Cipolwg a Newyddion
Gall Cymru fod yn genedl heddwch
July 9, 2025
Diolch yn fawr iawn i chi am y croeso cynnes.
Braint o’r mwyaf yw cael bod gyda chi heddiw yn Eisteddfod Llangollen – gŵyl sydd wedi dod yn un o ddathliadau heddwch, diwylliant a chyfeillgarwch rhyngwladol mawr y byd.
Rwy’n arbennig o falch o ymuno â chi ar ddiwrnod mor llawen ac egnïol yng nghanol miri’r Eisteddfod. Heddiw a thrwy gydol yr holl wythnos byddwn yn mwynhau perfformiadau gwych gan bobl ifanc; mae’r lleisiau a’r creadigrwydd hynny yn atgof pwerus o beth yw pwrpas yr ŵyl hon: gobaith, cysylltiad a heddwch; ffordd berffaith o ddechrau sgwrs am Gymru fel Cenedl Heddwch, gyda chenedlaethau’r dyfodol mor amlwg.
Mae rhywbeth symbolaidd iawn am hyn. Oherwydd nid rhywbeth y mae oedolion yn siarad amdano mewn cynadleddau yn unig yw heddwch. Mae’n rhywbeth rydyn ni’n ei fyw ac yn ei drosglwyddo. Ac mae’r hyn rydyn ni wedi’i weld a’i glywed heddiw—gan blant, cymunedau, a chorau—yn rhan fawr o’r hyn sy’n dangos heddwch ar waith.
Llangollen ac Etifeddiaeth Heddwch
Gŵyl a aned yng nghysgod rhyfel yw hon.
Yn ôl ym 1947, dim ond dwy flynedd ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, gwnaeth Llangollen ddewis radical. Yn lle troi ei chefn ar y byd, agorodd ei drysau. Dywedodd: Gadewch i ni ddod â phobl ynghyd—nid trwy wleidyddiaeth na phŵer, ond trwy gân a dawns. Gadewch i’r gerddoriaeth siarad.
Ers hynny, mae’r llwyfan hwn wedi croesawu pobl o tua dau gant o wahanol ddiwylliannau. Ac o’r cychwyn cyntaf, mae’r eisteddfod wedi dathlu’r hyn sy’n ein huno ni—nid yn unig yr hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol.
Dwi’n meddwl mai dyna sy’n gwneud y lle hwn mor arbennig. A dyna pam dwi’n credu bod gan yr ŵyl hon rywbeth pwysig i’w ddweud wrth y byd y funud hon.
Oherwydd mewn byd sy’n teimlo’n fwy rhanedig, yn fwy ansicr, ac yn fwy anghyfartal nag erioed, mae gan Gymru straeon pwerus i’w hadrodd—straeon am heddwch, tosturi, a gofal am genedlaethau’r dyfodol.
Felly, dw i’n credu bod gan Gymru, ein gwlad ni, sylfeini cryf i adeiladu Cymru arnynt fel cenedl heddwch. Ac un o gonglfeini’r sylfeini hynny yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), a greodd fy rôl i.
Meddyliwch am y bobl ieuengaf rydych chi’n eu hadnabod
Efallai bod rhai ohonoch chi’n ceisio dyfalu beth yw y rôl honno, beth ar y ddaear yw swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol?
Wel, ni fyddai’n syndod i’ch clywed yn gofyn y cwestiwn hwnnw, gan nad oes unrhyw un yn y byd â swydd sy’n union fel fy swydd i.
Rwy’n ffodus i gael y cyfrifoldeb o fod yn warcheidwad buddiannau pobl nad ydynt eto wedi cael eu geni – y cenedlaethau a fydd yn byw yng Nghymru ar ein hôl ni.
Pan fyddaf yn siarad â chyrff cyhoeddus ledled Cymru – y sefydliadau sy’n rhedeg ein hysbytai, ein cynghorau, a’n gwasanaethau cyhoeddus eraill – un o’r ffyrdd rwy’n egluro fy rôl yw drwy ofyn i bobl feddwl am y personau ieuengaf maen nhw’n eu hadnabod.
Ac rwy’n eich gwahodd chi i gyd i wneud hynny nawr. Efallai mai eich merch neu ŵyr neu’r person ifanc sy’n byw drws nesaf ydyw. (I rai o’r bobl ifanc yn y neuadd, efallai nad yw’r person hynny llawer yn iau na chi nawr.)
Rwy’n meddwl am fy nith ieuengaf Erin. Mae Erin 11 mlwydd oed, bron yn 12, yn byw yng Nghwmbrân. Mae hi’n casáu’r rhan fwyaf o lysiau ac wrth ei bodd yn chwarae pêl-droed. Ac mae hi’n chwaraewraig dalentog hefyd.
