Search Icon

|

Cyflwyniad i AACD

Mae Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn grŵp o bobl ifanc 18-30 oed sy’n gweithredu dros genedlaethau’r dyfodol ar draws cymdeithas Cymru.

Mae’r rhaglen uchelgeisiol ac arloesol hon yn dod â phartneriaid o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru ynghyd, gan gydweithio i hyfforddi unigolion ifanc o bob cwr o Gymrui ddatblygu arweinyddiaeth a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

"Rwy’n mwynhau’r rhaglen yn fawr ac yn dysgu am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yn bendant dyma’r cwrs arweinyddiaeth gorau i mi fod arno erioed!"

Caitlin Rodrigues | Tîm Profiad Cwsmer, Cymdeithas Adeiladu PrincipalityTîm Profiad Cwsmer, Cymdeithas Adeiladu Principality

Cyn-fyfyrwyr Academi Arweiny ddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhannu eu barn fel rhan o sgwrs Ffocws Ein Dyfodol gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Derek Walker.

Mwy

Mwy o wybodaeth

Wedi’u dewis trwy recriwtio agored a nawdd cyflogaeth, mae arweinwyr y dyfodol yn cychwyn ar raglen 8 mis trwy ddysgu ar-lein a digwyddiadau preswyl personol.

Mae’r Academi wedi ymrwymo i gefnogi ystod amrywiol o arweinwyr y dyfodol i:

  • Ddatgloi a chryfhau sgiliau arwain.
  • Cyflawni nodau personol a phroffesiynol.
  • Dysgu popeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi dod yn gonglfaen llunio polisi yng Nghymru.
  • Rhwydweithio a gwneud cysylltiadau â phobl ledled Cymru.
  • Bod yn rhan o rwydwaith Alumni ymgysylltiedig, sy’n darparu cyfleoedd parhaus i raddedigion yr Academi.
  • Adeiladu mudiad dros newid ar gyfer y Ddeddf mewn cymunedau a sefydliadau ledled Cymru.

Ein Tîm

Cwrdd â Thîm yr Academi

Jonathan Tench

Cyfarwyddwr: Economi a Rhaglenni Llesiant

Mae Jonny yn arwain ein cenhadaeth Economi Llesiant sy’n cynnwys ymgysylltu y sector preifat wrth roi nodau llesiant Cymru ar waith. Mae'n arwain ein rhaglen Ffocws ar Fwyd sy'n hybu mynediad cynyddol at ddiet fforddiadwy, iach a chynaliadwy ledled Cymru. Mae Jonny hefyd yn cefnogi cyflwyno ein Hacademi Arwain, gan gefnogi pobl ifanc yng Nghymru i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth am ddatblygu cynaliadwy. Mae'n aelod o gôr Technicolor Caerdydd.

Korina Tsioni

Arweinydd Rhaglen: Academi Arweinwyr y Dyfodol

Mae Korina yn canolbwyntio ar waith Academi Arweinwyr y Dyfodol, ac mae’n angerddol am gyfiawnder cymdeithasol ac arloesi dysgu. Trwy’r rhaglen, mae arweinwyr ifanc o bob cefndir yn deall pensaernïaeth a gweithrediad da’r Ddeddf yn llawn. Maent yn graddio gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i gymhwyso’r Ddeddf ym mhopeth a wnânt, ac i wynebu’r heriau ar hyd y ffordd. Mae Korina yn gwirfoddoli fel Ymddiriedolwr. Mae hi hefyd yn caru natur a diwylliant. Mae hi'n cynnal digwyddiadau amlddiwylliannol sy'n cyfuno pob math o gelfyddyd -ac yn gweithio fel cerddor a dawnsiwr.

Rebecca Leyla

Cynorthwy-ydd yr Academi

Rebecca yw ein Cefnogaeth Academi Arweinwyr y Dyfodol. Mae hi'n angerddol am ddeialog rhyngddiwylliannol a chreunewid cynaliadwy hir-barhaol a fydd yn gwneud ein byd yn fwy caredig.Yn ei hamser rhydd, mae Rebecca wrth ei bodd yn coginio i’w chymuned yng Nghaerdydd, yn enwedig ryseitiau o’i threftadaeth Iran.Mae hi hefyd wrth ei bodd yn teithio ac wedi byw mewn pum gwlad wahanol, sef Periw yn fwyaf diweddar. Mae hi'n angerddol am ddeialog rhyngddiwylliannol a chreu newid cynaliadwy hir-barhaol a fydd yn gwneud ein byd ychydig yn fwy caredig.
Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol

Y Rhaglen

Manylion Cwrs AACD

Edrychwch yn fanylach ar yr hyn a gyflwynir ar y rhaglen 8 mis ar gyfer pobl ifanc 18-30 oed yn Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dysgwch Mwy

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am yr academi

cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru