Search Icon

| ENG

Derek Walker presenting to Academy members

Pryd bynnag dwi’n teimlo’n anobeithiol, rwy’n ddiolchgar am yr amser rwy’n treulio gyda’n Hacademi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae’r grŵp hwn o bobl 18-30 mlwydd oed yn helpu i ail-ddychmygu Cymru’r dyfodol lle byddwn wedi gwireddu uchelgeisiau ein cenedl fel y cậnt eu hamlygu drwy’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Ers i ni lansio’r rhaglen yn 2019, mae’r cyn-fyfyrwyr wedi ehangu gan sicrhau lleoedd mewn sefydliadau sy’n amrywio o’r Cyngor Prydeinig i ymddangos yn Gen Z: Fy Mywyd Fy Marn, gan siarad yn Llundain a Brwsel a thrwy Gymru ben baladr. 

Mae’r Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn grŵp o bobl ifanc sy’n rhoi’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith, gan greu cynlluniau cenedlaethau’r dyfodol ar gyfer eu gweithleoedd, gan fentora arweinyddion Cymru a thrwytho gwaith fy swyddfa, yn cynnwys yr argymhellion y byddaf yn eu gwneud i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus yn fy adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi eleni. 

Mae ein deddf unigryw yng Nghymru’n golygu bod yn rhaid i ni weithredu heddiw ar gyfer gwell yfory – amddiffyn pobl yn awr yn ogystal ậ’r rhai a gaiff eu geni yn y dyfodol, fel bod gennym yr hyn sydd ei angen arnom drwy gydol ein bywydau ni ein hunain, gan adael ar ein hôl blaned y gellir byw arni. Mae’r bobl ifanc sy’n cyflawni’r rhaglen hon bob blwyddyn yn cymryd camau i’n dwyn yn agosach at y dyfodol hwn. Maent yn chwarae rhan arwyddocaol drwy sicrhau bod y ddeddf hon yn gweithio’n galetach, y genhadaeth fwyaf yn fy strategaeth, Cymru Can. 

FGLA 4.0

Yn ei hanfod, mae’r academi’n cynrychioli Cymru sy’n falch o’i hamrywiaeth.  

Mae cyfanswm o 32% o’r cynrychiolwyr yn uniaethu fel Duon, Asiaidd neu o gefndir Ethnig lleiafrifol; 25% yn uniaethu fel LGBTQ+ , mae pedwar o’n cynrychiolwyr yn uniaethu fel personau anabl, a phedwar ậ chyfrifoldebau gofal. Mae 33% yn cymryd rhan  drwy’r Gymraeg, 69% o’r cynrychiolwyr yw’r rhai cyntaf yn eu teulu i fynychu prifysgol, ac mae 60% o’r cyfranogwyr ar lefel mynediad gyda’u gyrfaoedd. 

Ym mis Mawrth 2025, bydd yr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn dathlu cyrraedd carreg filltir o 100 o arweinwyr ifanc sydd wedi cyflawni’r rhaglen, gan ragori ar draws sectorau. 

Eleni, mae 46% yn gweithio yn y sector cyhoeddus, 34% yn y sector gwirfoddol, 11% yn y sector preifat a 9% mewn meysydd eraill. 

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi addo £40,000 yn flynyddol i’r academi am y tair blynedd nesaf, gan alluogi un o’u cydweithwyr a phedwar unigolyn o gefndiroedd amrywiol i gymryd rhan. 

Dywed y sefydliad eu bod wedi bod yn dyst i bŵer trawsnewidiol y rhaglen, a hynny’n annog eraill i’w chefnogi a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu gwaith.  

I fuddsoddi’n well yn arweinwyr yfory, mae arnom angen mwy o fuddsoddiad yn natblygiad ieuenctid, a gofod i wneud penderfyniadau.  

Wrth i ni baratoi i nodi 10 mlynedd o ymrwymiad Cymru i lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (ym mis Ebrill, bydd dengmlwyddiant y Ddeddf), rwy’n croesawu cydweithio pellach gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, a phob sector yng Nghymru, fel y gallwn gryfhau cyfleoedd i bobl ifanc ffynnu. 

Bydd mwy o gydweithio yn eu cefnogi i gael mynediad i hyfforddiant arweinyddiaeth lefel uchel, ennill yr ymddiriedaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain a chreu datrysiadau arloesol ar gyfer dyfodol cynaliadwy a chynhwysol. 

Rwy’n gwahodd pob sector i wneud eu penderfyniadau’n gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan ennyn ymgyfraniad pobl ifanc a dyrannu cyllidebau sy’n grymuso mentrau a arweinir gan bobl ifanc. 

