afon leol, gydag elw’n cael ei ail-fuddsoddi yn ôl yn y gymuned.    

Mae Cymru eisoes wedi cyflawni 1GW o gapasiti trydan adnewyddol dan berchnogaeth leol, yn erbyn ei tharged o 1.5GW erbyn 2035. Mae 1GW yn ddigon i bweru rhwng 500,000 ac miliwn o gartrefi. 

Dywedodd Mr Walker ei fod am weld y targed yn cael o leiaf ei ddyblu i 3GW erbyn 2035.  

  

Dywedodd: “Bydd ynni cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, gan ennyn ymgyfraniad cymunedau mewn penderfyniadau, lleihau biliau ynni, creu swyddi a helpu Cymru i ddod yn fwy cydnerth o ran ynni yn y dyfodol.   

“Tra bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddol gan gyrff cyhoeddus a mentrau cymunedol a bod gwaith da yn cael ei wneud, nid yw’r targedau’n ddigon uchelgeisiol.   

“Rwyf am weld Llywodraeth Cymru yn cynyddu adnoddau ei Gwasanaeth Ynni, fel y gallwn dros y 10 mlynedd nesaf ddatgloi’r potensial cudd a gwneud ein cymunedau yn hybiau pŵer newydd yng Nghymru.”  

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £210 miliwn mewn mwy na 400 o brosiectau ers 2018, gan gynnwys ffermydd gwynt, gosodiadau solar ar y to, cynlluniau gwresogi carbon isel, ynni dŵr a fflydoedd allyriadau sero a Cherbydau Trydan.  

Bydd hyn, meddai Llywodraeth Cymru, yn cyflawni amcangyfrif o £367 miliwn mewn incwm lleol ac arbedion yn ystod eu hoes a bydd wedi atal llosgi bron i 300,000 tunnell o lo.    

Yn 2023, gosododd darged ar gyfer 1.5 GW o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddol dan berchnogaeth leol erbyn 2035, gyda disgwyliad i bob ‘prosiect ynni newydd gael o leiaf elfen o berchnogaeth leol o 2020’.  

Mae hefyd wedi ymrwymo i ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadol gan gyrff cyhoeddus a mentrau cymunedol yng Nghymru o dros 100 MW rhwng 2021 a 2026.  

Dywedodd Paul Cowley, Rheolwr Technegol Ynni Adnewyddol Cymunedol, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Ar draws y wlad, mae sefydliadau cymunedol yn mynd i’r afael â materion real iawn o’r lleol i’r byd-eang. Mae ynni cymunedol yn cyflawni o lawer cyfeiriad, yn cefnogi swyddi lleol, yn helpu i adeiladu cydnerthedd cymunedol, yn ymateb i dlodi tanwydd a fforddiadwyedd ynni ac yn cymryd camau i fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau newid hinsawdd.   

“Mae’r Gwasanaeth Ynni yn darparu amrywiaeth o gyngor technegol a chymorth ariannol i gynghorau lleol a mentrau cymdeithasol. Mae’r galw cudd am brosiectau o’r fath yn enfawr felly rydym yn croesawu galwad y comisiynydd am fwy o ynni cymunedol yng Nghymru.”  

 

Astudiaeth achos – Ynni cymunedol ar waith wrth i 14 ysgol arbed arian o ynni adnewyddol  

Mae pedair ar ddeg o ysgolion yn Nhorfaen yn gweld arbedion o osod paneli solar ffotofoltäig (PV), sy’n trosi golau’r haul yn uniongyrchol i ynni. Wedi’i ariannu gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, mae’r prosiect wedi arwain at arbediad amcangyfrifedig o 2,459 tunnell o CO2 a £240,000 mewn costau ynni blynyddol ar draws Cyngor Torfaen a daeth yn offeryn addysgol i fyfyrwyr.  Ymunodd Ysgol Gynradd Garnteg – lle mae goleuo, y gegin a gwresogi yn mynd ậ’r gwariant mwyaf – â’r prosiect ddwy flynedd yn ôl ac ar ddiwrnod arferol mae’n gweld 163.09 kwh yn cael ei gynhyrchu, sy’n cyfateb i blannu 553 o goed. Ers hynny, mae’r ysgol wedi gallu prynu gliniaduron ac iPads gyda rhywfaint o’r arian a arbedwyd ar filiau ynni. Archwiliodd Cyngor Torfaen ysgolion gyda thoeau mawr, ac yn ddelfrydol yn wynebu’r de, wrth benderfynu ble i osod y paneli solar. Mae’r porth ymyl solar byw hefyd yn caniatáu i ysgolion weld mewn amser real faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu ac mae yna gynlluniau i wneud y data a’r hyn a ddysgwyd o’r gosodiadau solar yn rhan o’r cwricwlwm. Dywedodd Ceri Williams, Swyddog Cyllid Ynni Ysgolion Cyngor Torfaen: “Mae canlyniadau gwych wedi eu hadrodd gan bob ysgol  – hyd yn oed ar ddiwrnod cymylog, mae ynni’n cael ei gynhyrchu ac arbedion yn cael eu gwneud. “Mae gennym yn awr 12 mis o ddata y bydd ysgolion cyn bo hir yn gallu eu defnyddio fel rhan o’r cwricwlwm, er enghraifft ar fathemateg a llythrennedd ariannol, lle mae plant yn cael eu haddysgu i ddarllen biliau ynni. “Mae gennym ni darged i fod yn sero net erbyn 2050 ac mae ysgolion yn rhan fawr o weithio tuag at yr uchelgais hwnnw.”  

Dywedodd dysgwr 11 oed ar gyngor eco’r ysgol ei bod hi’n diffodd goleuadau yn ei chartref ac yn cerdded i’r ysgol ac yn falch o fod mewn ysgol sy’n cymryd camau newid hinsawdd ac yn canolbwyntio ar atebion ynni adnewyddadwy.  

Dywedodd: “Mae amddiffyn ein planed mor bwysig ac mae’n deimlad braf i fod yn gwneud gwahaniaeth.”  

Dywedodd y Pennaeth, Susan Roche: “Mae’r prosiect gosod solar yn gyfle cyffrous i holl gymuned yr ysgol. Bydd yr ysgol nid yn unig yn gwneud arbedion ariannol enfawr, ond yn rhoi sgiliau bywyd hanfodol i’n disgyblion, a gwybodaeth am ynni gwyrdd ar gyfer y dyfodol.”  

Bydd yr ysgol hefyd yn elwa cyn bo hir o bwmp gwres a osodwyd gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, trwy Grant Gwres Carbon Isel yr Awdurdod Lleol.