Cipolwg a Newyddion
“Mae adroddiad brys CCC yn galw am waith cyflymach a doethach ar yr argyfwng hinsawdd,” meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
June 6, 2023
Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru'n dweud bod canfyddiadau'r Climate Change Committee yn canfod nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau allyriadau hinsawdd yn darllen 'brys'.
Heddiw (6 Mehefin) mae’r CCC, cynghorydd annibynnol y DU ar fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, wedi cyhoeddi Adroddiad Cynnydd – Lleihau Allyriadau yng Nghymru.
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, yn gyfrifol am ddarparu cyngor a chymorth i’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus i gymryd golwg tymor hwy ar benderfyniadau polisi, ac i amddiffyn anghenion pobl nawr a’r rhai a fydd yn cael eu geni yn y dyfodol.
Dechreuodd ei rôl fel yr ail gomisiynydd ar 1 Mawrth 2023.
“Mae hwn yn adroddiad brys sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n gyflymach ac yn ddoethach ar yr argyfwng hinsawdd – un o’r bygythiadau mwyaf i’n hiechyd, ac yn niweidiol i ymdrechion tuag at Gymru fwy cyfartal,” meddai.
“Mae’r neges yn atgyfnerthu fy ngalwad ar fy niwrnod cyntaf yn y swydd fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, am newid trawsnewidiol – ac yn adlewyrchu’r darlun mawr siomedig ar ddatgarboneiddio, fel yr adroddwyd yn ymchwil fy swyddfa a ganfu nad oedd gan Gymru ddull cydgysylltiedig ar feysydd fel gwariant, a’n galwad am gynllun hirdymor i ddatgarboneiddio cartrefi.
“Mae adroddiad y CCC yn nodi, er bod rhai camau cadarnhaol wedi’u cymryd yng Nghymru, megis y penderfyniad i adolygu pob brosiectau ffyrdd mawr ar sail amgylcheddol, mae angen gweithredu polisi yn awr ym mhob sector ar draws yr economi ac mae’n rhaid i weithredu gyflymu.
“Rydw i wedi bod yn cyfarfod â phobl ledled Cymru sydd eisiau gweithredu diriaethol i atal newid yn yr hinsawdd a cholli ein natur – yr wythnos hon clywais gan leisiau sy’n daer am bŵer cymunedol datganoledig ac i bobl ymwneud llawer mwy â datrys problemau.
“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i gynnwys cymunedau, adeiladu ar yr enghreifftiau lleol trawsnewidiol, megis fferm solar Ysbyty Treforys, sy’n rhagamcanu arbedion ynni o hyd at £1m, er mwyn cynyddu ein huchelgais yn genedlaethol a sicrhau bod gennym Gymru y gellir byw ynddi heddiw ac yn y dyfodol.”