Mae GwyrddNi, mudiad dan arweiniad y gymuned, yn dod â phobl ynghyd o bum ardal yng Ngwynedd i weithredu ar newid hinsawdd. 

Mae cynnwys y gymuned wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu hymgorffori mewn penderfyniadau lleol a chenedlaethol yn hanfodol. 

Ond ar hyn o bryd mae ymddiriedaeth yn ein sefydliadau cyhoeddus yn lleihau, mae’r ffenestr i atal difrod anadferadwy o ganlyniad i newid hinsawdd yn cau ac mae anghydraddoldeb yn cynyddu. Os nad yw lleisiau pobl yn cael eu clywed, bydd ymddiriedaeth yn parhau i erydu, a byddwn ar y trywydd iawn am ddyfodol anadnabyddadwy. 

Yr heriau:

  • Yr argyfyngau hinsawdd a natur yw’r heriau diffiniol i’n cenhedlaeth ac maent eisoes yn peryglu ein cartrefi, ein hiechyd a’n dyfodol.
  • Mae targed sero net y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer 2030 yn sbardun pwysig ar gyfer newid, ond ni fydd llawer o gyrff cyhoeddus yn ei gyrraedd heb adnoddau ychwanegol a dull traws-sector. 

GwyrddNi  

Mudiad dan arweiniad y gymuned sy’n gweithio ar draws pum ardal yng Ngwynedd yw GwyrddNi, sy’n dod â phobl ynghyd i weithredu ar newid hinsawdd. 

Wedi’i gyflwyno gan Ddatblygiadau Egni Gwledig, Partneriaeth Ogwen, Yr Orsaf, Cwmni Bro, Ynni Llŷn a Chyd Ynni, mae GwyrddNi wedi arwain cynulliadau cymunedol i gyd-gynhyrchu cynlluniau gweithredu lleol; wedi gweithio gyda mwy na 600 o blant ysgol i wireddu eu syniadau ar gyfer dyfodol mwy gwyrdd a chynaliadwy; ac maent yn cefnogi gweithredu o amgylch ystod eang o brosiectau gan gynnwys atgyweirio ac ailddefnyddio, teithio llesol, ynni cymunedol, ôl-osod, ac adfer natur. 

Cymunedau’n rhoi hwb i weithredu 

Wedi’i ysbrydoli gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chan gydnabod yr angen brys am weithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur, treuliodd GwyrddNi ddwy flynedd yn cynnwys 500 o gyfranogwyr o bob cwr o Wynedd mewn cynulliadau a gweithdai hinsawdd cymunedol. 

Gan adlewyrchu demograffeg yr ardal, archwiliodd y cynulliadau brofiadau lleol o newid hinsawdd a sbarduno trafodaethau ynghylch atebion a phrosiectau posibl. 

Roedd mwy na 650 o blant ysgol hefyd yn cymryd rhan a helpodd i gyd-greu cynlluniau gweithredu cymunedol a oedd wedi’u llunio gan bryderon penodol yr ardal. 

O’r cynlluniau, daeth cysylltiadau cymunedol cryfach a mentrau llwyddiannus i’r amlwg: 

  • Gyda chefnogaeth GwyrddNi, dechreuodd Nigel Williams, 60, Ardd Gymunedol Gardd Nant ac mae bellach yn trefnu digwyddiadau cymunedol gan gynnwys diwrnodau plannu hadau, coed a llysiau a chasglu sbwriel gydag ysgolion lleol. 
  • Mae sesiynau Paned i’r Blaned wedi caniatáu i bobl gyfarfod a thrafod materion amgylcheddol yn anffurfiol drwy gyfrwng y Gymraeg. 
  • Mae Gŵyl Hinsawdd flynyddol wedi dod â phobl sy’n ymwneud â gweithredu hinsawdd lleol at ei gilydd i rannu profiadau a gwybodaeth ac wedi cynnig gweithgareddau gan gynnwys celf a chrefft, teithiau beicio a thrwsio beiciau, creu blychau nythu a phlannu. 

 

Mae hyblygrwydd, cydweithio a chynhwysiant wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn. Drwy bontio bylchau rhwng siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, hyfforddi a chefnogi hwyluswyr a chaniatáu i leisiau pawb gael eu clywed, adeiladodd cymunedau ymddiriedaeth ac roeddent yn agored i ddadl ac anghytundebau y cytunwyd arnynt.