Rwyf am i Erin gael addysg dda a bwyd ar y bwrdd a tho uwch ei phen heno. Wrth gwrs fy mod i. Ond ymhen 50 mlynedd rwyf hefyd am iddi gael y cyfle i gael bywyd iach a hapus, gydag aer glân ac afonydd, system iechyd sy’n gynaliadwy a mynediad i’r celfyddydau a diwylliant. Rydyn ni i gyd eisiau hynny i’n plant a’n hwyrion.
Dyma beth mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yma i’w wneud. Mae hi yma i arwain ein cyrff cyhoeddus i wella bywydau pobl heddiw ac i wella bywydau’r cenedlaethau sydd i ddod.
Ac mae pobl Cymru yn deall hynny. Lle bynnag rwy’n mynd yng Nghymru, mae pobl yn cefnogi’r angen i osgoi atebion arwynebol, dros dro, i weithredu er lles eu plant a’u hwyrion. Maen nhw eisiau i’w harweinwyr fod yn gweithredu heddiw ar gyfer yfory gwell.
Heddwch fel Mwy nag Absenoldeb Rhyfel
Yn aml, rydym yn meddwl am heddwch fel distawrwydd. Fel llonyddwch. Fel diwedd, neu absenoldeb, ymladd.
Ond mae heddwch hefyd i’w gael mewn chwerthin. Mewn tegwch. Mewn cymuned. Wrth amddiffyn natur. Yn yr hyder y mae plentyn yn ei deimlo pan fyddant yn ddiogel, yn iach, ac yn rhydd i freuddwydio.
Dyma’r hyn y gallem ei alw’n heddwch cadarnhaol.
Mae’r syniad hwn wedi’i nodi’n glir yn y cyhoeddiad rhagorol gan Academi Heddwch Cymru o’r enw Cymru fel Cenedl Heddwch, a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd.
Mae heddwch cadarnhaol yn ymwneud â chreu’r amodau cywir i bobl ffynnu. Mae’n ymwneud â llesiant.
A dyna’n union yr hyn y bwriadodd Cymru ei wneud pan basiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddeng mlynedd yn ôl.
Mae’n un o’r deddfau mwyaf uchelgeisiol yn y byd.
Mae’n gosod mewn cyfraith y weledigaeth gyfunol, hirdymor sydd gennym ar gyfer y wlad hon, fel y’i datblygwyd gan bobl Cymru drwy sgwrs genedlaethol am y Gymru a Garem ac fel y’i nodir yn ein saith nod llesiant cenedlaethol.
Yn eu plith:
Cymru fwy cyfartal
Cymru o gymunedau cydlynol
Cymru lewyrchus
Cymru ậ diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymru gyfrifol ar lefel byd eang.
Mae’n dweud bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl, nid yn unig am ganlyniadau tymor byr, ond am effaith hirdymor.
Rhaid iddynt ystyried sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar blant, teuluoedd, cymunedau, a’r byd naturiol—nid yn unig heddiw, ond am flynyddoedd i ddod.
Mae pob un o’r nodau hyn yn adlais o egwyddorion craidd heddwch cadarnhaol.
Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio canllaw—nid yn unig ar gyfer datblygu cynaliadwy, ond ar gyfer sut y gall cenedl fach fel ein cenedl ni arwain gyda gwerthoedd a gweledigaeth.
Mae’r gyfraith hon yn ymwneud â’r hyn sy’n bwysig i bobl.
Pan fyddaf yn gwneud y swydd hon, nid yw pobl yn siarad â mi am dermau haniaethol fel twf economaidd. Maen nhw’n siarad â mi am eu angen am:
Dyma’r amodau ar gyfer llesiant.
Mae ein cyfraith llesiant yn creu’r amodau ar gyfer yr heddwch cadarnhaol hwnnw.
Heddwch fel Ymarfer
Mae absenoldeb heddwch wedi teimlo’n llawer agosach at adref i mi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ers mis Ionawr 2023, mae fy mhartner a minnau wedi croesawu ffoadur o Wcráin.
Wrth wylio bomio Kyiv ar y teledu, rydym yn gwylio dinas lle’r oedd hi wedi sefydlu ei chartref, a bu’n rhaid iddi ffoi. Nid yw’n gwybod beth fydd ei dyfodol ac mae’n poeni’n gyson am ddiogelwch ei ffrindiau a’i theulu. Nid yw rhyfel bellach yn ymddangos yn bell i mi.
