Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 308 [source_item_id] => 3636 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 294 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => 5f5b1684-095e-4117-9868-8221f0d7c19a [type] => translation [type_name] => Translation ) [1] => stdClass Object ( [id] => 310 [source_item_id] => 3637 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 294 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => 708af4ae-3915-40d7-aacb-029238d1e3fe [type] => translation [type_name] => Translation ) [2] => stdClass Object ( [id] => 312 [source_item_id] => 3638 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 294 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => f46f5526-de11-4650-a74b-0b8ac0cb0826 [type] => translation [type_name] => Translation ) [3] => stdClass Object ( [id] => 396 [source_item_id] => 1018 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 294 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => f49b8560-5000-4620-a501-8a3239c8ecb6 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Cyflwyniad

Sefydlwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) yn 2015 i ddod ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol ynghyd i asesu a mynd i’r afael ag anghenion llesiant eu hardaloedd, fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Sefydlodd y Ddeddf Fwrdd ar gyfer pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Ond mae gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y cyfle i gydweithio ar draws Awdurdodau Lleol ac i uno, ac erbyn hyn mae 13 o BGCau ar gyfer Cymru gyfan.

Mae aelodau bwrdd fel arfer yn cynnwys arweinwyr o’r awdurdod lleol, bwrdd iechyd, yr awdurdod tân ac achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol, Llywodraeth Cymru, yr heddluoedd, y comisiynydd heddlu a throseddu a’r gwasanaethau prawf. Gallant hefyd wahodd sefydliadau eraill.

 

Mae dyletswyddau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys:

  • Asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd, a elwir yn ‘asesiad llesiant;’
  • Gosod amcanion lleol sydd wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o’u cyfraniad at nodau llesiant Cymru a chyhoeddi Cynllun Llesiant
  • Cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny.

Mae BGCau yn cyhoeddi cynlluniau llesiant bob pum mlynedd. Cyhoeddwyd y cynlluniau llesiant cyntaf yn 2018 a chyhoeddwyd y cynlluniau diweddaraf yn haf 2023. Rhaid i gynlluniau llesiant lleol nodi amcanion a chamau y bwriedir iddynt wella pedwar dimensiwn llesiant ei ardal.

Mae’r Comisiynydd yn rhoi cyngor i bob Bwrdd yn ystod y broses hon – gallwch ddarllen ein canfyddiadau diweddaraf yn Llesiant yng Nghymru: trosolwg. Gallwch hefyd ddarllen ein blog ‘Beth mae’r cynlluniau llesiant newydd yn ei ddweud wrthym am waith a chynnydd BGCau yng Nghymru?’ yma.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u rôl yma.