Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 962 [source_item_id] => 61177 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 8551 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => 90fa3717-5dcb-4ed7-aa48-ceb1d8ab7341 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Llywydd, Cyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn un o'r fframweithiau deddfwriaethol mwyaf blaengar ar gyfer iechyd y cyhoedd yn yr 21ain ganrif.

Mae'n nodi gweledigaeth feiddgar ar gyfer Cymru lle gall pawb fyw bywydau hirach, iachach a mwy boddhaus - waeth beth fo'u cefndir.

Yng Ngwent, fodd bynnag, rydym yn wynebu anghydraddoldebau llym. Mae trigolion Torfaen, Casnewydd, Caerffili a Blaenau Gwent yn cael eu heffeithio’n anghymesur gan afiechydon y gellir eu hatal a marwolaethau cynamserol.

Dyna pam mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ganolog i sut rydym yn darparu gofal iechyd yng Ngwent ac wedi dylanwadu ar ein hymrwymiad i fod yn rhanbarth Marmot – y rhanbarth Marmot cyntaf yng Nghymru.

Ochr yn ochr â nodau llesiant cenedlaethol a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae wyth egwyddor Marmot sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cyfarwyddo sut rydym yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb iechyd ac yn adeiladu Gwent Iachach, Tecach, Diogelach a Chryfach trwy ganolbwyntio ar benderfynyddion ehangach iechyd; y ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a strwythurol sy’n effeithio ar ein hiechyd gan gynnwys addysg, swyddi, tai cymdeithasol da, trafnidiaeth a’n hamgylchedd.

Trwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, rydym yn datblygu dull sy’n seiliedig ar systemau ac sy’n cael ei arwain gan y gymuned i leihau anghydraddoldebau ar draws pob grŵp oedran, gan ganolbwyntio ar gau’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig.

Yng Ngwent, rydym ni’n:

Gwrando ar gymunedau – deall sut mae pobl eisiau a sut mae angen iddynt gael mynediad at wasanaethau iechyd a’u profi.

Drwy ein Rhwydweithiau Llesiant Integredig ledled Gwent, rydym yn gwella ac yn cryfhau llesiant drwy gysylltu a gwella asedau cymunedol i bobl feithrin perthnasoedd a dod o hyd i’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar – cefnogi datblygiad lleferydd, iaith a chymdeithasol plant i gau’r bwlch cyrhaeddiad, eu helpu i ffynnu yn yr ysgol a thu hwnt a gwella eu canlyniadau gydol oes.

Mae tlodi yn cael effaith negyddol ar ddatblygiad plant, gan effeithio ar eu dysgu a’u dyfodol. Dyna pam mae ein prosiect Barod i’r Ysgol cydweithredol yn cefnogi plant yng Ngwent i gyflawni cerrig milltir datblygiadol yn barod ar gyfer yr ysgol trwy gyd-ddylunio gweithgareddau ac adnoddau ar gyfer teuluoedd.

Atal salwch – creu amgylcheddau lle mae gan bobl y cyfleoedd gorau am fywydau iachach, trwy fynediad at fannau gwyrdd a chynllunio i sicrhau bod gan gymunedau fynediad haws at fwyd iach a fforddiadwy.

Rydym yn rhan o Bartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, gan weithio gydag eraill i adeiladu system fwyd leol sy’n iach, yn fforddiadwy, yn wydn ac yn deg.

Mae’r Bartneriaeth yn cefnogi prosiectau tyfu cymunedol, yn rhannu canllawiau ar fwyta’n iach i blant a theuluoedd newydd ac yn annog pobl i goginio mwy gyda chynhwysion tymhorol, lleol gyda’u llyfr ryseitiau Blas o Natur am ddim.

Gwella tai a hygyrchedd – creu mannau cynnes, diogel a chanolfannau cymunedol i leihau unigedd, gwella iechyd meddwl a chorfforol ac arbed arian i GIG Cymru sy’n gwario tua £95 miliwn y flwyddyn ar ganlyniadau iechyd tai annigonol.

Crëwyd hybiau llesiant cymunedol i gael y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir i’r bobl gywir. Mae’r hybiau’n darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cyngor ar yr argyfwng costau byw a chyfeirio at gefnogaeth sydd ar gael, yn ogystal â meithrin ysbryd cymunedol a lleihau unigedd.

“Dydw i ddim yn gweld pobl o un wythnos i'r llall… gall rhai dyddiau fod yn anodd iawn, iawn, felly mae cael [Hyb Llesiant Tŷ Maitri], yn rhodd Duw mewn ffordd. Mae'n wych.”

Keith, preswylydd lleol ym Mrynmawr

 

Mae’r camau gweithredu hyn wedi’u hymgorffori yn ein Cynllun Tymor Canolig Integredig ac maent eisoes yn cael eu harwain ar lawr gwlad gan gymunedau ledled Gwent. Ein rôl ni yw cefnogi ac ehangu’r gwaith hwn, gan rymuso pobl leol i lunio’r dyfodol maen nhw ei eisiau iddyn nhw eu hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.

Nid yw’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu yn unigryw i Went. Ar draws Cymru mae angen buddsoddiad hirdymor, ar y cyd mewn atal i newid trywydd iechyd y cyhoedd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn adlewyrchu dewrder a chlirder pwrpas Cymru. Ymunais â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2023, wedi fy ysbrydoli gan botensial Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ysgogi newid ystyrlon, nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Trwy’r fframwaith hwn, mae Gwent wedi ymrwymo i fod yn rhanbarth lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Lle rydyn ni’n gweithredu heddiw, nid yfory. Lle rydyn ni’n dweud yn hyderus: Ni yw Gwent – We are Gwent.


 

Am ragor o wybodaeth am sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ewch i’n gwefan.

Am adnoddau a chymorth ar sut i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eich gwaith, ewch i wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.