Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 958 [source_item_id] => 8542 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 61133 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 8ed52a93-dc4b-44e6-adf6-ce8025e3db3e [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Mae ein Pwyllgor Archwilio a Risg (ARAC) yn gyfrifol am roi cyngor a sicrwydd annibynnol i’r comisiynydd (yn gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu) a’r Tîm Arweinyddiaeth ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd rheolaeth fewnol a rheoli risg. 

Rhennir adroddiad cyllid ac adroddiad cynnydd perfformiad chwarterol gydag aelodau ARAC yn ogystal ag adroddiadau archwilio mewnol rheolaidd, ein cofrestr risg strategol, adroddiadau eithriadau ar faterion llywodraethu a chorfforaethol ac adroddiadau mewn ymateb i unrhyw risgiau neu heriau penodol sy’n codi. 

Mae ARAC hefyd yn craffu ar ein hadroddiad blynyddol, cyfrifon statudol ac adroddiadau archwilwyr allanol. 

Pwyllgor Archwilio a Risg

Cwrdd â'n ARAC

Mair Gwynant

Cadeirydd

Mae Mair yn gymrawd o Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr gyda dros 30 mlynedd o brofiad fel gweithiwr cyllid proffesiynol.
Treuliodd 10 mlynedd fel archwilydd ac ymgynghorydd gyda Deloitte (a Touche Ross gynt) cyn symud ymlaen i ddal nifer o rolau uwch yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru.

Mae hi bellach yn rhedeg ei phractis ymgynghori ei hun gan ddarparu ystod o wasanaethau datblygu busnes i sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector, gan hyrwyddo llywodraethu da, rheolaeth risg ac ariannol effeithiol, a gwerth am arian.

Ar hyn o bryd mae hi'n gadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg, Cyfarwyddwr Adnodd Cyf ac aelod annibynnol o Bwyllgor Archwilio a Risg Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hi wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, cadeirydd Buddsoddiad Cymdeithasol (Cymru) Cyf, cyfarwyddwr anweithredol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd ac ymddiriedolwr yr Uned Polisi Arian ac Iechyd Meddwl a Sefydliad Gŵyl y Gelli.

Mae Mair yn rhugl yn y Gymraeg ac yn byw gyda'i theulu yng Nghaerdydd.

Peter Davies

Mae cefndir gyrfa Peter ym maes cyfrifoldeb corfforaethol yn gweithio i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, yr Adran Masnach a Diwydiant a Busnes yn y Gymuned.

Fe'i penodwyd yn Is-gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy'r DU yn 2006, gan ddod yn Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru yn ddiweddarach ac yn gadeirydd Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru, gan chwarae rhan allweddol yn natblygiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Bu'n gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 2015-2022 ac ar hyn o bryd mae'n gadeirydd ar Ynni Cymunedol Sir Benfro, y Sefydliad dros Ddemocratiaeth a Datblygu Cynaliadwy, yn cyd-gadeirio'r Bwrdd Datblygu ar gyfer Gwasanaeth Natur Cymru ac mae'n geidwad cymunedol i Riversimple.

Phil George CBE

Bu Dr Phil George CBE yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru o fis Ebrill 2016 tan fis Mawrth 2023. Roedd ei yrfa hir ym myd darlledu yn cynnwys 15 mlynedd fel Cyfarwyddwr Creadigol a chyd-sylfaenydd y cwmni cynhyrchu arobryn Green Bay Media, a chyn hynny roedd yn Bennaeth Celfyddydau, Cerddoriaeth a Nodweddion BBC Cymru.

Fran Targett OBE

Fran yw Cadeirydd annibynnol Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru sy’n darparu cyngor i Weinidogion Cymru ar wasanaethau gwybodaeth a chyngor. Ymddeolodd Fran ym mis Chwefror 2019 fel Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru ar ôl bod yn gysylltiedig â Chyngor ar Bopeth ers 1978 pan ddechreuodd fel cynghorydd gwirfoddol.

Annmarie Thomas

Dechreuodd Annmarie ei gyrfa mewn cyfrifeg cyn symud i Adnoddau Dynol, lle mae hi bellach yn Gymrawd o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Gyda bron i 30 mlynedd o brofiad yn y proffesiwn AD, mae hi wedi gweithio ar draws ystod amrywiol o sectorau, gan gynnwys addysg, gwasanaethau ariannol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a'r GIG.

Fel Ymgynghorydd AD Llawrydd, mae Annmarie yn darparu cefnogaeth arbenigol i fusnesau bach a chanolig. Mae hi hefyd yn aelod o'r Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, yn cynghori ar gyflog ac amodau i athrawon ac arweinwyr ysgolion, ac yn gwasanaethu ar y Panel Camymddygiad Proffesiynol ar gyfer y Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheoli.



Mae Annmarie yn angerddol am roi yn ôl trwy waith elusennol a gwirfoddol. Mae hi'n Gadeirydd y Llywodraethwyr yn ei hysgol gynradd leol ac yn Ymddiriedolwr i dri sefydliad: Mudiad y Ffermwyr Ifanc, CYCA, ac Angor. Yn ogystal, mae hi'n aelod gweithredol o'r pwyllgor codi arian ar gyfer ei hosbis leol.

Mae hi'n dod â chyfoeth o arbenigedd AD i ARAC, wedi'i ategu gan brofiad mwy diweddar mewn llywodraethu corfforaethol.