Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i lansio treial wythnos waith fyrrach.
Rwyf wedi cyhoeddi fy adroddiad Dyfodol Addas i Gymru: y map ffordd ar gyfer wythnos waith fyrrach yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu wythnos waith fyrrach mewn rhannau o’r sector cyhoeddus.
Mewn partneriaeth â’r felin drafod flaengar Autonomy, mae fy adroddiad yn canfod bod wythnos waith fyrrach yn amlweddog ac yn cyfeirio at nifer o heriau economaidd a chymdeithasol a wynebir gan Gymru. Mae’n argymell strategaeth driphlyg yn galw am dreialu yn sector cyhoeddus Cymru, coalisiwn o’r rhai parod yn sefydliadau’r sector preifat a’r trydydd sector a chydweithio gydag Undebau Llafur fel y gall negodiadau ar oriau byrrach ddigwydd ar draws ystod o weithleodd amrywiol.
Nid yw’r wythnos waith wedi newid dros gyfnod o 100 mlynedd ac mae model hen ffasiwn o’r oes ddiwydiannol yn golygu bod yr amser wedi dod i archwilio sut y gellid gwneud pethau’n wahanol. Gyda phrinder talent yn y farchnad yn dilyn COVID a sbardunodd hefyd newid mewn blaenoriaethau unigol, byddai manteision lleihau oriau gwaith heb leihad cysylltiedig mewn tâl yn bellgyrhaeddol.
Dengys canfyddiadau’r adroddiad y byddai 76% o’r cyhoedd yng Nghymru’n cefnogi rhannu gwaith fel bod pawb yn medru cyflawni cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith gyda 57% o’r boblogaeth yn cefnogi cynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio syniadau cyd-gysylltiedig i ddatblygu datrysiadau hirdymor, i gymryd pob cam rhesymol i gyflawni ei hamcanion llesiant ac atal problemau. Gallai wythnos waith fyrrach ffurfio rhan o set o fesurau ataliol a fyddai’n mynd i’r afael ag allyriadau carbon, anghydraddoldeb sydd wedi ymwreiddio, gwelliant mewn sgiliau a gwelliant yn llesiant gweithwyr. Mae hyn yn ymwneud â symud i economi llesiant a chael model economaidd sy’n gosod pobl a phwrpas cyn elw.
Gallwch ddarllen yr adroddiad a’i ganfyddiadau mewn amrywiaeth o fformatau isod.