Mae tîm Datblygu Celfyddydau Caerffili yn cyflwyno mentrau celfyddydau arloesol a rhyng-genhedlaeth mewn cartrefi gofal ac yn cefnogi prentisiaid creadigol i redeg cynlluniau lleol. 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystyried llesiant diwylliannol yr un mor bwysig â llesiant economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ac yn cydnabod ei effaith sylweddol ar fywydau pobl, gan gynnwys ein hiechyd a’n llesiant. 

Ond ar hyn o bryd, nid ydym yn gweithio digon gyda chymunedau i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd nac yn cydnabod pwysigrwydd ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.

Yr heriau: 

  • Mae cyllid ar gyfer llesiant diwylliannol yn aml yn un o’r meysydd cyntaf i gael eu torri yn ystod adolygiadau cyllideb, er gwaethaf ei gyfraniad at atal afiechyd a lleihau anghydraddoldeb. 
  • Nid yw pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ddiwylliant a’r celfyddydau – ar hyn o bryd rydym yn drydydd o waelod gwledydd Ewrop ar gyfer gwariant fesul person ar wasanaethau hamdden a chwaraeon, ac yn ail o’r gwaelod ar gyfer gwasanaethau diwylliannol. 
  • Nid yw iechyd a gofal cymdeithasol yn blaenoriaethu atal ac ar gyfartaledd, rydym yn treulio’r 20 mlynedd diwethaf o’n bywydau mewn afiechyd.
  • Nid yw llawer o gyrff cyhoeddus yn mynd i’r afael yn llawn â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd o fewn eu cylchoedd gwaith. 

 

Datblygu Celfyddydau yn arwain y ffordd 

Mae tîm Datblygu Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio’r celfyddydau i ddod â phobl ynghyd, meithrin llesiant, a chefnogi gweithwyr proffesiynol creadigol. 

Wedi’i leoli yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon, mae’r tîm yn rhedeg cynllun prentisiaeth sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth ac iechyd ac yn cyflwyno mentrau celfyddydau arloesol mewn cartrefi gofal gan gynnwys disgos tawel a dosbarthiadau ymarfer corff eisteddog, prosiectau a gynlluniwyd i leihau unigrwydd, cadw pobl yn egnïol a gwella llesiant trwy ddod â phobl o’r gymuned ynghyd. 

Mae iechyd da yn fwy na ysbytai 

Un o’u prosiectau nodedig yw’r Disgo Tawel Symudiad Tywysedig. Y cyntaf o’i fath yng Nghymru, mae’r disgos yn hyrwyddo llesiant corfforol, emosiynol a chymdeithasol yng nghartrefi gofal Caerffili trwy annog symudiad, codi hwyliau, a meithrin profiadau a rennir. 

Mae cartrefi gofal awdurdodau lleol yn aml yn wynebu rhwystrau fel cyllidebau cyfyngedig a diffyg cydlynwyr gweithgareddau, gan leihau cyfleoedd ymgysylltu i breswylwyr ond trwy gydweithio ag ysgolion lleol, maent wedi llwyddo i gynnal sesiynau rhyng-genhedlaeth sydd hefyd yn helpu i chwalu rhwystrau ac annog rhyngweithio ystyrlon. 

Mae’r disgos yn cymryd dull sy’n canolbwyntio ar y person ac yn teilwra rhestrau chwarae a sesiynau i ddiwallu anghenion pob cartref gofal. Trwy ddefnyddio clustffonau disgo tawel, mae’r sesiynau’n caniatáu i bobl mewn ystafelloedd eraill gymryd rhan, gan sicrhau y gall pawb, waeth beth fo’u symudedd neu eu hyder, ymgysylltu â’r gerddoriaeth. 

Maent hefyd yn amrywio’r gerddoriaeth a chwaraeir; yn hytrach na chwarae hen ganeuon rhyfel yn unig, mae preswylwyr yn profi cerddoriaeth newydd ac yn cael eu cyflwyno i ganeuon na fyddent efallai wedi’u clywed fel arall.

Mae llwyddiant y prosiect hwn wedi dibynnu ar berthnasoedd cryf rhwng cartrefi gofal, ysgolion ac ymarferwyr celfyddydau, ac i’r rhai sy’n edrych i atgynhyrchu, byddem yn argymell cyswllt pwrpasol o fewn pob lleoliad i sicrhau cydlynu llyfn a chynyddu effaith y prosiect ar lesiant ac ymgysylltiad cymdeithasol.

Dod â Chaerffili ynghyd drwy’r celfyddydau

Dr Bethan Ryland, Datblygu Celfyddydau Caerffili

“Os yw ysgolion a chartrefi gofal yn cydweithio, gallwn greu rhywbeth arbennig iawn sy’n dod â chenedlaethau gwahanol at ei gilydd.

 

Mae’r gorffennol yn siapio’r presennol ac yn ein helpu i ddychmygu’r dyfodol, ni waeth ein hoedran.  

 

Boed yn ifanc neu’n hen, mae gennym ni i gyd ddyfodol, a harddwch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw ei bod yn annog pobl i gymryd rhan mewn profiadau sy’n cysylltu cenedlaethau, gan ein hatgoffa bod y dyfodol yn eiddo i bawb.”