Cymru Can
Meysydd Ffocws
Dros y saith mlynedd nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar faterion sy'n cysylltu ac yn cyfrannu ar yr un pryd at bob un o'n pum cenhadaeth.
O’r fferm i’r fforc, mae bwyd yn hollbwysig i gyflawni nodau llesiant Cymru ar gyfer iechyd ein pobl a’n planed.
Rhagwelir y bydd allyriadau carbon o amaethyddiaeth yn cynyddu, tra bod y system fwyd yn cyfrannu at golli natur a datgoedwigo byd-eang. Rydym yn gwastraffu bwyd ar gyfradd anghynaliadwy ac mae costau bwyd cynyddol a lefelau cynyddol o salwch sy’n gysylltiedig â diet, gan gynnwys gordewdra, ynghyd â newid yn yr hinsawdd a chadwyni cyflenwi bwyd byd-eang ansicr, yn peri heriau hirdymor enfawr i lesiant Cymru a’n gallu i fwydo cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Ni ddylai’r ffaith bod diogelwch bwyd Cymru yn dibynnu’n fawr ar y DU a systemau bwyd byd-eang ein hatal rhag cymryd camau lle y gallwn. Mae ar Gymru angen cynllun gwydn, hirdymor sy’n symud effaith amaethyddol tuag at gael canlyniad cadarnhaol ar adfer hinsawdd a natur, gan sicrhau dietau diogel, fforddiadwy ac iach i bobl, yn enwedig plant.
Mae cymunedau gwledig a ffermio yn rhan fawr o’r ateb – maen nhw’n rhan annatod o fwydo Cymru, gwarchod byd natur ac yn rhan o’n diwylliant bywiog a’r Gymraeg yn ffynnu.
Rhaid i wasanaethau cyhoeddus ddefnyddio eu hysgogwyr ar gyfer newid, er enghraifft, gwneud mwy i hwyluso tyfu cymunedol a defnydd cynaliadwy o dir, ystyried goblygiadau ehangach penderfyniadau cynllunio ar gymunedau a natur, darparu fframwaith cymorthdaliadau a grantiau ffermio a deall yr effaith leol a byd-eang o wariant ar fwyd.