Cipolwg a Newyddion
Artistiaid yng Nghymru yn creu datganiadau pwerus wrth i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol nodi ei dengmlwyddiant.
August 4, 2025
Comisiynodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol y gwaith i dynnu sylw at bŵer celf a chyfraniad artistiaid a phobl greadigol i gymdeithas, ac mae’n ymddangos yn ei Adroddiad Cenedlaethau’rDyfodol 2025.
Mae Mr Walker yn gwneud argymhellion pwysig yn yr adroddiad statudol, yn cynnwys rhai’n ymwneud ậ diwylliant a’rGymraeg, sy’n gwneud argymhellion i sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn rhoi mwy o flaenoriaeth i ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg.
Mae Cymru yn awr yn drydydd o’r gwaelod ymhlith gwledydd Ewrop o ran gwariant y pen ar wasanaethau hamdden a chwaraeon, ac yn ail o’r gwaelod o ran gwasanaethau diwylliannol.
Mae cydweithrediad yr artistiaid yn rhan o ymrwymiad tîm Mr Walker i sicrhau bod diwylliant yn cael ei wneud yn rhan annatod o bolisi lleol a chenedlaethol ac i archwilio dulliau arloesol o ehangu’r modd y mae ei dîm yn ymgysylltu â gweithwyr llawrydd diwylliannol drwyddi draw yn eu gwaith.
Detholwyd Paskaline Maiyo, Flatboy (Seren Thomas), Kyle Stead, Teulu von Flap a Rightkeysonly drwy alwad agored a chawsant eu gwahodd i ddatblygu eu gwaith mewn deialog rhyngddynt ậ thîm y comisiynydd.
Mae Tik Tok (Canfas Byw ar gyfer Newid Hinsawdd) Paskaline yn trawsnewid y corff dynol yn naratif gweledol, gan ddarlunio datblygiad diwrnod o’r bore i’r nos, i gyfleu’r achosion, yr effeithiau a’r datrysiadau sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd. Mae ystum y model, sy’n syllu ar awrwydr, yn ein hatgoffa bod amser yn brin ac yn pwysleisio bod y ffenestr ar gyfer gweithredu effeithiol yn erbyn newid hinsawdd yn culhau, gan annog ymdrechion uniongyrchol ac ymwybodol i warchod ein planed.
Mae Map Breuddwydion Seren Thomas (gellir gweld fersiwn ohono ar glawr Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol), yn dal gobeithion yr artist am sut wlad y gallai Cymru fod petai hi’n deall ac yn gweithredu’n llawn ar fodel cymdeithasol o iechyd, gan ddangos pa mor bwysig i iechyd Cymru yn y dyfodol yw cyd-gynhyrchu, atal a lleddfu anghydraddoldebau. Mae’r map yn cael ei ysbrydoli gan fentrau sydd eisoes ar waith yng Nghymru.
Mae darn llafar Kyle Stead, Beth yw ein Dyfodol, wedi’i osod yn erbyn cefndir Rhondda Fach o Fynydd Maerdy, ac mae’n amlygu’r angen am well cefnogaeth i iechyd meddwl, mwy o fuddsoddiad yn y celfyddydau a diwylliant, a realiti niwroamrywiaeth fel profiad byw. Mae’n gofyn ‘a allwn ni fod yn well?’ mewn darn sy’n galw am weithredu.
Mae perfformiad Teulu Von Flap i ffilm, Balancing Act/Gweithred Cydbwyso, yn gweld y teulu’n ymroi i gynnal a throi cydbwysedd corfforol trwy chwarae, gan ganolbwyntio ar ffactorau a fydd yn cyfrannu at iechyd a llesiant yn y dyfodol megis hinsawdd, diwylliant, anghydraddoldeb bwyd, argyfwng tai, iechyd a diwylliant, trwy lens deinameg teuluol. Trwy hyn, maent yn ceisio cynnal y themâu yn yr adroddiad – mynegiant gweledol o’u hymgais i gydweithio’n gorfforol ac yn drosiadol i gyflawni cenadaethau Cymru Can.
Mae Mi, yn ddarn o gerddoriaeth gan RightkeysOnly, sy’n mynd i’r afael â gweithredu ar yr hinsawdd o safbwynt hygyrchedd i bobl ag anabledd. Gan gyfuno samplau o adar, gwynt yn bloeddio a changhennau coed gyda llinellau bas synth a llinynnau electronig, roedd yr artist eisiau rhoi llais i’r byd naturiol nad yw’n ei gael yn aml. Mae Mi yn gorfodi’r rhai sy’n gwrando i gydnabod ofnau a phrofiadau niweidiol y gymuned anabl yng Nghymru, ond mae hefyd yn tynnu sylw at “sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i adeiladu Cymru sy’n gyfeillgar i’r hinsawdd ac sy’n cynnwys cymunedau Anabl sy’n ei galw’n gartref.”
Mae Mr Walker yn credu y gall artistiaid a phobl greadigol ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad i lunio datblygiad a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, i gefnogi arloesedd ym mhob rhan o fywyd cyhoeddus ac ennyn ymgysylltiad pobl yn y dasg o ddatrys problemau mawr – ac mae’n galw yn yr adroddiad am fil diwylliant i wneud diwylliant yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus i gryfhau’r rôl y maent yn ei chwarae o fewn cymunedau lleol.
