Cipolwg a Newyddion
Cais am Gynigion – Papur Gwyn Diwylliant ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol
August 4, 2025
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn chwilio am ymchwilydd, asiantaeth neu sefydliad i gynhyrchu Papur Gwyn sy’n archwilio’r opsiynau ar gyfer diogelu a hyrwyddo diwylliant o fewn cyrff cyhoeddus ledled Cymru.
Dylai’r gwaith roi trosolwg o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu cynnig a dyheadau diwylliannol Cymru ac ystyried y rhwymedigaethau statudol eraill ar gyrff cyhoeddus a’r Blaenoriaethau Cenedlaethol ar gyfer Diwylliant a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Dyddiad | Proses | Nodiadau |
1 Awst | Gwahoddiad i dendro wedi’i hysbysebu | Mae croeso i chi gysylltu ag ymholiadau tendr drwy e-bostio Jacob Ellis, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol a Diwylliant yn jacob.ellis@cenedlaethaurdyfodol.cymru
Bydd ymholiadau’n cael eu hateb hyd at 13 Awst. |
25 Awst, 5 PM | Dyddiad cau’r tendr | Rhaid gwneud cyflwyniadau drwy GwerthwchiGymru yn unig cyn y dyddiad cau
|
27 Awst | Cyfarfodydd eglurhad posibl (rhithwir) | Gwnewch yn siŵr bod cynrychiolydd ar gael ar y dyddiadau hyn |
1 Medi | Hysbysiad dyfarnu contract | Trwy GwerthwchiGymru |
4 Medi | Dyddiad cychwyn y contract | |
4 Medi | Cyfarfod Prosiect gyda’r tim mewnol | |
18 Medi | Gweithdy gyda Rhanddeiliaid a hwyluswyd gan y cyflenwr wyneb yn wyneb yn Aberystwyth i lywio’r gwaith. | |
1 Hydref | Adroddiad Interim | |
6 Tachwedd | Cytundeb yn dod i ben |