Mewn cydweithrediad â Synnwyr Bwyd Cymru, rydym wedi cyd-gynhyrchu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru ar sut y gallant weithio gyda Phartneriaethau Bwyd Lleol a chymunedau i wella systemau bwyd lleol.
Rydym yn gwybod, heb gamau brys i gynyddu mynediad at fwyd lleol, iach a chynaliadwy, na fydd Cymru yn gallu cyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Yn ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 rydym wedi galw ar bob awdurdod lleol i ddatblygu cynllun cydnerthedd bwyd lleol mewn cydweithrediad â Phartneriaethau Bwyd Lleol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a newid ein system fwyd er gwell.
I gefnogi awdurdodau lleol i greu dyfodol iachach a mwy cydnerth, mae’r canllawiau hyn yn amlinellu arfer da, astudiaethau achos ac adnoddau ynghylch y polisïau sy’n gysylltiedig â bwyd y gall awdurdodau lleol eu rheoli a dylanwadu arnynt. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar lywodraethu, cynllunio, caffael, mynediad at fwyd, hyrwyddo dietau iach a gwastraff bwyd.