Yr wythnos hon, rwyf hefyd yn cofio fy ffrind prifysgol, Miriam Hyman, a fu farw yn y bomio yn Llundain ar 7/7 ugain mlynedd yn ôl. Roedd Miriam yn garedig ac yn hael. Roedd hi’n dalentog ac roedd ganddi ddyfodol disglair iawn o’i blaen. Cymerodd ymosodiad terfysgol, digywilydd y dyfodol hynny oddi wrthi. Bydd gan lawer ohonom ni yma heddiw straeon trasig tebyg.
Mae absenoldeb heddwch yn effeithio ar bob un ohonom. Mae heddwch yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni i gyd weithio arno bob dydd; yn y penderfyniadau a wnawn o ddydd i ddydd. Nid polisi yn unig yw heddwch. Mae’n arfer. Dyna pam mae’r Ddeddf Llesiant yn sôn am ymddygiadau nid yn unig am nodau. Rydym yn galw’r rhain yn ddulliau o weithio: meddwl yn yr hirdymor, cydweithio, gwrando ar bobl, ac atal problemau cyn iddynt ddigwydd. Ein nod yw gwneud yr ymddygiadau hyn yn rhan o’r diwylliant sy’n dangos y modd yr ydym yn gwneud pethau yng Nghymru.
Ac os gallwn lwyddo, mae gennym y cyfle i wneud ymdeimlad o lesiant yn rhan annatod o’n diwylliant ar gyfer ein holl ddinasyddion ac i sefydlu’r amodau ar gyfer cenedl o heddwch, o heddwch positif. A dyna pam mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig.
Mae angen i ni ledaenu’r gwerthoedd a’r dulliau hyn o weithio. Oherwydd nid mewn adeiladau llywodraeth yn unig mae heddwch yn cael ei greu.
Mae’n cael ei greu mewn ysgolion, mewn neuaddau cymunedol, mewn corau, mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn digwyddiadau diwylliannol fel Eisteddfod Llangollen.
Mae’n cael ei greu yma, yn y fan hon.
Cymru yn y Byd
Mae rhai pobl yn gofyn, “A all Cymru wneud gwahaniaeth go iawn? Rydym yn wlad fach. Dydyn ni ddim yn rheoli polisi tramor. Dydyn ni ddim yn penderfynu ar wariant amddiffyn.”
Ond rwy’n credu bod hynny’n methu â deall y pwynt. Gallwn wneud gwahaniaeth—rydym eisoes wedi gwneud hynny, a rhaid i ni wneud mwy.
Mae’r Senedd wedi lleisio barn ar Wcráin a Gaza. Rwyf wedi ymuno â’r galwadau hynny am gadoediad parhaol ar unwaith yn Gaza ac i sicrhau rhyddhau’r holl wystlon yn ddiogel.
Mae Cymru wedi croesawu ffoaduriaid trwy ein rhaglen Cenedl Noddfa – mae fy ngwestai Wcrainaidd, Natalia yn un ohonyn nhw. Rydym wedi cymryd camau beiddgar gyda’n Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cymru a’r Cynllun Gweithredu LGBTQ+, i fod yn Gymru fwy cyfartal.
Rydym hefyd yn dysgu’r genhedlaeth nesaf sut i fod yn ddinasyddion y byd—trwy ein cwricwlwm newydd, ein menter Ysgolion Heddwch, a rhaglenni cyfnewid rhyngwladol fel Taith. Ar y llwyfan rhyngwladol, mae Cymru yn gosod esiampl ac, fel y dywedais, mae gwledydd yn edrych i ddatblygu deddfwriaeth debyg iddyn nhw eu hunain ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae ein cyfraith cenedlaethau’r dyfodol yn ein cyfarwyddo i wneud yr hyn a allwn dros heddwch ledled y byd. Gadewch i mi ddarllen y testun i chi. Mae nod Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod:
“Yn genedl sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol i lesiant byd-eang.”
I mi, mae hynny’n alwad am weithredu i hyrwyddo heddwch byd-eang. Mae’n bwysig ein bod yng Nghymru yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle sydd gennym, i arwain trwy esiampl, lleisio barn ar y llwyfan byd-eang a gwneud achos dros heddwch cadarnhaol yn yr amseroedd cythryblus hyn. Mae gan Gymru rôl i hyrwyddo heddwch gwirioneddol. Ond er mwyn groesawu rôl Cenedl Heddwch yn llawn, fodd bynnag, rhaid i ni gydnabod ac ystyried y rôl rydym yn dal i’w chwarae yng Nghymru ac yn y Deyrnas Gyfunol, mewn gwrthdaro byd-eang.
