Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 798 [source_item_id] => 4312 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 24619 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 56f784c9-42c9-4210-8335-3d1005466809 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Ysgolion yn Nhorfaen yn cael eu pweru gan ynni gwyrdd

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £210 miliwn mewn mwy na 400 o brosiectau ers 2018, gan gynnwys ffermydd gwynt, gosodiadau solar ar doeau, cynlluniau gwresogi carbon isel, ynni dŵr a fflydoedd allyriadau sero a cherbydau trydan.

O dan nod llesiant Cymru Lewyrchus Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae angen i ni fod yn gweithio tuag at gymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n defnyddio adnoddau’n gyfrifol ac yn cefnogi poblogaeth fedrus ac addysgedig.

Er mwyn ein helpu i gyrraedd targedau sero net a dod â phobl ar y daith i ynni gwyrdd, mae angen i fwy o ynni lleol fod yn eiddo i gymunedau. Ond ar hyn o bryd nid oes digon o bobl a chymunedau yn elwa.

Yr heriau:

  • Nid ydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targedau allyriadau carbon ac ni fydd llawer o gyrff cyhoeddus heb adnoddau a chefnogaeth ychwanegol.
  • Nid yw cymunedau’n teimlo eu bod yn cael eu cynnwys na’u gwrando mewn penderfyniadau ar hinsawdd a natur ac nid ydynt yn elwa o seilwaith gwyrdd.

Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Drwy fuddsoddi mewn ynni cymunedol, mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi ffynonellau ynni solar, gwynt a dŵr sy’n eiddo i bobl leol ac yn ennill arian iddynt.

Bydd y prosiectau a gefnogir yn cyflawni tua £367 miliwn mewn incwm a chynilion lleol yn ystod eu hoes a byddant wedi atal llosgi bron i 300,000 tunnell o lo.

Ond mae angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol. Mae angen i ni weld mwy o fuddsoddiad yn y prosiectau hyn lle mae ysgolion, canolfannau iechyd ac adeiladau cymunedol yng Nghymru yn cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy, gan sicrhau bod cymunedau’n ennill ac yn arbed arian o’r ynni eu hunain.

Paneli solar ar ysgolion Torfaen

Mae pedair ar ddeg o ysgolion yn Nhorfaen yn gweld arbedion o osod paneli solar ffotofoltäig (PV), sy’n trosi golau’r haul yn uniongyrchol i ynni.

Wedi’i ariannu gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, mae’r prosiect wedi arwain at arbediad amcangyfrifedig o 2,459 tunnell o CO2 a £240,000 mewn costau ynni blynyddol ar draws Cyngor Torfaen a daeth yn offeryn addysgol i fyfyrwyr.

Ymunodd Ysgol Gynradd Garnteg – lle mae goleuo, y gegin a gwresogi yn mynd ậ’r gwariant mwyaf – â’r prosiect ddwy flynedd yn ôl ac ar ddiwrnod arferol mae’n gweld 163.09 kwh yn cael ei gynhyrchu, sy’n cyfateb i blannu 553 o goed.

Ers hynny, mae’r ysgol wedi gallu prynu gliniaduron ac iPads gyda rhywfaint o’r arian a arbedwyd ar filiau ynni.

Archwiliodd Cyngor Torfaen ysgolion gyda thoeau mawr, ac yn ddelfrydol yn wynebu’r de, wrth benderfynu ble i osod y paneli solar.

Mae’r porth ymyl solar byw hefyd yn caniatáu i ysgolion weld mewn amser real faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu ac mae yna gynlluniau i wneud y data a’r hyn a ddysgwyd o’r gosodiadau solar yn rhan o’r cwricwlwm.

“Mae’r prosiect gosod solar yn gyfle cyffrous i holl gymuned yr ysgol. Bydd yr ysgol nid yn unig yn gwneud arbedion ariannol enfawr, ond yn rhoi sgiliau bywyd hanfodol i’n disgyblion, a gwybodaeth am ynni gwyrdd ar gyfer y dyfodol.”  

Susan Roche, Pennaeth Ysgol Gynradd Garnteg

Dywedodd dysgwr 11 oed ar gyngor eco’r ysgol ei bod hi’n diffodd goleuadau yn ei chartref ac yn cerdded i’r ysgol ac yn falch o fod mewn ysgol sy’n cymryd camau newid hinsawdd ac yn canolbwyntio ar atebion ynni adnewyddadwy. Dywedodd: “Mae amddiffyn ein planed mor bwysig ac mae’n deimlad braf i fod yn gwneud gwahaniaeth.”  

Bydd yr ysgol hefyd yn elwa cyn bo hir o bwmp gwres a osodwyd gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, trwy Grant Gwres Carbon Isel yr Awdurdod Lleol.  

Ceri Williams, Swyddog Cyllid Ynni Ysgolion yng Nghyngor Torfaen

Mae canlyniadau gwych wedi eu hadrodd gan bob ysgol – hyd yn oed ar ddiwrnod cymylog, mae ynni’n cael ei gynhyrchu ac arbedion yn cael eu gwneud.

 

Mae gennym yn awr 12 mis o ddata y bydd ysgolion cyn bo hir yn gallu eu defnyddio fel rhan o’r cwricwlwm, er enghraifft ar fathemateg a llythrennedd ariannol, lle mae plant yn cael eu haddysgu i ddarllen biliau ynni.

 

Mae gennym ni darged i fod yn sero net erbyn 2050 ac mae ysgolion yn rhan fawr o weithio tuag at yr uchelgais hwnnw.”