Yn unol â strategaeth newydd y Comisiynydd, Cymru Can, hoffem gael cymorth i ddeall sut mae Llywodraeth Cymru yn cymhwyso’r Ddeddf wrth ddyrannu ei chyllideb a sut mae’r gyllideb yn helpu i gyflawni ei hamcanion llesiant ac ar y blaenoriaethau a amlinellir ym mhob un o bum Cenhadaeth y Comisiynydd. Nod y Comisiynydd yw deall pa mor dda y mae’r gyllideb yn debygol o alluogi cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau hynny, a lle y gallent gael yr effaith i’r gwrthwyneb.
O fewn y cefndir ariannol anodd yr ydym yn ei ganfod ein hunain, rydym yn chwilio am fewnbwn a chymorth technegol fforddiadwy/cost-effeithiol i gyflawni hyn.