Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cynnwys cymunedau mewn ymarferion dyfodol o amgylch bwyd i’w helpu i ragweld dyfodol mwy gobeithiol a chynaliadwy. 

Nid dim ond un o’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw meddwl am y hirdymor – dyma’r syniad sydd wrth wraidd y ddeddfwriaeth. 

Ond gall ceisio edrych ymlaen fod yn anodd pan fydd materion a blaenoriaethau wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y presennol ac mae ein cylchoedd ariannu yn blaenoriaethu meddwl tymor byr. 

Yr heriau:

  • Mae anghydraddoldebau iechyd yn cynyddu, ac mae newid hinsawdd yn gwaethygu.
  • Mae ymddiriedaeth yn ein sefydliadau cyhoeddus yn dirywio, mae pobl wedi’u rhannu ac yn teimlo nad ydyn nhw’n dylanwadu’n ystyrlon ar benderfyniadau ar lefel leol neu genedlaethol.
  • Er ei fod yn ffordd dda o gysylltu pobl, mae ein system fwyd wedi torri ac yn anghynaliadwy.

Yn Ôl i’r Dyfodol 

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi bod yn defnyddio technegau ymgysylltu arloesol, yn amrywio o “gardiau post o’r dyfodol” a ysgrifennwyd gan y gymuned i brofiad teithio amser trochol, i gynnwys pobl ifanc a llywio eu strategaeth hirdymor, Dyfodol y Bannau. 

Drwy eu cefnogi i ddychmygu dyfodol posibl gwahanol, creodd myfyrwyr o flynyddoedd 8 a 9 Ysgol Uwchradd Crughywel gynlluniau a chyflwyno atebion i lunwyr polisi yn y cyngor lleol. 

Bannau Brycheiniog yn harneisio adrodd straeon y dyfodol

Helen Lucocq, cyn Bennaeth Strategaeth a Pholisi yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae bwyd yn ffordd wych o gysylltu pobl â materion ehangach… Mae angen i bawb fwyta, ond bwyd yw un o’r prif ffactorau sy’n achosi allyriadau nwyon gwydr ac mae’n cyfrannu at gyflyrau iechyd y gellir eu hatal fel diabetes Math 2 a chanser. 

 

Roedd angen ffordd arnom i siarad heb ddieithrio pobl, lle’r oedd ein ffocws ar weithredu ar y cyd heddiw am yfory gwell, felly datblygwyd Bwyd y Dyfodol.”  

Bwyd y Dyfodol 

Gan gydnabod effaith amgylcheddol a chymdeithasol ein systemau bwyd, gweithiodd yr Awdurdod i ymgysylltu â chymunedau a phobl ifanc mewn ffordd heb bolareiddio. 

Trwy “beiriant amser” trochol (planetariwm chwythu i fyny), arweiniwyd y myfyrwyr trwy ffilmiau rhyngweithiol ac animeiddiedig gan gymeriad ffuglennol, Mrs Brychan, o amgylch hanes systemau bwyd o 1939 i 2039.  

Gan ddysgu am ddogni, goruchafiaeth archfarchnadoedd, ac effeithiau cadwyn gyflenwi fyd-eang, dysgodd y myfyrwyr sut mae newid yn bosibl o fewn un oes, gan eu hysbrydoli i feddwl yn feirniadol am y presennol a breuddwydio am y dyfodol. 

Yna creodd a chyflwynodd myfyrwyr eu rhaglenni dogfen o’r dyfodol eu hunain, gan ddychmygu atebion ar gyfer system fwyd fwy gwydn a theg i lunwyr polisi ac arweinwyr yn y cyngor. 

Bu’r plant hefyd yn cymryd rhan mewn ymarferiad lle buont yn edrych ar fodel yn cynrychioli Bannau Brycheinog i siarad am ei gorffennol, y presennol a’r dyfodol, gan greu eu baneri eu hunain gydag addewidion i greu dyfodol gwell. 

Wynebodd y prosiect heriau logistaidd, gan gynnwys costau uchel a chyfyngiadau hygyrchedd y planetariwm ac mae bellach yn archwilio technoleg VR i wneud y profiad yn fwy hygyrch, gan ei gwneud hi’n haws i sefydliadau eraill yng Nghymru ddilyn yn eu hôl troed. 

Yn gadarnhaol, mae cynlluniau ar waith i Fannau Brycheiniog weithio ar y cyd â Chyngor Sir Powys i ddylanwadu ar strategaethau bwyd lleol, gan ddangos potensial adrodd straeon creadigol am y dyfodol wrth lunio polisïau fel y gall cenedlaethau’r dyfodol weithio gyda llunwyr polisïau i adeiladu’r byd gyda’i gilydd. 

“Mae’r trafodaethau a gafodd ein myfyrwyr blwyddyn 8 a 9 gyda rhanddeiliaid lleol wedi rhoi llais pwerus iddynt wrth lunio dyfodol bwyd cynaliadwy. Mae’r prosiect hwn nid yn unig wedi chwyddo eu lleisiau, mae wedi eu grymuso i ysgogi newid gwirioneddol ar gyfer dyfodol mwy diogel a chynaliadwy.”

Natalie Armotto-Oliver, athrawes yn Ysgol Uwchradd Crughywel