Mae mannau addysgol diogel lle gall pobl ifanc hogi eu sgiliau arweinyddiaeth, rhoi hwb i’w hyder, a chwrdd â’r bobl iawn fel y gallant ddylunio a chyflawni’r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer eu dyfodol delfrydol, yn hanfodol. Gyda’n gilydd, gadewch i ni barhau i gysylltu, a herio’r penderfyniadau a wneir heddiw, fel ein bod yn amddiffyn y dyfodol lle gall pobl ifanc Cymru ffynnu. 

Esther

Stori Esther 

Mae Esther Obafemi yn rhannu ei phrofiad o fod yn rhan o Uwchgynhadledd UE Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol 2024 yng Ngwlad Belg, lle cyfarfu’r tîm â sefydliadau Ewropeaidd a mentrau llawr gwlad. 

“Cefais y cyfle anhygoel i deithio i Frwsel gyda grŵp o arweinwyr ifanc ysbrydoledig o Gymru fel rhan o Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol. Ein nod oedd archwilio a thrafod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gyda gwahanol sefydliadau. 

Mewn trafodaeth bord gron yn yr Uned Foresight Ewropeaidd, buom yn rhannu mewnwelediadau am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, darn arloesol o ddeddfwriaeth sydd wedi gosod Cymru ar y map byd-eang ar gyfer cynllunio polisi hirdymor. 

Gwnaethom ddysgu hefyd am gynlluniau’r UE i sefydlu Comisiynydd Tegwch sy’n Pontio Cenedlaethau — cysyniad sy’n cyd-fynd yn llwyr â gwerthoedd craidd y Ddeddf. Roedd yn galonogol gweld ein gwaith yn cael ei gydnabod fel model ar gyfer ysbrydoliaeth fyd-eang. 

Gwnaethom ymweld â Senedd Ewrop, cwrdd â Leuven MindGate, sefydliad sy’n cryfhau’r ecosystem leol trwy drefnu digwyddiadau rhwydweithio a mentrau cydweithredu sy’n galluogi pobl ifanc, yn lleol ac yn rhyngwladol, i gydweithio a gwella’r ddinas. Roedd cyfarfod â Swyddfa Werdd Prifysgol Leuven, tîm o fyfyrwyr sy’n gweithio i wneud cynaliadwyedd yn rhan o weithrediadau’r brifysgol, yn ysbrydoledig, ac roedd yn adlewyrchu’r momentwm llawr gwlad rydym wedi’i feithrin yng Nghymru.  

Amlygodd cyfarfod â thîm Llywodraeth Cymru ym Mrwsel pa mor ddwfn yw cysylltiad ein cenedl â phartneriaethau Ewropeaidd, yn enwedig ym maes cynaliadwyedd ac iechyd y cyhoedd. 

Mae Cymru wedi gwneud cynnydd anhygoel yn y meysydd hyn drwy fabwysiadu agwedd ragweithiol. Mae mentrau sydd â’r nod o leihau unigrwydd ac arwahanrwydd, cynyddu gweithgarwch corfforol, a mynd i’r afael â heriau iechyd meddwl wedi dod yn feincnodau ar gyfer polisi iechyd cyhoeddus. 

Cefais fy atgoffa o’r modd y mae pobl ifanc wedi ysgogi newid mewn gwahanol feysydd fel mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau anghydraddoldebau; wrth gyfarfod â Fforwm Ieuenctid Ewrop ac ym Mhwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop (EESC), buom yn rhannu arferion gorau ac yn archwilio datrysiadau cydweithredol ar gyfer datblygu cynaliadwy.  

Roedd yn braf gweld sut roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn taro tant gydag eraill ac yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer meddwl mewn ffordd arloesol. Roeddwn yn gallu rhannu fy ngwaith ym maes gofal cymdeithasol a rhai o’r ffyrdd y mae iechyd cyhoeddus wedi gwella yng Nghymru o ganlyniad i’r Ddeddf yn y Breswylfa Brydeinig a sut, drwy strategaethau ataliol ac ymagwedd holistig mae Cymru wedi cymryd camau breision i fynd i’r afael â’r amgylchedd a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd, gan brofi bod gan genhedloedd bychain y gallu i arwain y ffordd o ran creu cymdeithasau iachach a thecach. Roedd cynrychioli Cymru, rhannu ein cynnydd, a dysgu gan eraill yn cadarnhau pwysigrwydd byd-eang meddwl hirdymor a’r angen i flaenoriaethu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.”

* I ddarganfod mwy am sut i ymuno ậ’r Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, neu ei noddi, cysylltwch â korina.tsioni@futuregenerations.wales