Nid yw Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd nodau hirdymor ar fyd natur, hinsawdd ac iechyd, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhybuddio heddiw, wrth iddo ddatgelu ei gynllun ar gyfer newid.

Mae Derek Walker yn herio Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus wrth iddo gyhoeddi ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn yr Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol, i nodi 10 mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a gynhelir yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd.

Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n cael ei gyhoeddi bob pum mlynedd, flwyddyn cyn etholiad y Senedd, yn rhoi cyngor y Comisiynydd i lunwyr polisi ar y camau sydd eu hangen i amddiffyn cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.

Gan nodi 50 o argymhellion ar draws hinsawdd a natur, diwylliant a’r Gymraeg, yr economi llesiant, ac iechyd a llesiant, mae’r Comisiynydd heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i ymrwymo i:

  • Dargedau i achub ein natur
  • Ailadeiladu ymddiriedaeth mewn gwneud penderfyniadau
  • Cynllun gwydnwch bwyd cenedlaethol
  • Neilltuo cyllid atal
  • Cyflog Byw Gwirioneddol

Dywedodd Mr Walker, er bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi cael effaith sylweddol dros y degawd diwethaf, mae angen llawer mwy o weithredu traws-sector i sicrhau newid dyfnach, cyflymach.

Yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol heddiw, mae argymhellion y comisiynydd yn cynnwys:

  • Targed cyfreithiol ar gyfer adferiad byd natur, wedi’i gefnogi gan gynllun gweithredu clir a chyllid hirdymor
  • Mwy o gyfranogiad gan y cyhoedd wrth lunio polisi a meithrin ymddiriedaeth, gan gynnwys Deddf Hawl i Brynu Cymunedol, i ganiatáu i gymunedau gymryd perchnogaeth o asedau lleol allweddol megis theatrau, ffermydd gwynt a mannau gwyrdd
  • Cynllun hirdymor ar gyfer diogelwch bwyd, gan sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at fwyd iach, fforddiadwy, cynaliadwy a gynhyrchir yn lleol
  • Cyllidebau blynyddol wedi’u neilltuo ar gyfer atal, gyda modelau ariannu tymor hwy i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol
  • Ymrwymiad gan bob corff cyhoeddus i roi cynllun Cyflog Byw Gwirioneddol ar waith o fewn dwy flynedd fel cam allweddol i drechu tlodi

Mae dros 300 o gynrychiolwyr o’r 56 corff cyhoeddus sy’n dod o dan y Ddeddf yn bresennol yn Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal ag arweinwyr o’r sector preifat a chymdeithas sifil. Disgwylir i fynychwyr wneud ymrwymiadau i weithredu ar argymhellion yr adroddiad.

Mae’r adroddiad yn adeiladu ar Cymru Can, cynllun saith mlynedd y Comisiynydd a gyhoeddwyd yn 2023.

Dywedodd Mr Walker: “Mae Cymru wedi arwain y ffordd dros y 10 mlynedd diwethaf gyda’n gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Cymru sy’n amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol, ond nid ydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein nodau iechyd, hinsawdd a natur a fydd yn ein cyrraedd ni. 

“Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn byw gyda chanlyniadau pob penderfyniad a wnawn i wella bywydau pobl a chydag ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus sy’n dirywio, rhaid i ni wrando mwy, ymgysylltu’n ystyrlon â phryderon pobl, a’u cynnwys yn ddi-oed. 

“Mae’r heriau’n sylweddol ond nid yn anorchfygol ac mae’n rhaid i ni weithio’n gyflym i gynyddu’r enghreifftiau da o newid, a chreu mwy o fuddion i bawb wrth i ni ddatgarboneiddio, adfer natur, gwella iechyd y cyhoedd a chreu swyddi lleol ac economi sy’n gweithio i bobl a’r blaned.” 

Rhoddodd Mr Walker ragolwg cynnar o’r adroddiad ym mis Mawrth pan alwodd am Fesur Diwylliant i flaenoriaethu ac adnoddau gwell i’r celfyddydau yng Nghymru. Mae Ebrill 29 yn nodi deng mlynedd ers i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gael Cydsyniad Brenhinol.

 

  • Cliciwch i ddarllen Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol a gwylio ffilm fer wedi’i gosod yng Nghymru yn 2050, lle mae Ameerah, sy’n 10 oed, yn cynrychioli plentyn o’r dyfodol lle mae Cymru wedi gwella bywyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn trefnu Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol heddiw (Ebrill 29) lle bydd y comisiynydd a’r Archwilydd Cyffredinol yn rhannu canfyddiadau eu hadroddiadau.
  • Bydd y digwyddiad yn cynnwys trafodaeth banel rhwng Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, ac Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol.
  • Dylid darllen yr adroddiad hwn ochr yn ochr ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddir ar yr un pryd.
  • Ymhlith siaradwyr eraill gan gynnwys yr arbenigwr iechyd poblogaeth, Syr Michael Marmot, bydd prif anerchiad yn cael ei roi gan Hannah Jones, Prif Swyddog ymadawol The Earthshot Prize.
  • Bydd Notpla, enillydd Gwobr Earthshot 2022, yn siarad am gyflwyno eu pecynnau gwymon ar draws stadia chwaraeon Cymru.
  • Bydd mynychwyr yn rhannu arfer gorau ar weithredu argymhellion yr adroddiad yn ystod Sesiynau Gweithredu.

DIWEDD.