“Gallwn wella i raddau helaeth y modd yr ydym yn gwneud diwylliant yn rhan annatod o’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu gwaith, er mwyn dod â manteision ehangach i bawb, ac rwy’n rhannu mwy o enghreifftiau yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol o’r mannau lle mae diwylliant yn cael ei gydnabod ac ymhle y gellir ehangu prosiectau ledled Cymru, a sut y gallwn fynd ymhellach i sicrhau bod diwylliant yn cael y flaenoriaeth a’r adnoddau y mae’n ei haeddu.”
Dywedodd Kyle Stead, 28 mlwydd oed o Rhondda: “Rwy’n teimlo’n angerddol am lesiant yng Nghymru oherwydd fy mod yn credu y gallwn wneud yn well. Mae celf yn arf pwerus ar gyfer newid oherwydd ei fod yn medru cynnig persbectifau ffres neu wahanol.“Rwyf am i gyrff cyhoeddus wybod ein bod yn darparu gwerth, ac na ddylem fod yn ymladd am sborion, yn cystadlu yn erbyn ein gilydd oherwydd diffyg adnoddau, gofod a chyllid.”
Dywedodd Paskaline Maiyo, 30 mlwydd oed, sy’n byw yng Nghaerdydd: “Rwy’n rhagweld Cymru fel gofod bywiog a chynhwysol lle gall artistiaid o bob cefndir fynegi eu creadigrwydd tra’n ysgogi effaith ac ymwybyddiaeth arwyddocaol ar draws gwahanol gymunedau. Mae celf yng Nghymru yn tyfu ac mae’n bwerus. Dylai mwy o gyrff fanteisio ar y talentau ifanc gan gynnwys y rhai dibreswyl yn y Deyrnas Gyfunol. Yr unig ffordd o greu byd gwell yw i bawb gael cynfas gwag, a lle gall pawb lunio cenedlaethau’r dyfodol trwy gelf.”
Dywedodd Rightkeysonly, 25 mlwydd oed, o Lantrisant: “Fel person ag anabledd corfforol a niwroamrywiol, rydw i wedi profi sawl gwaith amserau lle mae fy anghenion wedi cael eu hystyried yn negyddol. Fel person anabl, rwyf yn aml wedi cydnabod yr eironi yn y datganiad bod yn rhaid i ni i gyd fod yn rhan o’r sgwrs ar newid hinsawdd tra nad ydyn ni’n darparu mannau hygyrch i bobl anabl gyfrannu. Rydw i hefyd wedi bod yn ffodus iawn i gael llawer o brofiadau lle rydw i wedi profi bod fy anghenion mewn gwirionedd yn uwch-bŵer ac wedi cwrdd â chymunedau anhygoel o fewn y sector creadigol sy’n credu hynny hefyd. Ond, ni ddylai cael eich derbyn am bwy ydych chi fod yn seiliedig ar lwc, dylai fod yn amod safonol. Un diwrnod, dyna fydd y safon yng Nghymru ac rydw i’n credu mai’r celfyddydau yw’r adnodd gorau sydd gennym i wneud i hynny ddigwydd.”
Dywedodd Seren Thomas, 28 mlwydd oed, sy’n byw yng Nghaerdydd: “Rwy’n teimlo’n angerddol am wneud newid i lesiant pobl yng Nghymru oherwydd mae cymaint o hyd sydd angen ei wneud. Yn hanesyddol, mae Cymru wedi bod yn lle creadigol iawn, yn ymgysylltu’n gymdeithasol ac yn cael ei gyrru gan y gymuned, ac wrth atgoffa pobl o’r hanes hwnnw, rwy’n gobeithio y gallwn harneisio rhywfaint o’i phŵer heddiw. Mae gan gelf y gallu i ennyn ymgysylltiad emosiynol â phobl mewn ffordd wahanol i’r hyn yr ydym wedi arfer ei weld mewn gwleidyddiaeth heddiw. Mae’n helpu pobl i weld sefyllfa y tu hwnt i’w profiad eu hunain, a gweld, gobeithio, sut y gallai datrysiadau eraill fod yn bosibl iddyn nhw ac i eraill.”
Dywedodd Teulu Von Flap, sydd wedi ei leoli ar Ynys y Barri, ac sy’n cynnwys Kathryn 40 mlwydd oed, James 39 mlwydd oed, Teifion 9 mlwydd oed a Taran 5 mlwydd oed: “Mae gan artistiaid y gallu i fod yn ymgynghorwyr arweiniol yn y broses ddylunio/penderfynu polisi – yn aml rydym yn unigolion sy’n arweinwyr cymunedol ac mae’n annhebygol y byddwn wedi ein sefydliadu, felly mae gennym y rhyddid i ofyn cwestiynau a all ysgogi a chychwyn trafodaeth ehangach. Mae artistiaid yn ymwybodol o’u safle unigryw fel defnyddwyr gwasanaeth yn y gymuned tra’n darparu ymgysylltiad a chreu gweithgaredd creadigol ar yr un pryd. Mae angen dod ag artistiaid i’r bwrdd yn amlach!”