Y Gwaith o’n Blaen
Felly, mae gennym lawer o waith i’w wneud o hyd – yma yng Nghymru a thramor – i wireddu’n llawn y weledigaeth o heddwch cadarnhaol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Un o’r rhesymau pam rwy’n traddodi’r ddarlith hon heddiw yw, yn ogystal â bod y Cenhedloedd Unedig yn dathlu eu penblwydd 80 mlwydd oed, bod eleni yn nodi dengmlwyddiant y Nodau Datblygu Cynaliadwy yn ogystal â dengmlwyddiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae degawd wedi mynd heibio ers i Gymru wneud yr ymrwymiad beiddgar hwn i bobl nad ydynt eto wedi’u geni – i’r genhedlaeth nesaf a chenedlaethau wedi hynny – i’r personau ifanc hynny yr oeddech chi i gyd yn meddwl amdani nhw ar y dechrau.A ydyn ni’n adeiladu’r Gymru y mae pob dinesydd yn ei haeddu?
Ydym, rydym yn gwneud cynnydd, rydym yn buddsoddi mwy mewn teithio llesol fel beicio, cerdded ac olwyno, a llai ar adeiladu ffyrdd nag yr oeddem. Rydym yn ail yn y byd o ran ailgylchu. Rydym yn tyfu ein diwydiant ynni gwyrdd. Ond mae gennym broblemau mawr i’w datrys o hyd.
• Nid ydym ar y trywydd iawn eto i adfer natur.
• Nid ydym ar y trywydd iawn i ddileu tlodi.
• Nid ydym ar y trywydd iawn i wrthdroi tueddiadau iechyd hirdymor sy’n peri pryder.
Dyna pam mae fy nghyngor diweddar i Lywodraeth Cymru a’n cyrff cyhoeddus wedi argymell:
• Gweithredu cryfach dros yr hinsawdd a natur
• Cyflog Byw Go Iawn i bob gweithiwr
• A ffocws llawer mwy ar atal – fel ein bod yn treulio mwy o amser yn osgoi problemau yn hytrach na delio â’r canlyniadau.
Oherwydd pan fydd teuluoedd yn iach, pan fydd cymunedau’n gryf a natur yn ffynnu, dyna heddwch ar waith. Mae angen i ni wrando’n fwy astud hefyd. Mae angen deialog go iawn ar heddwch go iawn.
Mae hynny’n golygu rhoi mwy o gyfleoedd i bobl – yn enwedig pobl ifanc – i lunio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Unwaith eto, dyma thema y siaradodd Dr Rowan Williams amdani y llynedd. Siaradodd am yr angen i “adeiladu diwylliant o optimistiaeth ddemocrataidd gynhwysol.”
Rwy’n cytuno’n llwyr.
Ac mae’n thema rwy’n rhoi mwy o sylw iddi yn fy ngwaith hefyd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i’n cyrff cyhoeddus gynnwys ein dinasyddion mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. A gwneud hynny mewn ffordd arwyddocaol.
Nid yw hyn yn digwydd i’r graddau sy’n ofynnol yn y gyfraith, ac fel canlyniad nid ydym yn clywed pryderon llawer o’n dinasyddion. Ac nid ydym yn harneisio eu syniadau a’u hegni’n ddigonol i weithredu’r atebion ar gyfer yfory.
Casgliad: Cymru Can
Felly gadewch i mi orffen drwy ddiolch i’r Academi Heddwch gan fy mod wedi dysgu rhywbeth pwysig ar gyfer fy ngwaith wrth baratoi’r sgwrs hon.
Rwyf wedi dysgu bod cyfraith cenedlaethau’r dyfodol Cymru, ac felly fy rôl i wrth ei hyrwyddo, yn gyfraith sy’n ymwneud yn sylweddol â heddwch. Rwyf wedi dod i ddeall yn gliriach nag erioed: nid yw heddwch yn ymwneud ag osgoi gwrthdaro yn unig.
Mae heddwch yn ymwneud â sut rydym yn byw.
Mae’n ymwneud â thegwch, caredigrwydd, a sicrhau nad yw’r penderfyniadau a gymerwn heddiw yn niweidio’r byd y bydd plant yfory yn tyfu i fyny ynddo. Yma yn Llangollen, tref a ddewisodd gerddoriaeth fel ei hiaith heddwch. Mewn cenedl a roddodd ddeiseb i’r byd am heddwch a ysgrifennwyd gan famau a merched.
Mewn gwlad a ymgorfforodd hawliau cenedlaethau’r dyfodol yn y gyfraith.
Mae gennym ddewis. Mewn byd sy’n ymddangos fel pe bai’n crwydro oddi wrth heddwch, gall Cymru fod yn esiampl.
Gallwn ddangos beth mae’n ei olygu i arwain gyda diwylliant, tosturi, a dewrder. Gallwn fod yn Genedl o Noddfa, o undod, o gynaliadwyedd—ac ie, gall Cymru fod yn Genedl o Heddwch.
Diolch yn fawr.