Mae cronfeydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi chwaraeon cynhwysol ledled Cymru, o rygbi cadair olwyn yn Aberystwyth i griced ym Mosg Abertawe. 

Ochr yn ochr â’n nod llesiant cenedlaethol o Gymru â Diwylliant Bywiog a’r Iaith Gymraeg Ffyniannus, Cymru yw’r unig wlad yn y byd i gydnabod llesiant diwylliannol fel rhan o ddiffiniad statudol ar gyfer datblygu cynaliadwy. 

Yn gadarnhaol, yn 2023 roedd cynnydd o 39% yn nifer yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos, y gyfradd uchaf a gofnodwyd gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. 

Ond, mae cyllid ar gyfer llesiant diwylliannol yn aml yn un o’r meysydd cyntaf i gael eu torri yn ystod adolygiadau cyllideb, er gwaethaf ei gyfraniad at atal afiechyd a lleihau anghydraddoldeb, ac nid yw’n hygyrch i bawb. 

Yr heriau:

  • Mae pwysau cyllidebol ar gyrff cyhoeddus wedi gwneud gwasanaethau diwylliant a hamdden yn arbennig o agored i niwed.
  • Ar hyn o bryd nid oes gennym fodel ariannu cynaliadwy hirdymor ar gyfer y sector diwylliannol sy’n hanfodol i’w amddiffyn a’i dyfu.
  • Nid yw pawb yng Nghymru yn gallu mwynhau ddiwylliant a chwaraeon – ar hyn o bryd rydym yn drydydd o waelod gwledydd Ewrop o ran gwariant fesul person ar wasanaethau hamdden a chwaraeon, gyda chartrefi gwledig ac incwm isel yn colli allan yn anghymesur.

Ariannu chwaraeon sy’n addas ar gyfer y dyfodol 

Trwy gyllid sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae mwy o bobl a chymunedau ledled Cymru yn cael mynediad at ac yn mwynhau chwaraeon cynhwysol. 

Canfu Chwaraeon Cymru, am £1 a dderbyniasant mewn cyllid, fod £4.44 wedi mynd yn ôl i’r economi (2023/24).

Gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Cymru a sefydliadau chwaraeon eraill, mae Foundation 4 Sports Coaching wedi cynnal digwyddiadau chwaraeon Ramadan Hanner Nos yng Nghaerdydd, gan gynnig pêl-fasged, pêl-droed, tenis bwrdd, sboncen, dosbarthiadau i fenywod yn unig a mwy o 11pm i 1am, ar ôl gweddïau taraweeh. Gan groesawu mwy na 250 o gyfranogwyr bob penwythnos, roedd y sesiynau hwyr y nos yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd, cymdeithasu a bod yn gorfforol egnïol ar adegau mwy hygyrch. 

Y 30,000fed derbynnydd o gyllid y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru, mae Clwb Rygbi Cadair Olwyn newydd y Scarlets ac Aberystwyth wedi cael ei gefnogi i gael gwared ar rwystrau i chwaraeon i bobl anabl yn yr ardal. Gyda chyllid ar gyfer 10 cadair olwyn rygbi, offer hyfforddi a chymorth datblygiadol i hyfforddwyr gwirfoddol, mae’r Clwb wedi caniatáu i bobl yng nghefn gwlad Cymru gael mynediad at chwaraeon cynhwysol. 

Mark Baines, Sylfaenydd y Clwb a Swyddog Datblygu Cymru ar gyfer Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr

“Mae hi wastad wedi bod yn anoddach i bobl yng nghefn gwlad Cymru gael mynediad at chwaraeon.

 

Rydym am roi’r un cyfleoedd i bobl â phawb arall fel y gall ein pobl ifanc a chenedlaethau’r dyfodol elwa nid yn unig o agweddau iechyd a lles chwaraeon, ond hefyd o’i ochr gymdeithasol.”

Torri rhwystrau i chwaraeon cynhwysol

Yn Wrecsam, mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cefnogi sesiynau blasu pêl-gôl, camp dîm paralympaidd i bobl ddall a phobl â golwg rhannol, gyda chynlluniau i sefydlu’r clwb chwaraeon cyntaf i bobl â nam ar eu golwg yng Ngogledd Cymru. 

Mae Mosg Abertawe, y mosg fwyaf yng Nghymru, yn cefnogi pobl ifanc Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig lleol i gymryd rhan mewn chwaraeon, gwella eu hiechyd a meithrin cysylltiadau. Gyda chefnogaeth Criced Cymru, mae ganddynt bellach neuadd aml-chwaraeon gwbl hygyrch gyda lifft newydd, gorchuddion ffenestri rhwyll, goleuadau effeithlon o ran ynni a rhwydi criced, a ddefnyddir hefyd i gynnal gweithgareddau llesiant ar gyfer y gymuned. 

“Roeddem am sicrhau y gallai gweithgareddau chwaraeon a llesiant dan do gael eu cyflawni’n ddiogel gan bawb, ond mae’n gymaint mwy na neuadd chwaraeon yn unig; mae’n ased cymunedol hanfodol, a ddefnyddir bob dydd i hybu iechyd, llesiant a chydlyniant cymdeithasol. Rydym yn cynnal ffeiriau cymunedol a diwrnodau agored, digwyddiadau priodas, rhaglenni brechu ac rydym hefyd yn darparu bwyd poeth yn ystod Iftar dyddiol yn ystod Ramadan ar gyfer hyd at 300 o bobl.”

Farid Ali, Rheolwr Cyfleusterau’r Ganolfan