Cipolwg a Newyddion
‘Enwch donnau gwres fel stormydd,’ meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wrth i’r Swyddfa Dywydd ragweld tymereddau’n codi eto
July 9, 2025
(Met Office)
“Os ydym yn parhau i drin gwres eithafol fel newyddion da ar gyfer diwrnod ar y traeth, rydym yn rhoi ein pennau yn y tywod pan ddylem fod yn amddiffyn bywydau.”
Dyna’r rhybudd gan Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sy’n dweud bod yn rhaid i ni roi’r gorau i weld tonnau gwres fel tywydd haf arferol a gweithredu i amddiffyn pobl rhag tymereddau sy’n codi.
Mae Derek Walker, sy’n gwasanaethu fel gwarcheidwad annibynnol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn dweud bod angen cynlluniau brys, hirdymor a phobl-ganolog ar Gymru i ddelio â thonnau gwres ac effeithiau hinsawdd eraill. Rhaid i’r cynlluniau hyn flaenoriaethu amddiffyn pobl agored i niwed, yn enwedig y rhai sydd mewn iechyd gwael neu’n byw mewn tlodi.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y bydd tymheredd mewn rhannau o Gymru unwaith eto yn cyrraedd 30°C yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae hyn yn dilyn ton wres ym mis Mehefin a’r gwanwyn cynhesaf a gofnodwyd erioed. Mae arbenigwyr hinsawdd yn rhybuddio y bydd digwyddiadau gwres eithafol a sychder yn dod yn fwyfwy cyffredin oherwydd newid hinsawdd.
Yn fyd-eang, mae tonnau gwres bellach yn achosi mwy o farwolaethau na llifogydd, daeargrynfeydd a chorwyntoedd gyda’i gilydd — gan ladd tua 500,000 o bobl y flwyddyn, yn ôl Swiss Re.
Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddaraf Walker yn annog llywodraethau a gwasanaethau cyhoeddus i roi risg hinsawdd wrth wraidd eu prosesau gwneud penderfyniadau. Dywed y dylai cynghorau a byrddau iechyd gydweithio’n agos â chymunedau i asesu eu hanghenion a’u gwendidau, yn enwedig mewn ymateb i newidiadau hinsawdd sydyn neu eithafol.
Ar draws Cymru, mae Walker yn tynnu sylw at Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgan fel enghraifft flaenllaw, gan ddangos pŵer gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio â chymunedau. Mae eu hasesiadau risg hinsawdd manwl eisoes yn helpu i ddeall sut mae tywydd eithafol, fel llifogydd a thonnau gwres, yn effeithio ar fywyd bob dydd.
Mae hefyd eisiau gweld mwy o atebion hinsawdd sy’n gweithio gyda natur i leihau risgiau sy’n gysylltiedig â gwres eithafol — megis tanau gwyllt, sychder a llifogydd sydyn. Mae cynyddu gorchudd coed o amgylch strydoedd ac adeiladau yn un dull profedig. Er enghraifft, mae Medellín yng Ngholombia wedi lleihau tymheredd dinas 2°C trwy adeiladu rhwydwaith o goridorau gwyrdd.
Diolch i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Cymru eisoes wedi cyflwyno cwricwlwm ysgol blaengar, prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd a chynllunio trafnidiaeth mwy gwyrdd. Ond mae angen mwy o weithredu.
Dywedodd Walker: “Os ydym yn parhau i drin gwres eithafol fel newyddion da ar gyfer diwrnod ar y traeth, rydym yn rhoi ein pennau yn y tywod pan ddylem fod yn amddiffyn bywydau.
“Mae ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 a’n gweledigaeth hirdymor, Cymru Can, yn ei gwneud yn glir bod angen atebion tonnau gwres ar Gymru sy’n gweithio i bawb — nid dim ond y rhai sydd ag aerdymheru a gerddi.
“Mae cefnogaeth gynyddol gan arbenigwyr i enwi tonnau gwres fel yr ydym yn ei wneud â stormydd. Gallai hyn achub bywydau trwy wneud y risgiau’n gliriach, yn enwedig i bobl hŷn a theuluoedd â phlant ifanc. Dylai fod yn rhan o gynllunio cenedlaethol.
“Mae tonnau gwres yn fwy na dim ond tywydd — maent yn ymwneud ag iechyd, cyfiawnder a goroesiad. Canfu astudiaeth Sbaenaidd fod pobl ar incwm isel yn llawer mwy tebygol o farw yn ystod digwyddiadau gwres eithafol.
“Mae atebion sy’n seiliedig ar natur yn hanfodol wrth fynd i’r afael ag effeithiau tonnau gwres. Mae plannu coed yn oeri ein trefi a’n dinasoedd, gan leihau’r risg o danau gwyllt a sychder. Ond rhaid i ni weithio gyda phobl yn ogystal â natur. Bydd gwneud addasu i’r hinsawdd yn wasanaeth cyhoeddus craidd yn gwneud ein gweithredu’n fwy effeithiol, ac yn y pen draw, mae’n arbed arian. Mae cost diffyg gweithredu yn llawer uwch.”
Nodiadau i olygyddion Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025, yn galw am i wydnwch ac addasu i’r hinsawdd ddod yn flaenoriaeth graidd i wasanaethau cyhoeddus. Mae’n dweud y dylai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gwblhau asesiadau risg hinsawdd ar gyfer eu cymunedau erbyn diwedd 2027 a diweddaru’r rhain bob pum mlynedd fel rhan o’u cynllunio llesiant.
Mae Asesiad Risg Newid Hinsawdd yn helpu cymunedau i ddeall eu hamlygiad i ddigwyddiadau eithafol fel glaw trwm, gwres eithafol, codiad yn lefel y môr a stormydd mwy dwys.
Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (2024) yn rhybuddio bod newid hinsawdd yn peri risg diogelwch cenedlaethol ddifrifol, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol i iechyd y cyhoedd a’r economi.
Mae’n argymell cynllunio ar gyfer y senario gwaethaf posibl, ffocws brys ar gostau diffyg gweithredu, a mesurau newydd gan gynnwys: gwahardd datblygiadau newydd ar dir sy’n dueddol o lifogydd, cynnwys natur mewn gwneud penderfyniadau, a chreu cronfa addasu a gwydnwch i newid hinsawdd.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morganwg wedi cwblhau asesiad risg hinsawdd manwl ac mae bellach yn cydweithio ar draws sectorau i ddatblygu strategaeth addasu. Wrth siarad â mwy na 220 o drigolion, cynllunwyr argyfwng a darparwyr gwasanaethau, fe wnaethant nodi risgiau allweddol o dywydd garw a’u heffaith debygol ar seilwaith, gwasanaethau a chymunedau ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Mae ymchwil o Madrid yn dangos mai cymunedau incwm isel sy’n dioddef fwyaf yn ystod gwres eithafol.