Ni ddylai mynediad i ddiwylliant fod yn loteri cod post, rhybuddia Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wrth iddo alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Diwylliant.
Heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi a Diwrnod Dyfodol y Byd, wrth i’r wlad ddathlu Cymru a’i threftadaeth gyfoethog, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru Derek Walker, eisiau gwella cyfleoedd y dyfodol a gweld gwlad lle mae diwylliant yn cael ei gwneud yn ofyniad statudol ar gyrff cyhoeddus i gryfhau’r rôl y maent yn ei chwarae o fewn cymunedau lleol.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sy’n nodi 10 mlynedd ym mis Ebrill eleni, yn golygu bod llesiant diwylliannol yn cael ei ystyried yr un mor bwysig â llesiant economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol, gan gydnabod eu heffaith sylweddol ar fywydau pobl.
Ac eto, mae Cymru bellach yn drydydd o waelod gwledydd Ewrop am wariant y pen ar wasanaethau hamdden a chwaraeon, ac yn ail o’r gwaelod ar gyfer gwasanaethau diwylliannol.
Dywedodd Mr Walker y byddai Bil Diwylliant yn rhoi Cymru ar y llwybr cywir i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a sicrhau bod pob person yng Nghymru yn gallu cymryd rhan, mwynhau, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithgaredd diwylliannol Cymru.
Croesawodd Mr Walker y £4.4m blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau a diwylliant, a dywedodd: “Mewn Cymru gyfartal, dylai pawb gael mynediad i, a budd o ddiwylliant bywiog a iaith Gymraeg sy’n ffynnu, ond eto gyda gwasanaethau dan fygythiad oherwydd toriadau yn y gyllideb, sy’n bygwth eu rôl bwysig yn iechyd corfforol a meddyliol pobl, rydym mewn perygl o gael loteri cod post diwylliannol.
“Gallwn weithredu’n llawer gwell i wneud diwylliant yn rhan annatod o’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu gwaith, er mwyn ehangu’r budd i bawb.
“Mae angen ailosod ein diwylliant ac angen i bob corff cyhoeddus, o gynghorau i fyrddau iechyd a pharciau cenedlaethol, gefnogi mynediad pobl i ddiwylliant.
“Byddai lansio Bil Diwylliant yma yng Nghymru yn gwneud ymrwymiad i sicrhau bod diwylliant yn cael y flaenoriaeth a’r adnoddau y mae’n ei haeddu i ffynnu am genedlaethau i ddod.”
Gyda’r dyhead o gael y Bil Diwylliant yn nhymor y Senedd 2026-2030, bydd y comisiynydd yn gwneud ei argymhellion i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill ar Ebrill 29, yn ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.
Bydd yr adroddiad yn amlygu heriau a chyfleoedd allweddol ar gyfer diogelu a chryfhau sector diwylliannol Cymru a’r Gymraeg.
Ychwanegodd Mr Walker: “Gyda buddsoddiad ar drai, mae angen dybryd yn awr i greu gweledigaeth hirdymor i sicrhau cefnogaeth gynaliadwy i’r sector. Mae gennym brosiectau anhygoel sy’n digwydd ledled Cymru, ac mae angen i ni fynd ati’n rhagweithiol i sicrhau bod y cyfleoedd hyn nid yn unig yn cael eu hamddiffyn, ond hefyd yn cael eu gwella i bawb, waeth ble rydych chi’n byw.”
Mae Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliant Rhondda Cynon Taf (RhCT), gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, wedi ariannu dau artist lleol i ddatblygu eu harfer artistig trwy ymgysylltiad cymunedol arwyddocaol yn Nhreorci a’r ardaloedd cyfagos ar gynllun Artistiaid mewn Gwasanaeth. Mae’r rhaglen, unigryw ei hymagwedd, yn blaenoriaethu datblygu perthynas â thrigolion, gan sicrhau bod lleisiau cymunedol yn trwytho mentrau diwylliannol RhCT yn uniongyrchol yn y dyfodol.
Jên Angharad yw Prif Weithredydd yr elusen celfyddydau cymunedol, Artis Community Cymuned, sy’n rhedeg YMa: Canolfan Diwylliant, Creadigrwydd, Celfyddydau ym Mhontypridd, cartref i theatr stiwdio, mannau cymunedol, clybiau a dosbarthiadau a Chaffi Llyfrgell Pethau a Thrwsio.
Mae’r ganolfan, ar Stryd y Taf yng nghanol y dref, wedi gweithio gyda’r cynllun.
Meddai: “Gall cymryd rhan mewn profiadau creadigol helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod eu bod yn fwy nag y maent yn meddwl eu bod.
“Gall pobl ddod o hyd i’w hyder, eu sgiliau a’u pwrpas.
“Efallai nad yw celf yn cael ei weld fel rhywbeth sy’n achub bywydau ar unwaith, ond mae
tystiolaeth yn dangos y gall chwarae rhan fawr mewn gwella llesiant ac atal afiechyd”.
Yn ddiweddar, defnyddiodd tîm Datblygu’r Celfyddydau Bwrdeistref Sirol Caerffili y celfyddydau i ddod â grŵp o breswylwyr cartrefi gofal at ei gilydd, tra hefyd yn cefnogi gweithwyr creadigol proffesiynol lleol. Wedi’i leoli yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon, un o’i brosiectau nodedig oedd Disgo Tawel Symud Tywysedig a gynlluniwyd i frwydro yn erbyn ynysu cymdeithasol ac i wella llesiant.
Disgrifiodd Barbara, sy’n byw yn y cartref gofal, sy’n 90 oed ac wedi byw gydol ei hoes yng Nghaerffili, fel yr oedd y disgo’n ennyn atgofion melys. Meddai: “Mae’r disgo yn wledd go iawn oherwydd mae’n dod â ni i gyd at ein gilydd ac yn gwneud i ni symud fel roedden ni’n arfer symud pan roedden ni’n iau.”