Mae Mason Edwards eisiau gweld mwy o gynrychiolaeth ochr yn ochr â mwy o gyllid ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru

Mae cynhyrchydd ifanc o Gymru yn dweud bod yn rhaid i fwy o gynrychiolaeth a mwy o gyllid fynd law yn llaw os yw celfyddydau Cymru am oroesi. 

Mae Mason Rodrigues-Edwards, 25, na welodd “unrhyw un oedd yn edrych fel fi” yn tyfu i fyny fel darpar actor yng Nghaerdydd, newydd raddio o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae nawr yn gobeithio ysbrydoli pobl ifanc fel y gwnaeth ei fentor ei hun ei ysbrydoli. 

Mae Mason, 25 oed yn ymuno â 35 o arweinwyr eraill yfory i raddio o’r rhaglen, sy’n cael ei rhedeg gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker a’i dîm. 

Mae’r Academi, sydd bellach yn ei degfed flwyddyn, wedi’i chynllunio i ddiogelu buddiannau cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, yn ogystal â’r blaned.  

Mae cyfranogwyr yr Academi yn creu cynlluniau gweithredu hirdymor, yn mentora arweinwyr Cymru, ac yn cyfrannu at Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol statudol y Comisiynydd, sydd i’w gyhoeddi ym mis Ebrill. 

Yn gynhyrchydd cynorthwyol gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, mae Mason yn gweithio i “rymuso pobl ifanc i gymryd rhan yn y celfyddydau a’i weld fel opsiwn gyrfa hyfyw.” Mae’n angerddol am greu lle i “fwy o bobl o’r mwyafrif byd-eang a gwahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol” ffynnu yn y sector. 

“Mae pobl yn gweld math gwahanol o artist yn dod o Gymru ac mae hynny’n wych,” meddai Mason, a astudiodd Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol South Bank Llundain. 

“Pan oeddwn yn edrych i mewn i yrfa yn y celfyddydau, ni welais unrhyw un a oedd yn edrych ac yn swnio fel fi. 

“Ni ddigwyddodd unrhyw beth roeddwn i’n ymwneud ag ef yn Grangetown na’r dociau. 

“Es i Ysgol Gynradd Mount Stuart ac erbyn hyn mae’n cael cymaint mwy o sylw, ond nid oedd pobl yn siarad am Betty Campbell pan oeddwn i’n tyfu i fyny.” 

Dywed fod cael ei fentora gan yr awdur a chyn Fardd Plant Cymru Connor Allen yn drobwynt. 

“Cawsom brofiad byw tebyg. Roedd cyfarfod ag ef yn gwneud i mi deimlo bod lle i mi. Rwy’n gobeithio y bydd pobl ifanc yn fy ngweld fel yna. 

“Ar adeg mae’r celfyddydau dan gymaint o fygythiad ac rydyn ni’n cael gwybod nad yw’n llwybr gyrfa hyfyw, ochr yn ochr â mwy o gyllid ar gyfer y celfyddydau, mae angen mwy o gynrychiolaeth yn y celfyddydau i ddangos beth sy’n bosibl, neu bydd pobl na fyddai fel arfer wedi cael mynediad i’r celfyddydau yn cael eu gadael allan a’u gadael ar ôl. 

“Mae cynrychiolaeth yn bwysicach nag erioed felly gallwn ni wirioneddol gynrychioli a chroesawu amrywiaeth lawn Cymru.” 

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, galwodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol am Fil Diwylliant i sicrhau cefnogaeth hirdymor, gynaliadwy i’r celfyddydau – cam y mae Mason yn ei gefnogi’n gryf. 

“Mae angen i bobl ddeall pa mor anodd yw hi a beth allwn ni golli fel gwlad y gân a chymaint mwy, os nad oes cefnogaeth barhaus i gelfyddydau,” meddai Mason. 

“Nid oes gennym gymaint o leoliadau â gwledydd eraill ac mae’r rheini yn ei chael hi’n anodd. Gallai hynny olygu y bydd plentyn yn tyfu i fyny heb fyth weld perfformiad byw ar lwyfan.  

“Mae gan bawb ran i’w chwarae, p’un a ydych yn y celfyddydau ai peidio. Yn yr academi, daeth rhai o’r pethau gorau a ddysgais gan bobl y tu allan i’r diwydiant. 

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gefnogi sefydliadau ac artistiaid i ddod at ei gilydd a gwneud yn siŵr bod gan gelfyddydau Cymru ddyfodol.” 

Mason Edwards yn fachgen ifanc
Mason Edwards yn fachgen ifanc

Daeth graddedigion eleni o amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chymdeithas Adeiladu’r Principality a phob un ohonynt wedi graddio ddiwedd mis Mawrth mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. 

Mae cyfranogwyr 18-30 oed yn cael y cyfle i ddod yn rhan o rwydwaith cyn-fyfyrwyr yr academi, rhwydwaith o 120 o arweinwyr ifanc – mae’r cyn-fyfyrwyr wedi siarad mewn cynadleddau hinsawdd, wedi ymuno â byrddau cynghori Llywodraeth Cymru, wedi dod yn swyddogion etholedig ac wedi cynrychioli Cymru ar Gomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol y DU. 

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi addo £40,000 y flwyddyn am y tair blynedd nesaf, gan ariannu lleoedd ar gyfer un aelod o staff a phedwar unigolyn o gefndiroedd amrywiol. 

Dywedodd Korina Tsioni, Arweinydd y Rhaglen: “Mae diffyg cynrychiolaeth ieuenctid yn y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, ac mae angen i ragor o ddysgu ddigwydd ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

“Mae Academi Arweinwyr y Dyfodol yn helpu i bontio’r bylchau hyn, ac yn gweithredu’n gadarnhaol tuag at y nodau hyn, gan gefnogi pobl i gydweithio’n greadigol tuag at y Gymru a garem. 

“Mae’r 36 arweinydd ifanc a raddiodd eleni eisoes yn gwneud y byd yn lle gwell, ac ni allaf aros i weld beth fyddant yn ei wneud nesaf.” 

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn cyhoeddi ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol pum mlynedd ar Ebrill 29ain yn Uwchgynhadledd Gweithredu Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghaerdydd. 

I ddarganfod mwy am y graddedigion: futuregenerations.wales/cym/archwilio/academi-arweinyddiaeth-cenedlaethaur-dyfodol

Mae’r rownd nesaf yn agor Medi 2025 – cysylltwch â Korina.tsioni@futuregenerations.wales am ragor o wybodaeth.