Customise Consent Preferences

We use cookies to help you navigate efficiently and perform certain functions. You will find detailed information about all cookies under each consent category below.

The cookies that are categorised as "Necessary" are stored on your browser as they are essential for enabling the basic functionalities of the site. ... 

Always Active

Necessary cookies are required to enable the basic features of this site, such as providing secure log-in or adjusting your consent preferences. These cookies do not store any personally identifiable data.

No cookies to display.

Functional cookies help perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collecting feedback, and other third-party features.

No cookies to display.

Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics such as the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.

No cookies to display.

Performance cookies are used to understand and analyse the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.

No cookies to display.

Advertisement cookies are used to provide visitors with customised advertisements based on the pages you visited previously and to analyse the effectiveness of the ad campaigns.

No cookies to display.

Derek Walker on stage at Sustainability in Action Qualification launch

Gan weithio ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, mae CBAC wedi lansio ei gymhwyster ‘Cynaliadwyedd ar Waith’ i gefnogi ‘swyddi sero net’ y genhedlaeth nesaf o weithwyr.

Datblygwyd y cymhwyster ar y cyd â swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, y Cwricwlwm i Gymru, a Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. 

Daw’r datblygiad yn sgil diddordeb mawr gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru a Lloegr sy’n gweithio gyda CBAC i gynnig darpariaeth cynaliadwyedd arloesol sy’n bodloni anghenion sgiliau a gwybodaeth eu dysgwyr. 

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, bydd y dysgwyr yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i weithio yn swyddi ‘sero net’ y dyfodol, gan gynnwys arwain, rheoli newid ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. 

Lansiwyd y cymhwyster yn ffurfiol mewn digwyddiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker a Phrif Weithredwr CBAC, Ian Morgan. 

Dywedodd Ian Morgan: “Bydd y cymwysterau hyn yn rhoi’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar ddysgwyr i fynd i’r afael â’r materion hinsawdd yn rhesymegol ac yn ofalus, a’u paratoi ar gyfer y gofynion i weithio’n llwyddiannus ym maes cynaliadwyedd ac mewn swyddi sero net. 

“Rwy’n edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod yn y dyfodol i’r sawl sy’n dilyn y cymwysterau hyn. Mae’n hollbwysig ein bod yn cymryd pa gamau bynnag y gallwn yng nghanol yr argyfwng hinsawdd er mwyn addo dyfodol disglair i’r rhai sy’n dod ar ein holau.” 

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Mae gadael planed y gall pobl y dyfodol fyw arni yn ddyletswydd anrhydeddus, ac rwy’n falch o ddweud y bydd pobl yng Nghymru cyn bo hir yn gallu astudio sut i ddiogelu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol. 

“Bydd y cymwysterau newydd hyn yn ein helpu i symud tuag at weledigaeth Cymru Can, fy strategaeth ar gyfer Cymru sy’n lle gwell i fyw ynddo, gyda dyfodol disglair ac optimistaidd – sy’n ffynnu, yn gynhwysol ac yn wyrdd, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â’r materion sy’n ein hwynebu, fel yr argyfyngau hinsawdd a natur ac anghydraddoldebau iechyd sy’n cynyddu.  

“Mae hwn yn gam cadarnhaol a chyffrous ymlaen i’r Cwricwlwm newydd i Gymru, lle mae gan bawb y cyfle i ddysgu am ddeddfwriaeth unigryw ac arloesol Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), a lle gallan nhw chwarae rhan yn y gwaith o adeiladu dyfodol gwell mewn 5, 25, 100 mlynedd.” 

Dysgwch fwy yma: https://www.cbac.co.uk/erthyglau-casgliad/cbac-yn-cyhoeddi-cymhwyster-cynaliadwyedd-ar-gyfer-swyddi-sero-net-y-dyfodol/